top of page
Spider Web

Gwe Bywyd: sut y dechreuodd y cyfan

Ym myd natur, mae popeth wedi’i gysylltu â’i gilydd. Mae ein byd yn lle unigryw. Rydym yn smotyn bach dinod mewn bydysawd a esblygodd dros filiynau o flynyddoedd ar ôl y ‘glec fawr’.  Mae’r hanes yn dechrau gyda chemeg: o hydrogen a heliwm y cafwyd sêr a galaethau (tua 13.8 biliwn o flynyddoedd yn ôl) ac o’r adweithiau niwclear yn y sêr cynnar cafwyd yr elfennau cemegol sy’n sylfeini i bob dim arall yn ein bydysawd.  Po boethaf y seren, ‘trymaf’ fydd yr elfennau y mae’n gallu eu cynhyrchu.

​

Mae’n debyg bod cysawd yr Haul wedi ymffurfio o fàs o greigiau a nwy a oedd yn cylchdroi ac wedi crebachu dan ei bwysau ei hun tua 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn, roedd llawer mwy o elfennau cemegol ar gael i ffurfio cysawd yr Haul. Nid yw ein Haul ni ond yn ddigon poeth i gynhyrchu elfennau ‘ysgafnach’ fel carbon, ocsigen ac ychydig o nitrogen, ond mae’r llwch cosmig yn cynnwys elfennau ysgafn a thrwm a gafwyd o sêr eraill sydd wedi hen ddarfod. Rydym hefyd yn gwybod bod y llwch cosmig yn cynnwys moleciwlau yn ogystal ag elfennau gwreiddiol, yn cynnwys moleciwlau seiliedig ar garbon (neu organig) fel fformaldehyd (H2CO).  

​

Cymerodd y Ddaear tua 50 miliwn o flynyddoedd i ymffurfio, ar ffurf doddedig yn gyntaf cyn datblygu wyneb solet. Mae’n debygol bod gwrthdrawiad â gwrthrych o faint y blaned Mawrth wedi arwain at golli’r deunydd a ffurfiodd y Lleuad a theneuo wyneb solet y Ddaear. Nid oedd atmosffer na chefnforoedd bryd hynny, ond roedd y blaned (a’r Lleuad) yn cael ei pheledu gan gomedau yn hyrddio o bellafoedd eithaf cysawd yr Haul tuag at y canol. Mae’r dystiolaeth o’r craterau ar y Lleuad wedi’i cholli ar y Ddaear am fod y gramen denau wedi symud dros y craidd a oedd wedi aros yn doddedig. Mae’n debygol bod y peli eira rhewedig hyn o lwch cosmig wedi turio i wyneb y Ddaear, gan gynhyrchu gwres a rhyddhau’r dŵr a oedd ynddynt. Tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl, daeth y peledu cyson i ben (er bod rhai comedau o hyd ac roedd un ohonynt wedi difa’r deinosoriaid). Roedd y craidd ymbelydrol yn gyrru deunydd newydd i wyneb y Ddaear drwy’r amser, yn cynnwys dŵr a nwyon, a gyfrannodd at ffurfio’r atmosffer a’r cefnforoedd. Yn ogystal â’r trawiadau dramatig gan gomedau, cafwyd llif ysgafnach o lwch cosmig a ddaeth ag asidau amino, sef sylfeini’r proteinau a moleciwlau (pwrinau a pyrimidinau) sy’n is-unedau mewn DNA, sef moleciwl bywyd.  

​

Wrth i’r Ddaear droi, roedd yn cael ei chynhesu gan yr Haul ac roedd disgyrchiant yn atal yr atmosffer a’r cefnforoedd newydd rhag dianc. Erbyn 3.8 biliwn o flynyddoedd yn ôl, mae tystiolaeth mewn ffosiliau o fywyd ar y Ddaear, y cymerwn ei fod wedi esblygu o foleciwlau bywyd yn y llwch cosmig a yrrwyd gan egni o’r craidd.  Prin iawn oedd yr ocsigen yn yr atmosffer cynnar ac am filoedd o flynyddoedd, roedd bacteria yn teyrnasu a oedd yn hoff o wres ond heb oddef ocsigen. Yn y diwedd, wrth i ocsigen gronni yn yr atmosffer, roedd cyanobacteria wedi esblygu gan ddefnyddio golau’r Haul i gynhyrchu egni â moleciwlau cloroffyl a oedd yn ffotosyntheseiddio.  Erbyn 3 biliwn o flynyddoedd yn ôl, mae gennym ffosiliau o stromatolitau.  Esblygodd organebau cyntefig drwy gydweithredu neu amsugno - proses symbiotig a greodd ffotosynthesis, ocsigen, ensymau, pilenni, gwahaniaethau rhywiol a rhagor. 

​

Dyma ddechrau hanes gwe bywyd y Ddaear. Cemeg, daeareg a chefnforoedd yn rhyngweithio â’i gilydd gan ledaenu ocsigen yn araf i greu bywyd sydd, yr un mor araf, yn mowldio wyneb y Ddaear wrth iddi esblygu.

​

Llwch y sêr ydyn ni mewn gwirionedd ac rydym yn gwir ddibynnu ar y we bywyd hon er mwyn gallu byw.

​

Biliwn = mil o filiynau

bottom of page