top of page
Bog asphodel RR.jpg

Partneriaeth Natur Leol RhCT

Sefydlwyd Partneriaeth Natur Leol RhCT ym 1998. Mae’n cynnwys partneriaid sydd â gwybodaeth helaeth a brwdfrydedd mawr dros fywyd gwyllt y sir. Byddwn yn cydweithio i gynllunio a chymryd camau er lles natur yn y sir. Mae’r aelodaeth yn agored i bawb. Cysylltwch â ni i ymaelodi.

Nod cyffredinol Partneriaeth Gweithredu Dros Natur Rhondda Cynon Taf yw “gwarchod a gwella bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf”. Gweithredu dros Natur yw’r bartneriaeth a’r cynllun ar gyfer gweithredu lleol ar natur a bioamrywiaeth yn RhCT.

 

Mae’r nod cyffredinol hwn yn cwmpasu:

  • Hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth RhCT

  • Cofnodi bioamrywiaeth RhCT

  • Diogelu bioamrywiaeth RhCT

  • Rheoli ardaloedd er lles bioamrywiaeth RhCT

​​

Byddwn yn cyflawni ein nodau drwy gynllunio a chymryd camau i warchod a gwella bioamrywiaeth yn RhCT. Mae’r bartneriaeth yn cydweithio i ddynodi cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd lleol, eu monitro a chymryd camau i’w gwarchod, drwy waith ymarferol, addysg a hybu ymwybyddiaeth.

Mae ein dogfen Gweithredu dros Natur yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, felly cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan.

Bydd aelodau’r bartneriaeth yn dynodi, yn monitro ac yn adrodd ar fywyd gwyllt lleol drwy gynnal cyfarfodydd a chyhoeddi Cylchlythyr y Cofnodwyr. Mae hwn yn gyfrwng gwerthfawr i hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ledled RhCT ac mae’n ffynhonnell wybodaeth amhrisiadwy. O ganlyniad i hyn, datblygwyd rhwydwaith o safleoedd cynefin a reolir, sy’n cysylltu bioamrywiaeth a chymunedau, drwy gytundebau cynllunio. Yn y safleoedd hyn, mae pobl a grwpiau lleol yn gallu ennill profiad a gweithio i helpu i gofnodi, rheoli, gwella a mwynhau bioamrywiaeth leol ryfeddol.

Yn yr ucheldir, sicrhawyd rhwydwaith o gynlluniau adfer mawnogydd yn gysylltiedig â saith cynllun fferm wynt (sy’n cynnwys ardal y Prosiect Adfer Mawndiroedd) yn ganlyniad uniongyrchol i gynllun gweithredu’r bartneriaeth Gweithredu dros Natur ar gyfer mawnogydd. Gyda’i gilydd, mae’r safleoedd hyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth ar lefel y dirwedd, atafaelu carbon, atal tanau glaswellt a manteision o ran arafu llifogydd. Cawsom wybod yn wreiddiol am adnodd ‘cudd’ y mawndiroedd hyn gan ffynonellau lleol.
 

Canlyniad arall i waith y bartneriaeth Gweithredu dros Natur yw’r rhwydweithiau aml-bartner ar gyfer pori er lles cadwraeth a ddatblygwyd gyda phorwyr lleol. Mae hyn wedi datblygu bellach drwy reoli glaswelltiroedd blodeuog i sicrhau bod 70 hectar o laswelltir blodeuog a lleiniau glas yn cael eu rheoli drwy ddull torri a chasglu a bod 50 hectar ychwanegol yn cael eu rheoli drwy bori er lles cadwraeth. Mae’r profiad hwn o reoli tir wedi bod o gymorth uniongyrchol wrth ddatblygu prosiect Llethrau Llon y bartneriaeth ar gyfer atal tanau glaswellt.

 

Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn rheoli gwarchodfeydd natur yn yr ardal ac yn cynnal digwyddiadau ar gyfer gwirfoddolwyr a chofnodwyr rhywogaethau.

Mae’r cofnodwyr rhywogaethau sy’n arbenigo ar infertebratau a ffyngau yn darganfod rhywogaethau newydd pwysig ar safleoedd sborion glo.

Ers nifer o flynyddoedd, mae tîm Butterfly Conservation a’r tîm Trefi Taclus wedi cynnal safleoedd allweddol ar gyfer gloÿnnod britheg y gors.

Mae Clwb Adar Morgannwg wedi gweithio gyda deiliaid tai i warchod gwenoliaid du yn RhCT.

Mae grwpiau gwirfoddol lleol fel Cynon Valley Organic Adventures a Chyfeillion Coed TÅ· Nant yn gweithio i hybu bioamrywiaeth a chynnwys pobl leol.

Ac mae llawer mwy!

​

Mae rhestr o rai o’n haelodau isod:

red tail birds foot trefoil RR.jpg

Beth sydd mor arbennig am RhCT?

ffridd Liz

Gwe Bywyd

Cwm_Tips_Beddau.JPG

Yr Argyfwng Natur

Ledge Communities Lyn Evans.JPG

Newid Hinsawdd

bottom of page