Myfyrwyr Ymchwil
Mae ychydig o awgrymiadau isod am brosiectau ymchwil a fyddai’n cyfrannu i’n sylfaen dystiolaeth er mwyn ein helpu i warchod bywyd gwyllt yn RhCT. Os hoffech drafod y rhain neu os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect, cysylltwch â ni.
Astudiaeth Achos
Prosiect Adfywio Coetiroedd Prifysgol De Cymru
Nid yw’r effeithiau a geir drwy adfywio a chytrefu naturiol gan goed a choetiroedd wedi’u deall gan lawer na’u cydnabod. Yn Rhondda Cynon Taf, mae lluniau hanesyddol a dynnwyd o’r awyr yn darparu tystiolaeth glir o’r cynnydd yn y gorchudd coetiroedd brodorol o amgylch ardaloedd trefol ac ar nifer o ffriddoedd, gweundiroedd, gwlyptiroedd a phorfeydd rhos pwysig ar lethrau’r Cymoedd.
Er mwyn ceisio darparu tystiolaeth am ymlediad coetiroedd naturiol o’r fath, treialwyd dull o ddiffinio cytrefu naturiol gan goetiroedd drwy brosiect MSc ar y cyd â Phrifysgol De Cymru. Roedd yr astudiaeth MSc wedi rhoi prawf ar y defnydd o luniau hanesyddol a dynnwyd o’r awyr a lluniau cymharu cyfoes mewn ardaloedd enghreifftiol yn RhCT, ac ar y defnydd o GIS i ddehongli arwynebedd y gorchudd coed a choetir. Roedd y canlyniadau o ddull gweithredu’r prosiect yn galonogol. Fodd bynnag, bydd angen mireinio’r fethodoleg ymhellach ac mae cyfle i wneud rhagor o waith drwy brosiectau academaidd.
Y gobaith yw y bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn dylanwadu ar lunwyr polisi ac yn caniatáu cydnabod yr ehangu naturiol gan goetiroedd sy’n digwydd yn RhCT a’i gynnwys mewn unrhyw dargedau ar gyfer ehangu coetiroedd a ddyrennir yn ganolog gan Lywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru.