Busnesau
Mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer busnesau sydd am gymryd camau pendant er lles eu hamgylchedd lleol, yn rhan efallai o’u cyfrifoldebau amgylcheddol a chymunedol. ​
Astudiaeth Achos
Mawnog Ystad Ddiwydiannol Hirwaun
O’r golwg y tu ôl i’r unedau diwydiannol yn Ystad Ddiwydiannol Hirwaun ac yn weladwy am eiliadau’n unig o briffordd Blaenau’r Cymoedd yr A465 y mae mawnog naw metr o ddyfnder a 15 hectar o arwynebedd. Roedd y fawnog wedi mynd yn angof am flynyddoedd, wedi’i diystyru a’i hesgeuluso a’i defnyddio fel safle tirlenwi. Yn cael ei gweld yn rhwystr i gynnydd. Ond er gwaethaf y cwbl, roedd wedi parhau. Môr o laswellt y gweunydd yn frith o byllau mawn; enghraifft brin o gyforgors yn yr iseldir sydd wedi’i hailddarganfod yn ddiweddar a’i chydnabod yn ased amgylcheddol gwerthfawr. Mae hanes ei hailddarganfod yn ymwneud â lwc a chyd-ddigwyddiadau o ran amgylchiadau a chyfleoedd. Daeth y newid yn ffawd y fawnog yn sgil y gofyniad i National Grid ddarparu ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd yn ffermydd gwynt yr ucheldir yng Nghymoedd y De. Mawnog a oedd wedi’i bedyddio’n bragmataidd ac yn anfarddonol yn Fawnog Ystad Ddiwydiannol Hirwaun.
​
Mae’r fawnog yng ngwaelod Cwm Cynon yn Rhondda Cynon Taf ar gyrion gogleddol Cymoedd y De, yn agos i’r ffin â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n gyfagos i is-orsaf newydd sgleiniog National Grid yn Rhigos. Drwy broses y cais cynllunio am is-orsaf trydan newydd, cafwyd cydnabyddiaeth i bwysigrwydd y fawnog. Prynwyd y rhan fwyaf o’r fawnog gan National Grid ac mae bellach yn ei rheoli a’i hadfer o dan Gytundeb Rheoli Adran 106. Gan fod y mawn hyd at naw metr o drwch, mae’n debygol bod y fawnog wedi dechrau ymffurfio 9,000 o flynyddoedd yn ôl, efallai fel llyn o ddŵr tawdd rhewlifol o fewn maes o raeanfryniau crwn a llyfn. Ceir mawnog debyg yn Ardal Cadwraeth Arbennig Blaen Cynon gerllaw a hon, ynghyd â mawnog yr Ystad Ddiwydiannol, yw’r mawnogydd mwyaf sy’n weddill mewn tirwedd rewlifol a welodd newidiadau lawer.