Camau Gweithredu ar gyfer Glaswelltir
Glaswelltiroedd yn RhCT
Mae amaethyddiaeth yng Nghymoedd y De wedi’i seilio ar borfeydd a magu da byw. Mae’r hinsawdd, y priddoedd a thopograffi i gyd yn ffafriol i dyfu glaswellt ar gyfer magu anifeiliaid pori ac weithiau tyfu gwair fel porthiant gaeaf. Cyn dyfodiad gwrteithiau a chwynladdwyr artiffisial, a ffermio mecanyddol, roedd y glaswelltiroedd ar ffermydd ym Mhrydain yn drysorfa anferth o gynefinoedd cyfoethog eu blodau gwyllt. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bellach mewn rhannau o Brydain, felly anaml y gwelir glaswelltiroedd cyfoethog eu blodau erbyn hyn. Yn ffodus, yn Rhondda Cynon Taf mae gennym nifer mawr o gynefinoedd glaswellt pwysig o ran bioamrywiaeth o hyd. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn disgrifio’r prif fathau o laswelltiroedd a geir yn Rhondda Cynon Taf, y camau sydd angen eu cymryd i warchod a rheoli safleoedd, a’r cyfleoedd i hybu ymwybyddiaeth o’r cynefin hwn sy’n cael ei gamddeall gan lawer.
Mae’r Fwrdeistref Sirol yn cynnwys pum prif fath o laswelltir. Gallwch gael gwybod mwy am y rhain drwy glicio’r blychau isod.
Yn ogystal â’r rhain, mae’r cynefinoedd canlynol yn cynnwys glaswelltir:
-
Sborion Glo a Mwynau
-
Ffridd/Llethrau Rhedyn