Rheoli Safleoedd
Mae’r camau gweithredu hyn yn ymwneud â ffyrdd i reoli safleoedd gwarchod natur ac maent yn berthnasol i amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau ledled y Fwrdeistref Sirol.
Astudiaeth Achos
Tirweddau Byw
Mae Prosiect Tirweddau Byw Rhondda Cynon Taf yn cysylltu cynefinoedd cyfoethog eu rhywogaethau ar garreg eich drws mewn rhwydwaith sy’n gallu helpu bywyd gwyllt i ffynnu fel y gall pawb ei fwynhau a chyfrannu at ei warchod.
​
Ar yr holl safleoedd hyn, canolwyntir ar eu rheoli er mwyn gwarchod natur ac er mwynhad y cyhoedd. Ymhlith y safleoedd y mae porfeydd mewn rhosydd, gweirgloddiau, coetiroedd, mawnogydd a chorsydd, pyllau a nentydd, ffriddoedd ac ucheldiroedd. Mae rhai safleoedd yn arwynebeddau bach mewn parc ehangach, mewn maes chwaraeon neu mewn mynwent a rhai ohonynt yn arwynebeddau mawr a ddarparwyd gan ddatblygwyr fel ‘lles cynllunio’. Mae pob un ohonynt yn cyfrannu rhywbeth pwysig i’r rhwydwaith a byddant yn helpu bywyd gwyllt i symud drwy’r dirwedd.
Cymeradwywyd cynllun peilot ar gyfer 29 o safleoedd (pob un yn eiddo i’r Cyngor neu’n cael ei reoli ganddo) yn 2021 ac rydym yn gobeithio y bydd mwy o safleoedd a mwy o berchnogion yn ymuno â’r rhwydwaith wrth i’r prosiect ddatblygu. Rydym yn ceisio cael cyllid ar hyn o bryd i ddarparu arwyddion a ffensys a rhywfaint o waith cychwynnol gan gontractwyr. Mae gwaith ymarferol wedi dechrau ar rai safleoedd, ac mae grwpiau cymunedol a sefydliadau cadwraeth hefyd yn cyfrannu. Mae gennym safleoedd sydd eisoes yn hygyrch i’r cyhoedd ac yn cael eu defnyddio gan bobl leol i fynd am dro. Ond nid yw pob un ohonynt yn adnabyddus nac yn cael ei werthfawrogi am ei botensial a’i werth. Bydd y prosiect hwn yn cynnig mwy o gyfleoedd i ymweld, mwynhau, cofnodi, ymchwilio, dehongli, dysgu a datblygu sgiliau a chyfrannu at reoli’r safleoedd hyn er mwyn cynyddu eu bioamrywiaeth a hyrwyddo cymunedau gweithgar.