Beth sydd mor arbennig am RhCT?
Mae bioamrywiaeth Cymoedd y De yn drysor cuddiedig. Fel pob trysor o’r fath, roedd wedi’i golli a’i hen anghofio a dim ond yn ddiweddar y mae wedi’i ailddarganfod. Fel sy’n digwydd mewn cloddfa archeolegol fawr, mae un darganfyddiad wedi arwain at y nesaf; mae un canfyddiad wedi rhoi hwb i ddod o hyd i’r nesaf.
Mae pobl leol wedi dechrau gweld sut mae eu hoff lecyn lleol nhw yn ffitio i’r cyd-destun mwy ac mae arbenigwyr wedi dod i sylweddoli’n raddol pa mor bwysig yw ein bioamrywiaeth. Ac mae’r syndod yn fwy byth am fod y Cymoedd wedi’u gweld yn lleoedd adfeiliedig ac ysbeiliedig, wedi’u hiselhau a’u diraddio. Does bosibl bod bioamrywiaeth yn ffynnu mewn lle fel hwn? Mae’r wir sefyllfa yn dra gwahanol.
Y gyfrinach i lwyddiant bioamrywiaeth yn y Cymoedd yw ein priddoedd amrywiol ond prin eu maethynnau, ein hinsawdd wlyb fwyn fendigedig, dulliau rheoli’r ffermydd bach traddodiadol a gwaddol diwydiannol y Cymoedd a’r rhyngweithio beunyddiol rhwng pobl a’r amgylchedd. Gyda manteision y cymysgedd hwn o amodau ac amgylchiadau, mae Cymoedd y De yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd yr iseldir a’r ucheldir. Mae Rhondda Cynon Taf yng nghanol y Cymoedd ac yng nghanol y fioamrywiaeth gyfoethog hon. Tirwedd fioamrywiol yw hon sydd yn syfrdanol a dynamig, ac yn rhan annatod o’n hymdeimlad o berthyn i le unigryw. Er mwyn dangos hyn, beth am fynd ar daith sydyn o amgylch Rhondda Cynon Taf. Ond ble ddylen ni gychwyn?
Efallai y dylem ddechrau ym mhorfeydd rhos y rhannau isaf o Gymoedd Elái a Thaf, a’u perthi uchel, ac ym mlaenau Cwm Cynon. Yma mae cymunedau o laswellt y gweunydd a phorfeydd brwynog o bwysigrwydd rhyngwladol yn nodweddion cyfarwydd yn y dirwedd o hyd. Mae blodau tamaid y cythraul, ysgallen y ddôl a thegeirian brych y rhos yn frith ar y porfeydd rhos hyn ac maent yn cynnal cytrefi gwerthfawr o loÿnnod byw britheg y gors a’r fritheg bach perlog. Mae patrymau caeau hynafol wedi’u hamlygu gan gloddiau hÅ·n byth a gloddiwyd o dir y goedwig wreiddiol. Mae pathewod wedi ymgartrefu yn y perthi o goed cyll, derw, ynn, drain gwynion, helyg, drain duon, rhosod, cwyros, piswydd a chelyn, a thrwy’r rhwydwaith hwn o berthi mae gweddillion ein coetiroedd hynafol yn aros yn gysylltiedig ac yn hyfyw.
Mae ochrau cymoedd Rhondda, Cynon a Thaf yn enghraifft hyfryd o gysylltedd bioamrywiol. O unrhyw le ar strydoedd Pontypridd, Porth, Aberdâr neu Aberpennar, codwch eich llygaid at y brithwaith o gynefinoedd sy’n ffurfio’r ffriddoedd ar lethrau’r cwm. Mae cymysgedd cymhleth o laswelltir asidig, gweundir, rhedyndir, coetir, prysgwydd a llaciau yn rhedeg am filltiroedd ar hyd y prif gymoedd, wedi’u cydgysylltu mewn brithwaith cywrain o gynefinoedd sy’n newid drwy’r amser. Mae’r ffridd yn gartref i glychau’r gog, madfallod, nadredd defaid, gweirloÿnnod llwyd a chacwn prin yr ucheldir. Mae’r llethrau rhedynog a’u cyfoeth o fioledau yn gynefin pwysig i loÿnnod y brithegion, yn cynnwys y poblogaethau pwysig o frithegion gwyrdd (a’r fritheg frown brin hefyd o bosibl).
Os edrychwch yn fwy manwl, fe welwch chi arwyddion o sborion glo, lefelydd mwynfeydd bach, twmpathau siâp wy ac, os ydych yn ffodus, un o’r systemau tomenni sy’n weddill, sydd mor werthfawr â’r Bryngeyrydd Celtaidd yn swydd Dorset. Mae safleoedd fel Tomenni Gelli, Old Smokey, Wattstown a Thomenni Cwm Dâr yn adrodd stori sydd yn aml yn greulon a thrist, ond maent bellach yn cynnal cynefinoedd sydd o werth aruthrol o ran diwylliant a bioamrywiaeth. Mae gwerth unigryw i’r tirffurfiau hyn ac maent yn cyfrannu i’r ymdeimlad o berthyn i le arbennig, sydd yn gadarn o hyd yn ein cymoedd glofaol. Gwelwyd bod tomenni glo yn arbennig o bwysig i’w cymunedau o ros gennog lle mae glaswellt y waun yn tyfu yng nghanol carpedi crawennog gwyn o gennau cladonia. Ceir rhai o’r enghreifftiau gorau o rosydd cennog yng Nghymru ar hen domenni sborion glo Rhondda Cynon Taf. Mae gwaith diweddar wedi cadarnhau bod y tomenni hyn yn bwysig fel cynefinoedd i infertebratau: yn ystod gwaith archwilio ar bump o domenni yn RhCT cofnodwyd 85 o rywogaethau gwenyn (yn cynnwys rhywogaethau prin ac anfynych). Dyma hanner y ffawna gwenyn hysbys yng Nghymru ac un rhan o dair o restr y DU
O un o’r tomenni glo a ffurfiwyd yn y 1890au, ewch yn eich blaen yn syth i goedwig derw hynafol yn yr ucheldir lle mae coed derw Cymreig yn glynu yn ochrau’r cwm, gyda fflora llawr o goed llus, grug, rhedyn, mwsoglau a slabiau noeth o dywodfaen pennant, a’u gwelyau cyfoethog o gen. Mae’r coedwigoedd hyn yn cael eu pori gan ddefaid ac yn gartref i adar cân nodweddiadol y coetiroedd yng Nghymru: y tingoch, telor y coed a chorhedydd y coed. Yng ngwaelod y cymoedd, mae coetiroedd collddail cymysg yn cynnal coed derw, ynn, masarn a’r llwyfen lydanddail, a cheir coed gwern a helyg ar dir gwlypach. Yma mae is-haen gyfoethog o gadeiriau cyll a chelyn, ac ar galchfaen yn y de ceir cwyros, piswydd a masarn bach a hyd yn oed ambell wifwrnwydden. Ceir fflora llawr rhyfeddol yn y coedwigoedd hyn gyda chlychau’r gog, blodau’r gwynt, fioledau, clust yr arth, craf gwyllt, briallu, mwsglys, y caineirian a deintlys. Mae adferiad cymunedau ffyngau a chennau’r coetiroedd yn brawf bod yr aer yn lân. Bydd canghennau, powlenni a brigau wedi’u cuddio gan gôt o gennau a ffyngau coed o bob math: mae pethau prin fel y cen menyg helyg a’r cen llygad aur wedi’u darganfod yn ddiweddar. Mae pethau prin yn aros i gael eu darganfod: mae hwn yn gyfnod cyffrous i genegwyr a mycolegwyr lleol.
Sefwch ar noswaith o haf ar fuarth fferm hynafol, neu wrth ysgubor neu dÅ· teras, ac fe welwch ystlumod yn sleifio o’u clwydfannau. Ar doriad dydd yn yr hydref, gallwch grynu wrth sefyll ger hen dwnnel rheilffordd neu fynedfa i hen waith glo a gwylio am yr heidiau o ystlumod (cyn iddynt aeafu) – efallai mai chi fydd y cyntaf i ddarganfod man gaeafu pwysig i ystlumod. Mae o leiaf 13 o rywogaethau o ystlumod yn RhCT, yn cynnwys rhai prin fel yr ystlum du a’r ystlum pedol lleiaf. Yn yr eithaf arall, mae Pontypridd yn cael ei galw gan archwilwyr ystlumod yn ‘Pip City’, cyfeiriad annwyl at y nifer mawr o ystlumod lleiaf ac ystlumod meinlais sy’n byw yn y dref.
Gellir olrhain rhai cynefinoedd i enciliad y rhewlifoedd diwethaf 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd rhan helaeth o’n cynefinoedd mawnog wedi dechrau ymffurfio bryd hynny, wrth i’r llynnoedd, pantiau a thiroedd gwastad rhewlifol droi’n raddol yn llaciau, yn werni ac wedyn yn fawn. Mae’r rhyfeddodau crynedig hyn yn gartref i goed llygaeron, gwlithlys a llafn y bladur sy’n blodeuo yng nghanol y mwsoglau a’r migwyn a’r twffiau o lwydwellt a chlwbfrwyn. Mae’r gïach cyffredin yn nythu weithiau yn y mannau hyn. Mae Comin Llantrisant, Hirwaun a Thonyrefail yn ardaloedd pwysig iawn i fawnogydd yr iseldir, gyda chofnodion mawn a phaill sy’n dangos y newid yn y llystyfiant dros wyth fil o flynyddoedd. Gellir olrhain hanes yn ddwfn o dan yr haen 9 metr o fawn, i lawr at ddŵr gweddilliol y llyn rhewlifol coll. Ar ôl eu camddefnyddio a’u camddeall, mae’r mawnogydd iseldir hyn wedi goroesi rywsut ac mae ymdrechion wedi dechrau i’w gwarchod a’u hadfer. Yn yr ucheldir, roedd ein gorgorsydd helaeth wedi’u trin yn yr un ffordd, eu draenio i greu porfa neu eu troi’n goedwigoedd o sbriws sitca. Erbyn hyn, fodd bynnag, lle mae’r tyrbinau gwynt yn troi, fe welwch hefyd fod gwaith sylweddol wedi dechrau i adfer y mawnogydd, yn unol â’r gofynion mewn amodau ar ganiatâd cynllunio. Yn y blynyddoedd i ddod, mae gobaith am adfer cannoedd o hectarau o fawnogydd yr ucheldir, a’u cannoedd ar filoedd o blu’r gweunydd yn ymdonni yn awel yr haf, yn dal carbon atmosfferig, ac yn storio a rheoli dŵr storm yr ucheldir yn naturiol er mwyn darparu’r amddiffyniad mwyaf eco-gyfeillgar rhag llifogydd i gymunedau’r Cymoedd o danynt. Gallech deimlo rhyw obaith efallai ein bod yn gallu dysgu gwersi. Anialdir yw hwn, ond anialdir sy’n agos atom a bioamrywiaeth na wyddom ddim amdani i raddau helaeth. Tra byddwch yno, cymerwch gip ar gyrion y planigfeydd lle mae’r pila gwyrdd a’r ylfingroes yn ffynnu, pastwn mwsogl yn cysgodi, crëyrfeydd yn siglo yn sbriws-hemlog y gorllewin a’r troellwr mawr yn grillio gyda’r hwyr yn yr haf.
Ar ddechrau Mehefin, ewch am dro yn eich ardal mewn glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau, mewn gweirglodd neu mewn porfa gwartheg neu ferlod: yn y gaeaf gallant edrych yn debyg i gae cyffredin ond, ar ddechrau’r haf, bydd y sioe o flodau’n brawf o fath o gynefin sy’n brin ar lefel genedlaethol. Rydym yn ffodus iawn yn Rhondda Cynon Taf fod ein gwaddol gwych o laswelltiroedd wedi parhau, yn rhan fywiog o’n bioamrywiaeth. Mewn porfeydd ac ar leiniau ymyl y ffordd, gwelir blodau pysen y ceirw, y bengaled, y llygad llo mawr, y tegeirian brych, y peradyl garw a meillion coch a bydd gloÿnnod y glesyn cyffredin, gwyfynod yr hen wrach, ceiliogod rhedyn a gwenyn dirifedi yn gwibio a suo. Mae glaswelltiroedd sych ar lethrau blaenau’r cymoedd yn fwy asidig ond yr un mor hardd gyda’u briwydd wen, tresgl y moch, y bwrned mawr, clychau’r gog a suran yr Å·d, ac ar galchfaen ceir briallu Mair a thegeirian y wenynen. Yn yr hydref, ar fore heulog ewch i chwilio am arwydd arall o gyfoeth ein bioamrywiaeth, sef coch, oren, melyn a phorffor y ffyngau capiau cwyr.
Ar ddiwrnod o haf, arhoswch i oeri’ch traed mewn nant yn yr ucheldir, neu crwydrwch ar hyd glannau afonydd Cynon, Rhondda, Elái neu Daf. Mae afonydd a oedd yn farwaidd a difywyd ddeugain mlynedd yn ôl bellach yn gyrsiau dŵr iach a bioamrywiol, yn gartref i luoedd o bryfed y cerrig a gwybed Mai, bronwen y dŵr, y siglen lwyd, brithyllod ac, wrth gwrs, dyfrgwn. Roedd gorlifdir ar lannau pob un o’n hafonydd mwyaf ar un adeg. Mannau yr oedd llifogydd y gaeaf yn dianc iddynt, a glaswelltir, coetir a gwlyptir y gorlifdiroedd yn ffynnu. Mae Cors y Pant yn Nhonysguboriau yn cynnwys glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau a gellesg; yng Nghors Coedcae gerllaw ceir gwelyau hesg, gwiberod, a phumnalen y gors. Mae’r lagwnau a phorfeydd gwlyb yng Nghaeau Tirfounder, Aberdâr yn cynnal niferoedd rhanbarthol bwysig o adar dŵr sy’n nythu a gaeafu, nadredd y gwair a phryfed gwas y neidr. Mae’r tirweddau trawiadol hyn yn dal dŵr stormydd a’i ryddhau’n raddol, yn darparu llochesi gwerthfawr i fywyd gwyllt, ac yn arbed ein cartrefi rhag llifogydd.
Ar ddiwrnod braf o aeaf, ewch i weld ein tirweddau rhewlifol a’r cymoedd, mannau cychwyn y rhewlifoedd a oedd wedi cafnu a llyfnu’r dyffrynnoedd o danynt. Dyma gyfle i ryfeddu at fawredd Cwm Parc, Cwm Saerbren a Chwm Dâr. Y rhain yw’r cymoedd rhewlifol mwyaf deheuol yn y DU ac maent yn gartref i’r hebog tramor a phlanhigion alpaidd arctig a adawyd ar ôl – blodau a rhedyn sy’n glynu wrth y silffoedd oeraf a mwyaf cysgodol yn aros am ddychweliad hafau’r twndra. Ym mlaenau Rhondda Fawr, gallwch sefyll yn y strydoedd o dai teras mewn pentref alpaidd o’r enw Blaenrhondda a theimlo presenoldeb Pen Pych uwchben. Ewch i fyny Rhondda Fach at lethrau sgri Cefn Craig Amos a Tharren y Maerdy, lle mae plant ysgol gyfun y Maerdy yn llunio geiriau a delweddau o’r cymysgwch o dywodfaen rhewfriw ar y llethrau y tu ôl i’r ysgol.
Mewn mannau lle mae diwydiannau wedi’u clirio, gallwch brofi ychydig o fioamrywiaeth y ‘tir llwyd’. Yn aml bydd safleoedd ôl-ddiwydiannol yn cynnal brithweithiau rhyfeddol o gynefinoedd y glaswelltir, y gwlyptir a choetir asidig, pob un wedi datblygu’n naturiol ar dir a oedd yn ymddangos yn ddiffaith. Mae’r cynefinoedd amrywiol hyn yn cynnwys nifer o ryfeddodau bioamrywiol ac maent yn gartref i fadfallod dŵr, llyffantod melyn, gloÿnnod y gwibiwr llwyd a gwyfynod cliradain wregysgoch.
I ba le bynnag yr aethoch, ar y ffordd adref cyfrifwch y rhedyn yn wal ffrynt eich cymydog. Allwch chi weld y pedwarawd clasurol, sef tafod yr hydd, duegredynen gwallt y forwyn, y dduegredynen gefngoch a duegredynen y muriau? Gwnewch benderfyniad i fod yn fwy gofalus y tro nesaf wrth ailbwyntio’r wal a cheisio meithrin eich gardd rhedyn eich hun. Wrth y gât, arhoswch i weld y gwenyn deildorrol yn cludo dail wedi’u rholio’n dwt i’r siambrau nythu yn nhyllau draenio’ch ffenestri gwydrau dwbl UVPC. Codwch eich llygaid a rhyfeddu at y ffaith bod y gwenoliaid du yn yr atig a gwenoliaid y bondo o dan y bargod wedi dychwelyd o bell y tu draw i’r Sahara, o filoedd o leoedd na fyddwch byth yn eu gweld. Gallwch ymfalchïo yn yr un modd fod adar y to, sydd yma drwy’r flwyddyn, yn gallu nythu a thrydar o’r estyll o dan y bondo sydd â lle i adar. Hefyd, drwy ddefnyddio’ch trap gwyfynod dibynadwy, gallwch ymfalchïo mewn rhestr o 300 o wyfynod mawr yn eich gardd derasog, 50 o rywogaethau o wenyn (a lawnt yn llawn twmpathau’r wenynen unig), 20 o lyffantod melyn yn y pwll dŵr a dwsinau o nadredd defaid yn y domen gompost. Wedi’r cyfan, mae bioamrywiaeth yn dechrau yn y cartref.