Naturiaethwyr Newydd
Ydych chi newydd ddechrau darganfod byd natur? Mae cymaint i’w ddarganfod ac rydyn ni ar gael i’ch rhoi ar ben ffordd! Mae ychydig o awgrymiadau isod am gamau y gallech eu cymryd fel naturiaethwr newydd i ddysgu rhagor am fywyd gwyllt RhCT a sut i ddechrau helpu i warchod a chadw ein treftadaeth naturiol ryfeddol.
Astudiaeth Achos
Y BioBlitz Gerddi Mawr
Bob blwyddyn bydd y pedair Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol yng Nghymru yn dod ynghyd i redeg BioBlitz Gerddi cenedlaethol.
​
Mae BioBlitz yn ddigwyddiad lle mae arbenigwyr bywyd gwyllt a charedigion natur yn dod at ei gilydd ar safle penodol i ddod o hyd i gynifer â phosibl o wahanol rywogaethau bywyd gwyllt mewn un diwrnod. Mae’r BioBlitz Gerddi yn gysyniad tebyg, ond yn hytrach na dod ynghyd mewn un man, bydd pobl yn chwilio am yr holl fywyd gwyllt sydd i’w gael yn eu gardd eu hunain. Trefnir amserlen o ddigwyddiadau i annog cyfranogwyr i edrych ar yr holl wahanol grwpiau o rywogaethau, fel planhigion, adar a phryfed. Wedyn anfonir y cofnodion am y rhywogaethau a welwyd yn ystod y dydd i’r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol er mwyn eu hychwanegu at y gronfa ddata natur genedlaethol. Yn RhCT, anfonir y cofnodion i SEWBReC, yn aml drwy ei system gofnodion ar-lein.
​
Gan ei fod yn ddigwyddiad i Gymru gyfan, mae’r achlysuron blynyddol hyn yn cynnig golwg sydyn ar gyflwr bywyd gwyllt mewn gerddi ar lefel genedlaethol. Bob blwyddyn bydd y Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol yn dadansoddi’r cofnodion i gael gwybodaeth am y rhywogaethau a gofnodwyd amlaf, er enghraifft, a pha gofnodwr bywyd gwyllt a anfonodd y nifer mwyaf o gofnodion!
Gallwch weld y canlyniadau o BioBlitz Gerddi Cymru ar gyfer 2020 a 2021 ar wefan SEWBReC: 2020 a 2021. Os hoffech gymryd rhan mewn BioBlitz Gerddi yn y dyfodol, gallwch ofyn am gael e-byst rheolaidd gan SEWBReC yma neu ddod o hyd iddynt ar gyfryngau cymdeithasol.