top of page
20170419_190112.jpg

Pobl sy’n garddio ac yn cadw rhandiroedd

Mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer y rheini sy’n garddio ac yn cadw rhandiroedd sydd am fod yn ystyriol o natur wrth arddio. ​

20170419_190112.jpg

Astudiaeth Achos

Gwenyn Gardd Richard

 

Mae’n debyg bod fy ngardd yn un dda i wenyn. Rydw i’n byw mewn ardal lle mae glaswelltiroedd a lleiniau glas blodeuog i’w cael o hyd, ac mae nifer mawr o blanhigion blodeuog hen ffasiwn yn fy ngardd sy’n cynhyrchu llawer o neithdar a phaill. Mae’r lawnt yn ddarn bach o laswelltir niwtral cyfoethog ei rywogaethau, a byddaf yn ei thrin fel gweirglodd fach. Mae llawer o flodau gwyllt yn tyfu ynghanol y glaswellt a’r twmpathau morgrug – pysen y ceirw, clafrllys y maes, y feddyges las, y peradyl garw, meillion coch a llawer o flodau’r bengaled. Yn y gwanwyn, bydd yn llawn twmpathau bach o bridd sy’n nythod i hanner dwsin o wahanol rywogaethau o wenyn Andrena, yn cynnwys y wenynen Andrena fulva oren flewog hardd. Mae’r rhain yn denu hanner dwsin o rywogaethau o wenyn nomad parasitig tebyg i wenyn meirch sy’n hofran o amgylch y safleoedd nythu. Yn ogystal â’r rhain, mae llawer o wenynbryfed parasitig sy’n fflicio ambell wy i gyfeiriad nythod y gwenyn ac, ar un achlysur, gwelwyd chwilen olew borffor (a oedd wedi dod allan o nyth gwenyn ar ôl ei barasitio, yn ôl pob tebyg) yn crwydro dros y lawnt.   

Mae gwenyn deildorrol yn hoff iawn o flodau’r bengaled. Maent yn eu claddu eu hunain ym mlodau’r bengaled gan gasglu’r paill ar ochr isaf yr abdomen. Mae dwy rywogaeth o’r rhain yn yr ardd, y wenynen Megachile centuncularis (sy’n treulio misoedd yr haf yn cario dail i dyllau nythod ym mhen isaf y ffenestri gwydr dwbl ac yn y wal ffrynt) a gwenynen ddeildorrol Willoughby sy’n fwy o lawer ac yn hardd dros ben. Y nifer mawr o wenyn deildorrol yw’r rheswm dros bresenoldeb y wenynen gwcw, y wenynen Coelioxys inermis. Bydd y wenynen fenyw yn chwilio’r wal ffrynt am nythod gwenyn deildorrol lle gall dodwy wy. Mae blodau’r bengaled hefyd yn denu gwenyn unig bach cynffon hir, gwenyn Lasioglossum calceatum: mae’r gwenyn benyw yn nythu yn y lawnt ffrynt drwy’r gwanwyn, ac ar nosweithiau ar ddiwedd haf bydd dwsinau o’r gwenyn gwryw yn ymgynnull mewn clwstwr tynn ar ben blodau llyriaid yr ais.  

Bob blwyddyn ym mis Mehefin, byddaf yn gwylio gwrywod y wenynen Eucera longicornis brin a rhyfeddol yn hedfan o amgylch yr ardd yn aros am y benywod. Mae teimlyddion hir iawn gan wrywod y rhywogaeth hon, sydd o faint gwenyn mêl, ac mae’r rhain yn cael eu hysgubo’n ôl wrth iddynt ruthro o gwmpas. Mae’r benywod yn hoff iawn o’r ytbysen felen sy’n ffynnu yn fy ngardd. Byddaf hefyd yn gweld y wenynen Stelis phaeoptera dywyll blaen sydd yn rhywogaeth brin y dylid ei thrysori.  

Ar ddechrau’r gwanwyn, pan fydd llysiau’r ysgyfaint yn blodeuo, clywir suo uchel y wenynen flodau draed blewog ynghanol y blodau. Mae hon yn wenynen hardd debyg o gacynen; y benywod yn ddu a blewog a’r gwrywod yn llwydoren a’r un mor flewog. Yn ddiweddarach yn yr haf, bydd y briwlys yn y gwely blodau’n denu’r gardwenynen sydd yr un mor neilltuol a thrawiadol, ac ar yr un pryd bydd y gwenyn meirch emrallt yn rhedeg i fyny ac i lawr y wal ffrynt yn chwilio am nythod y saerwenyn coch i’w parasitio. Yn ogystal â hyn, mae saith rywogaeth o gacwn, yn cynnwys y gardwenynen resog frown sy’n brin ar lefel genedlaethol.  

 

Felly, at ei gilydd, mae hyn yn eithaf da o gofio mai gardd fach yn y maestrefi yw hon. Beth mae’r holl bethau am wenyn yn ei brofi? Yn gyntaf, bod fy ngardd gyffredin i yn llawn gwenyn a llu o infertebratau eraill. Mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau hynny yn byw, yn nythu ac yn ymgartrefu yn y brithwaith o gaeau blodeuog o’n cwmpas, ac ar leiniau ymyl y ffordd ac mewn cloddiau. Dim ond galw heibio i’m gardd y byddant yn ei wneud er mwyn rhoi ychydig o bleser, ond maent yn arwydd o ba mor gyfoethog yw’r adnoddau o flodau gwyllt yn yr ardal. Mae nifer o’r rhywogaethau hyn yn anghyffredin, a hyd yn oed yn brin, ar lefel genedlaethol, ac mae’r ffaith eu bod yn dod i’r ardd wedi rhoi cipolwg pwysig i mi o amrywiaeth yr infertebratau yn yr amgylchedd lleol. Bob blwyddyn byddaf yn sylwi ar rywogaeth newydd sydd wedi hedfan dros wal yr ardd.  Rwyf yn amau bod yr un peth yn wir am lawer o erddi eraill mewn llawer rhan arall o’r Fwrdeistref Sirol. Rwyf yn amau bod ffawna cyfoethog iawn o infertebratau yn RhCT ac mae hon yn enghraifft dda o’r ffordd y mae cofnodi mewn gerddi yn gallu rhoi gwybodaeth werthfawr i ni am ein bioamrywiaeth leol.  

Richard Wistow 

Pethau y dylid eu gwneud

  • Gadael i’r glaswellt dyfu’n hirach yn eich gardd neu rai rhannau ohoni. Mae pob dim yn helpu!

  • Gweld pa flodau gwyllt sy’n dod i’ch gardd yn naturiol. Byddwch yn amyneddgar, fe ddaw’r blodau gwyllt ymhen amser. Yn fuan iawn, bydd criciaid a cheiliogod rhedyn yn cyrraedd yn ogystal â gwenyn a chacwn i fwynhau’r glaswellt hirach a’r blodau

  • Tynnu lluniau a chadw cofnodion o beth rydych yn ei weld. Mae’n hwyl gweld dros amser faint bydd eich gweirglodd yn newid a ffynnu. Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei weld.

  • Torri’r glaswellt ar ddechrau Medi a chasglu’r torion

  • Creu twmpathau cynefin o’r glaswellt yn yr ardd os gallwch. Bydd y nadredd defaid yn ddiolchgar! Fel arall, gallwch gompostio’r torion drwy ddefnyddio gwasanaeth casglu wythnosol y cyngor.

  • Cysylltu â ni, ymweld â’n gwefan, neu gymryd rhan yn y Bartneriaeth Natur Leol (PNL).

  • Gwaredu gwastraff yr ardd yn synhwyrol.

  • Trysori’r mwsogl a’r ffyngau yn eich lawnt. Maent yn rhan bwysig o ecosystem y glaswelltir.

  • Peidio â defnyddio chwynladdwyr a phlaladdwyr – mae’r rhain yn gwneud niwed mawr i bryfed peillio a mathau eraill o fywyd gwyllt. Er enghraifft, mae pelenni lladd gwlithod yn gallu bod yn angheuol i’r draenogod sy’n bwyta gwlithod a heintiwyd. Chwiliwch am opsiynau naturiol yn lle’r rhain.

  • Mabwysiadu dulliau garddio adfywiol

garden for nature in rct.jpg

Pethau na ddylid eu gwneud

  • Mae’n cymryd amser i dyfu gweirglodd lawn blodau gwyllt. Peidiwch â chael eich temtio i geisio cyflymu’r broses drwy hau hadau a all fod yn anfrodorol yn RhCT.

  • Peidio â thorri’r glaswellt bob wythnos oherwydd byddwch yn torri’r blodau gwyllt. Os gallwch, gohiriwch y torri tan yr hydref – mae unwaith y flwyddyn yn ddigon i flodau gwyllt.

  • Peidio â gadael y torion ar y wyneb. Bydd y glaw yn golchi’r rhain i’r pridd ac yn maethu’r glaswellt ond yn atal y blodau gwyllt.

  • Peidio â defnyddio gwrtaith i wneud i’r glaswellt dyfu’n gynt. Bydd hyn yn atal blodau gwyllt rhag egino a ffynnu gan nad ydynt yn gallu cystadlu â glaswellt.

  • Peidio â chael eich temtio i blannu blodau yn y glaswellt.

  • Peidio â thynnu blodau gwyllt yn eu cynefin.

  • Peidio â gadael gwastraff yr ardd yn y gwyllt. Hyn sy’n cyflwyno rhywogaethau’r ardd fel clychau’r gog Sbaenaidd sy’n fygythiad mawr i flodau’r gog brodorol.

  • Peidio â chael eich temtio i symud planhigion dŵr neu symud grifft llyffantod melyn i bwll dŵr newydd i gyflymu’r broses. Gall hyn ledaenu clefydau a all wneud niwed i lyffantod melyn a madfallod dŵr. 

bottom of page