top of page
MicrosoftTeams-image (6).png

Yn eich cartref

Wrth eich traed y mae dechrau bob tro a gallwch helpu i wneud gwahaniaeth er lles natur heb fynd ymhellach na charreg eich drws. 

1.

Drwy’r ffenestr, gallaf weld...

Gwnewch nodyn o beth rydych yn ei weld drwy’r ffenestr bob diwrnod. Cymylau a’r tywydd, lliwiau yn y dirwedd, tynnu lluniau o bwynt penodol drwy’r flwyddyn, adar... gallwch wneud arsylwadau gwerthfawr heb adael eich cartref. Cofiwch gyflwyno’ch cofnodion i SEWBReC

2.

Pwy arall sydd yn y tŷ? 

Mae digonedd o arolygon dan do y gallwch eu gwneud o’r bywyd gwyllt sy’n byw yn eich cartref. Er enghraifft, ein ffrindiau dal pryfed, y corynnod! Mae’r ap Spider in da House yn gallu’ch helpu i gychwyn arni. 

3.

Darllen, ymchwilio, ysgrifennu a chyhoeddi

Mae nifer mawr o lyfrau, adroddiadau ac astudiaethau ar gael am fyd natur i chi eu darllen a’u hystyried, neu efallai y byddech chi’n hoffi troi’ch llaw at ysgrifennu. Bydd croeso bob amser i wybodaeth leol am fyd natur yn RhCT, yn ogystal â cherddi neu storïau am y pwnc. Cofiwch rannu’r rhain â ni ar dudalen ein grŵp Facebook

4.

Rhannu’ch storïau am fywyd gwyllt

Rhannwch eich storïau am fywyd gwyllt â’ch teulu a ffrindiau er mwyn rhoi’r gair ar led a hybu ymwybyddiaeth o’n treftadaeth naturiol bwysig. Po fwyaf o bobl fydd yn gwerthfawrogi natur, mwyaf fydd y nifer sy’n ein helpu i’w gwarchod.

5.

Mae cynaliadwyedd yn helpu bywyd gwyllt

Cymerwch gamau i ddod yn fwy cynaliadwy e.e. drwy ddefnydd effeithlon o ynni a dŵr, lleihau gwastraff a’r defnydd o blastig etc. Mae pob un o’r camau hyn yn helpu bywyd gwyllt yn lleol a thrwy’r byd.

P1010597.JPG

Astudiaeth Achos

Pholcidae neu’r Corynnod Heglog

Rhywogaeth is-drofannol oedd y corryn heglog yn wreiddiol, a daeth yma o ganlyniad i fasnachu rhyngwladol yn oes Victoria. Ers hynny, mae’r corynnod hyn wedi dod yn un o’r rhywogaethau mwyaf amlwg yn ein tai. Mae tair rhywogaeth ohonynt yn y DU, dwy ohonynt i’w cael yn aml mewn tai.

 

Mae’n un da iawn am ddal infertebratau a bydd hyd yn oed yn dal corynnod tŷ os na fyddant yn ofalus. Os nad ydych yn digwydd bod yn gorryn tŷ, gall golwg gyfarwydd y corryn heglog yng nghornel yr ystafell, neu o dan silff mewn cwpwrdd yn y gegin, fod yn un gysurus bron: un enghraifft bosibl o gytrefu llwyddiannus a rhyfedd o ddymunol gan rywogaeth anfrodorol.

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg cenedlaethol o gorynnod heglog drwy ddilyn y ddolen hon

  • YouTube

© 2023 Partneriaeth Natur Llol RhCT

Datganiad Preifatrwydd

bottom of page