top of page
cow pasture BFT.jpg

Perchnogion a rheolwyr tir

Mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer perchnogion a rheolwyr tir a fyddai’n hoffi bod yn fwy ystyriol o natur wrth reoli tir.  Lle da i gychwyn yw cael gwybod beth sydd gennych yn barod, yn enwedig yn RhCT lle mae cymaint o fioamrywiaeth o’n hamgylch.  Y cwbl sydd ei angen yn aml yw rheoli mewn ffordd sy’n gweithio ar y cyd â natur, a chaniatáu i’r amrywiaeth leol gudd ddod i’r golwg.  Gall hyn fod yn llawer mwy buddiol na phlannu cymysgedd o goed sydd wedi’i ragnodi neu daenu paced o hadau blodau gwyllt nad ydynt yn perthyn i unman penodol.

grazing.jpg

Astudiaeth Achos

Llethrau Llon

Mae Cymoedd y De yn cynnwys tirweddau godidog a bioamrywiaeth ryfeddol.  Fodd bynnag, ar ddechrau’r gwanwyn, mae tanau’n rhy gyffredin o lawer ar ochrau’r bryniau ac ar laswelltiroedd. Maent yn achosi peryglon go iawn i bobl ac eiddo, maent yn faich anferth ar ysgwyddau’r Gwasanaeth Tân, yn dinoethi’r dirwedd, yn dinistrio bywyd gwyllt, yn difrodi cynefinoedd ac yn rhyddhau carbon i’r awyrgylch. ‘Tanau glaswellt’ yw’r enw ar y rhain, ac maent yn effeithio’n bennaf ar gynefinoedd rhedyn ar ochrau mynyddoedd ac ar laswelltir corsiog sy’n cynnal glaswellt y gweunydd. Mae’r rhain yn gartref i rywogaethau prin sy’n lleihau o ran eu niferoedd, yn cynnwys gloÿnnod britheg frown a britheg y gors, adar fel clochdar y cerrig a chrec yr eithin a miloedd o nadredd defaid a madfallod. Fodd bynnag, bydd y broblem hon yn codi lle nad yw’r cynefinoedd hyn yn cael eu rheoli a lle mae plethwaith o lystyfiant marw yn crynhoi a fydd yn gallu mynd ar dân ar ôl sychu ar ddiwedd y gaeaf a dechrau’r gwanwyn.

​

Mae llethrau rhedynog a glaswelltiroedd corsiog yn werthfawr iawn o ran bioamrywiaeth, ond dim ond drwy eu rheoli’n briodol y gwireddir eu potensial.  Er mwyn eu rheoli, rhaid wrth ddulliau traddodiadol o bori (gan fridiau cryf o wartheg a merlod) ac, os yw’r amgylchiadau’n caniatáu, gellir eu torri. Mae bridiau traddodiadol wedi’u bridio i bori ar laswelltiroedd garw y cymoedd. Maent yn ddigon mawr i dorri drwy’r rhedyn a’r twffiau o laswellt y gweunydd, ac maent yn ddigon cadarn i ffynnu ar y bryniau agored lle gall y tywydd fod yn arw. Drwy reoli’r rhedyn a’r glaswellt trwchus, mae’r gwartheg a’r merlod yn galluogi planhigion blodeuog o lawer math i dyfu, gan greu amrywiaeth o gynefinoedd, ac atal difrod o ganlyniad i danau glaswellt dinistriol. Mae’n cael ei gydnabod fwyfwy mai adfer ‘porfeydd cadwraeth’ o’r mathau hyn yw’r ffordd orau a mwyaf costeffeithiol i warchod a gwella bioamrywiaeth ledled Cymru, yn ogystal â helpu i atal difrod o ganlyniad i dân. 

​

Mae’r prosiect Llethrau Llon yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Tân De Cymru, CNC, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a’r partner arweiniol Cyngor RhCT. Mae rhaglen waith wedi dechrau i arddangos dulliau cynaliadwy o reoli tir er mwyn atal tanau glaswellt a gwella bioamrywiaeth, tirweddau a mynediad ar gyfer amwynder. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gydgysylltu gan CNC ac mae swyddogion prosiect yn gweithio yn y maes. Yn RhCT, mae safleoedd yng Nghwm Clydach, Pen-rhys, tŵr Billy Wynt, Llantrisant (lle mae Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant yn bartner allweddol) a Threhafod i gyd yn rhan o’r rhaglen. Ymhlith y prif weithgareddau y mae hybu ymwybyddiaeth, briwio rhedyn, torri glaswellt/rhedyn ac, ar rai safleoedd, adfer porfeydd cadwraeth.

​

Un o’r elfennau cyffrous yn null Llethrau Llon yw’r manteision niferus sy’n gallu ei ddilyn. Yn ogystal â’r gwelliannau mewn bioamrywiaeth ac mewn tirweddau, a lleihau peryglon i’r cyhoedd o ganlyniad i danau glaswellt, ceir manteision i borwyr lleol drwy gynnig cyfleoedd i bori. Mae’r gwaith rheoli yn gallu creu gwaith i gontractwyr ffensio lleol, a hyrwyddo dulliau traddodiadol o reoli’r tir. Mae’r gwaith yn creu buddion o ran hamdden hefyd drwy wella canfyddiad y cyhoedd o laswelltiroedd ac ochrau’r bryniau (yn lle bryniau ar dân, mae pobl yn gweld cynefinoedd cyfoethog o ran bywyd gwyllt sy’n cael eu pori gan wartheg), darparu mynediad i ardaloedd i’w mwynhau gan y cyhoedd a hybu diddordeb a brwdfrydedd tuag at ein treftadaeth natur leol, i’w mwynhau gan bawb.  Gellir cyflawni hyn oll drwy fabwysiadu dulliau rheoli tir sy’n seiliedig ar arferion traddodiadol profedig ac yn rhagori o ran cynaliadwyedd a chosteffeithiolrwydd.

bottom of page