Camau Gweithredu mewn Trefi a Phentrefi
Cynefinoedd Trefol yn RhCT
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y Fwrdeistref Sirol yn byw mewn amgylchedd trefol. Er bod cefn gwlad gerllaw, mae’r rhan fwyaf ohonom yn byw mewn strydoedd o dai teras ac ar ystadau tai, gyda ffyrdd tarmac, gerddi bach, ffatrïoedd, archfarchnadoedd, meysydd chwarae a rhandiroedd. Yn y mannau hyn, mae bywyd gwyllt yn llai amlwg weithiau, ond gellir ei feithrin a’i hybu er mwyn cyfoethogi bywydau pob un ohonom o ddydd i ddydd.
​
Ac mae’n syndod cymaint o fywyd gwyllt sydd yn ein hardaloedd trefol, yn rhannol am fod y rhan fwyaf ohonom yn byw yn agos i gefn gwlad sy’n llawn bioamrywiaeth. Anaml y byddwn yn bellach na chwarter awr ar droed o ffriddoedd ar ochrau’r cymoedd, o goetiroedd, o borfeydd rhos neu o laswelltir cyfoethog. Mae nifer o’r trefi a phentrefi yn agos i afonydd neu nentydd sy’n darparu coridorau naturiol i fywyd gwyllt yn ogystal â chynefinoedd ar gyfer rhywogaethau fel y dyfrgi. Yn ogystal â hyn, ceir llochesi i fywyd gwyllt ar leiniau ymyl y ffordd, mewn argloddiau, mewn parciau, gerddi a mannau agored eraill. Mae gennym orchudd coed eang iawn yn ein trefi. Mae’r berthynas agos hon rhwng ein trefi a’n pentrefi a’r tirweddau cyfoethog eu bioamrywiaeth o’u hamgylch yn un o nodweddion RhCT, ond nid yw’n beth cyffredin mewn ardaloedd eraill.
​
Mae ardaloedd trefol hefyd yn darparu cynefinoedd pwysig i rai rhywogaethau, fel draenogod, ystlumod, gwennol y bondo a’r wennol ddu. Y rhain fydd y mathau cyntaf o fywyd gwyllt y bydd pobl yn dod i gysylltiad â nhw yn eu hardal, boed hynny wrth glywed cân yr adar yn y bore bach neu dylluan yn hwtian yn y nos, gweld hwyaid ar yr afon neu loynnod byw yn y parc. Mae nifer o’r camau gweithredu sy’n ymwneud ag ardaloedd trefol wedi’u disgrifio yn yr Adran ‘Sut allaf helpu?’ Nod y Cynllun Gweithredu hwn yw pennu mwy o gamau gweithredu strategol a thechnegol i hybu bywyd gwyllt yn ein hardaloedd trefol.
​
Ceir rhai cynefinoedd trefol penodol sy’n bwysig yn Rhondda Cynon Taf a rhai rhywogaethau trefol sy’n galw am gamau gweithredu penodol.
Astudiaeth Achos
Draenio Cynaliadwy ar gyfer Ysgol Park Lane
Pan fydd hi’n bwrw glaw ar ben wynebau caled, yn enwedig tir ar oleddf, bydd y dŵr yn rhedeg oddi arnynt a gall achosi llifogydd a difrod yn lleol. Lle mae glaw yn disgyn ar dir naturiol, yn enwedig os oes cymysgedd o blanhigion â gwreiddiau ar wahanol ddyfnderoedd, mae llif y dŵr yn cael ei arafu ac mae mwy ohono’n gallu treiddio i’r pridd.
Roedd peirianwyr wedi canfod problem draenio yn Ysgol Park Lane, Aberdâr a’u hawgrym nhw oedd y dylid creu system Draenio Cynaliadwy (SUDS) yn lle ceisio cario’r dŵr i ffwrdd drwy beipiau. Roedd digon o le rhwng yr ysgol a’r parc i greu basn bas mawr a allai storio’r dŵr pan fyddai llifogydd dŵr wyneb yn digwydd. Penderfynwyd ar y siâp fel y gellid defnyddio peiriannau torri a chasglu ar y glaswelltir ac adfer y tir i fod yn borfa rhos.
Er mwyn hwyluso’r broses hon, mae miloedd o blanhigion clafrllys gwreidd-dan a dyfwyd yn yr ardal wedi cael eu plannu yno. Mae’r planhigion hyn yn chwarae rhan bwysig yng nghylch bywyd y glöyn prin britheg y gors. Ymhen blynyddoedd, gallai’r safle hwn fod yn nodwedd draenio bwysig i’r ysgol, yn rhywle ar garreg y drws i ddysgu a chwarae yn yr awyr agored ac yn ased bioamrywiaeth hefyd.