top of page

Cynefinoedd Gweundir, Clegyrau a Sgri, Ffriddoedd a Sborion Glo yn RhCT

​

Mewn llawer man, mae’r grŵp hwn o gynefinoedd yn ffurfio brithweithiau cymhleth ar lethrau’r Cymoedd ac ar ymyl yr ucheldir, gan greu ehangder o gynefinoedd lled-naturiol cyfoethog o ran bioamrywiaeth. Gyda’i gilydd, maent yn rhan annatod o gymeriad tirwedd a bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf. . 

Rhondda Fach landscape.JPG
Beddau.JPG

Astudiaeth Achos

Cynnwys Sborion Glo yn yr Agenda Cadwraeth

Yn 2015 dechreuodd Liam Olds ar ei ymchwil arloesol gydag Amgueddfa Cymru – National Museum Wales i edrych ar yr infertebratau a geir ar safleoedd sborion glo yn ne Cymru. Cafodd yr ymchwil hon ei datblygu a’i helaethu ar ôl cael cyllid ychwanegol gan Gyngor RhCT a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, gan arwain at archwilio cyfanswm o 15 o safleoedd ledled ardaloedd RhCT a Chastell-nedd Port Talbot rhwng 2015 a 2018. Er nad oedd y gwaith hwn yn fwy nag arolwg llinell sylfaen a chiplun o nifer bach o safleoedd sborion glo yn ne Cymru, cofnodwyd cyfanswm o 901 o rywogaethau o infertebrata, a 197 (neu 22%) o’r rhain yn rhywogaethau â ‘blaenoriaeth cadwraeth’ yn y DU. Ymysg y rhywogaethau hyn, roedd rhai a oedd heb eu cofnodi o’r blaen yng Nghymru nac yn y DU ac, mewn un achos, cofnodwyd rhywogaeth gwbl ‘newydd’ (miltroed ‘Maerdy Monster’). Mae’r ymchwil eithriadol hon yn dangos yr amrywiaeth o gynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr sydd i’w cael ar safleoedd sborion glo a’u gallu i gynnal rhywogaethau sydd o dan fygythiad sydd yn brin neu’n anghyffredin yng nghefn gwlad. Yn Ebrill 2019, dan nawdd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, lluniodd Liam y ddogfen ‘Invertebrate Conservation Value of Colliery Spoil’ sy’n crynhoi canfyddiadau’r ymchwil hon.

 

Yn ystod yr ymchwil hon a thrwy ymchwil ddiweddarach, roedd Liam wedi canfod 7 rhywogaeth o infertebrata a oedd â chysylltiad cryf â safleoedd sborion glo. Mae’r rhain yn cynnwys 3 glöyn byw, 1 chwilen, 1 wenynen, 1 gwyfyn ac 1 criciedyn. Gellir disgwyl y bydd rhywogaethau ‘eiconig’ o’r fath yn bresennol ar y rhan fwyaf o’r safleoedd sborion glo yn ne Cymru a gallent fod yn rhywogaethau dangosol ar gyfer safleoedd o werth ecolegol mawr.  Ymysg y rhywogaethau hyn, credir bod y gweirlöyn llwyd, y gwibiwr llwyd, y fritheg berlog fach, y wenynen Andrena tarsata a’r gweirwyfyn prin yn rhai sydd â ‘blaenoriaeth cadwraeth’ yng Nghymru a’r DU.

1.      Y gweirlöyn llwyd (Hipparchia semele)

2.      Y gwibiwr llwyd (Erynnis tages)

3.      Y fritheg berlog fach (Boloria selene)

4.      Y chwilen (Cicindela campestris)

5.      Y wenynen (Andrena tarsata)

6.      Y gweirwyfyn prin (Crambus pratella)

7.      Y criciedyn )Myrmeleotettix maculatus)

Mae’r gwaith ymchwil arloesol hwn wedi dangos pa mor bwysig yw safleoedd sborion glo fel cynefinoedd ar gyfer infertebrata a bioamrywiaeth, ond megis dechrau y mae’r gwaith o ganfod y bywyd gwyllt sy’n cael ei gynnal ganddynt yn RhCT, felly mae hyn yn codi cwestiwn difyr dros ben – pa rywogaethau newydd eraill, fel y miltroed ‘Maerdy Monster’ sydd eto i’w darganfod? Mewn cyfnod pan yw bioamrywiaeth yn cael ei cholli’n gyflymach nag erioed o’r blaen a phan geir pryder mawr am ddirywiad rhywogaethau o infertebrata, cafwyd bod safleoedd sborion glo yn cynnal cyfoeth rhyfeddol o gynefinoedd addas i infertebrata, a’u bod yn lloches bwysig i rywogaethau sy’n dirywio yng nghefn gwlad yn gyffredinol. Drwy ei waith, mae Liam wedi tynnu sylw hefyd at bwysigrwydd y brithweithiau o gynefinoedd agored ar y safleoedd hyn a’r angen i gynnal gwahanol fathau o amodau amgylcheddol, a’r ffaith bod angen gwerthfawrogi, rheoli a gwarchod safleoedd sborion glo er budd pobl a bywyd gwyllt.

​

Daeth naturiaethwyr ynghyd o bob rhan o’r de ar gyfer bio-blitz yn hen lofa Maerdy ar 29 Gorffennaf 2017, yr ‘un gorau erioed’ yn ôl SEWBREC. Mae grŵp newydd o garedigion ffyngau yn canolbwyntio ar sborion glo ac mae prosiect ‘dreigiau’r tomenni’ yn ymchwilio i’r ymlusgiaid ac amffibiaid sy’n cael eu cynnal ganddynt.

bottom of page