Gan eich bod yn darllen y dudalen hon, byddwch yn ymwybodol iawn ein bod yng nghanol argyfwng hinsawdd byd-eang. Un o’r llwybrau y mae llywodraethau ledled y byd yn ceisio ei ddilyn i ddelio â’r mater hwn yw drwy sefydlu mentrau anferthol i blannu coed, gan obeithio y bydd y coedwigoedd newydd yn amsugno’r CO2 rydym yn ei daflu’n barhaus i’r awyr. Mae sefydliadau eraill, a hyd yn oed unigolion sy’n ceisio helpu i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd ym mhob ffordd bosibl, hefyd wedi dechrau plannu coed i helpu at yr achos.
​
Yr hyn nad yw’n cael ei gyhoeddi mor aml am blannu coed yw ei fod yn gallu cael effaith negyddol ddichonol ar fioamrywiaeth. Drwy drawsblannu coed anaddas mewn mannau anaddas, gallwn darfu ar gynefinoedd presennol, drysu ecosystemau lleol a hyd yn oed cynyddu allyriadau CO2.
RhCT yw un o’r siroedd mwyaf coediog yn y DU, gan fod mwy na 30% o’i harwynebedd o dan goed. Mae hyn yn cwmpasu nifer o wahanol gynefinoedd coetir fel coetir hynafol, perthi a choetir gwlyb. Yn RhCT mae’r rhan fwyaf o’r tir sydd heb ei ddatblygu neu ei blannu ar hyn o bryd yn cynnal cynefinoedd blaenoriaethol eraill – mae hyn yn cynnwys bron pob un o’r safleoedd sborion glo yn y Fwrdeistref Sirol.
​
Mae’r cynefinoedd hyn o werth aruthrol am ddal carbon ar eu pen eu hunain. Er enghraifft, mawnogydd yw’r storfeydd carbon naturiol mwyaf ar dir [1]. Maent yn storio mwy o garbon na’r holl fathau eraill o lystyfiant yn y byd gyda’i gilydd. Mae corff cynyddol o waith ymchwil yn dangos hefyd fod glaswelltiroedd iach yn ddalfeydd carbon pwysig, yn fwy hyd yn oed na choetiroedd [2].
​
Mae’r awydd i blannu coed ar y cynefinoedd eraill hyn, neu adfer tir ‘diffaith’ (fel sborion glo cyfoethog eu rhywogaethau) yn codi’r perygl posibl y bydd hyn yn arwain at golli cynefinoedd a rhywogaethau ar raddfa fawr yn RhCT, yn ogystal â’r posibilrwydd o achosi allyriadau carbon o’r pridd.
​
Mewn adroddiad diweddar gan Global Change Biology, cynigir ‘deg rheol aur’ ar gyfer plannu coed. Wrth i ni gymryd camau i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, bydd y camau isod yn eich helpu i benderfynu a ddylid plannu coed neu beidio. Cofiwch na ddylai plannu coed fod yn ystyriaeth gyntaf bob tro wrth ddelio â’r argyfwng hinsawdd.
Cam 1: Edrych ar beth sydd gennych yn barod
Felly mae gennych chi ddarn o dir sy’n ymddangos yn addas i blannu coed? Y peth cyntaf i’w wneud yw darganfod pa gynefinoedd y mae’r tir hwn yn eu cynnal a pha rywogaethau sydd eisoes yn bresennol.
Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu blwyddyn ar gyfer y broses hon, fel y byddwch yn gallu monitro’r tir drwy’r tymhorau a gweld pa blanhigion ac anifeiliaid sydd eisoes yn bresennol. Gofalwch eich bod yn gwneud hyn yn ystod yr hydref ac yn chwilio am y ffyngau!
​
Byddai methu’r cam hwn yn gallu arwain at ddifrod damweiniol. Yn y gaeaf, mae’r rhan fwyaf o gynefinoedd glaswelltir yn ymddangos yn ddiddim, ond yn yr haf gallant edrych yn hollol wahanol! Un enghraifft o broses a aeth o le oedd ymgyrch plannu coed yn Cumbria ar ran Nestle. Plannwyd cannoedd o goed mewn gweirglodd flodeuog bwysig, a byddai hyn wedi gallu arwain at golli’r safle pwysig hwn yn gyfan gwbl os nad oedd y camgymeriad wedi’i gywiro.
​
Un rheol syml iawn wrth wirio a ddylech ymchwilio ymhellach cyn plannu coed yw edrych ar y dail sy’n tyfu yn yr ardal. Os gwelwch fod mwy na phum gwahanol fath o ddail yn tyfu, yna dylech holi’r Bartneriaeth Natur Leol cyn bwrw ymlaen â chynllun plannu coed.
Cam 2: Archwilio’r priddoedd
Mae gwaith ar gymharu mathau o bridd wedi dangos bod rhai priddoedd yn fwy addas na’i gilydd ar gyfer ehangu coetiroedd. Os ydynt yn briddoedd organig, h.y. priddoedd sy’n cynnwys deunydd planhigion pydredig fel y rheini yn ein mawndiroedd a glaswelltiroedd, yna byddant yn cynnwys llawer o garbon. Felly byddai plannu coed ar y priddoedd hyn yn gallu gwneud drwg i’r storfa carbon ac arwain at allyrru carbon. Mae ymchwil wedi dangos na fydd plannu coed ar briddoedd organig yn llesol i’r hinsawdd cyn 2050 a’i bod yn bosibl na fydd byth yn llesol ac felly na ddylid gwneud hyn.
​
Felly, dim ond ar briddoedd anorganig y dylid ystyried creu coetiroedd.
​
Mae rhagor o wybodaeth am hyn, ynghyd â map yn dangos priddoedd organig ac anorganig yn y DU, i’w cael yma.
Cam 3: A fyddai adfywio naturiol yn gweithio’n well?
Adfywio naturiol yw’r broses lle mae coed a llwyni yn hadu ac yn ymledu eu hunain. Os yw’r amodau’n iawn, mae’r rhan fwyaf o goed a llwyni yn dda iawn wrth wneud hyn ac yn RhCT mae adfywio naturiol mewn coetiroedd yn broses sydd ar waith yn ein tirwedd. Yn wir, mae cadwraethwyr wedi treulio llawer o amser yn atal glasbrennau rhag cymryd drosodd gynefinoedd pwysig eraill fel glaswelltiroedd, un ai drwy bori er lles cadwraeth neu gyda chriw o wirfoddolwyr â llifiau!
​
Er enghraifft, mae rhannau helaeth o RhCT yn cynnwys cynefinoedd porfa rhos a metaboblogaethau cysylltiedig o loÿnnod britheg y gors sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae angen i frithegion y gors gael safleoedd cysylltiedig i gynnal eu metaboblogaethau, ond maent yn wael am ymledu, ac mae coetir sydd yn y lle anghywir yn gallu eu rhwystro a lleihau eu gallu i gynnal cysylltedd o’r fath. Mae tîm Butterfly Conservation a’r tîm Trefi Taclus yn treulio oriau lawer yn atal adfywio naturiol rhag niweidio cynefin y glöyn byw hwn.
​
Felly peth pwysig i’w ystyried cyn dechrau gwario arian a threulio amser ar blannu coed yw, a fyddai hyn wedi digwydd beth bynnag dros amser? Mae’r fideo ar y chwith yn dangos bod adfywio naturiol yn gallu bod yn ddull dilys o ehangu coetiroedd.
​
Os byddwch wedi mynd drwy’r camau uchod ac yn dal i deimlo mai plannu coed yw’r ateb cywir, yna gofalwch eich bod yn dilyn y deg gair o gyngor sydd wedi’u rhestru isod i sicrhau llwyddiant eich cynllun.