
Teuluoedd a Phlant
Mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer teuluoedd â phlant sydd am gymryd camau er lles natur wrth dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd.
1.
Mynd ar Helfa Gnau Pathewod
Gweithgarwch braf i’w wneud gyda’r plant yn yr hydref yw ymweld â’r coetir lleol a chwilio am gnau cyll sydd wedi’u hagor gan bathewod. Bydd y fideo isod yn ganllaw i chi ar gyfer eich helfa gnau gyntaf!
2.
Creu Llwybr Draenogod
Cydweithiwch â’ch cymdogion i greu bylchau draenogod yn ffensys a waliau’r ardd i helpu draenogod yr ardal. Gofynnwch i’r plant wneud arwyddion ‘Ddraenogod, dewch y ffordd yma’!
3.
Archwilio Pyllau Dŵr
Mae archwilio pyllau dŵr yn ffordd wych i ddarganfod byd natur a byddwch yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o greaduriaid sy’n byw mewn pyllau. Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut i archwilio pyllau mewn ffordd gyfrifol – mae’n bwysig meddwl am bethau fel glanhau offer er mwyn peidio â lledaenu clefydau.
4.
Chwilio am fywyd gwyllt yn eich gardd neu barc lleol
Pa anifeiliaid a phlanhigion sy’n byw yn eich ardal leol? Ewch i weld beth sydd yno, wedyn gwnewch arwydd i’w roi yn eich ffenestr i ddweud wrth eich cymdogion am y bywyd gwyllt rhyfeddol sydd ar garreg eich drws.
5.
Dod yn Gofnodwr Natur
Ydych chi am ddysgu enwau rhai o’r creaduriaid bach, adar, planhigion a choed mwyaf cyffredin? Edrychwch ar y dalennau gwylwyr natur hyn gan yr RSPB a dechrau cofnodi! Cadwch lyfr nodiadau wrth law i gofnodi beth rydych wedi’i weld.



