top of page
Rhondda Fawr.jpg

Dŵr croyw

Cynefinoedd Dŵr Croyw yn RhCT

Mae’r rhain yn gynlluniau gweithredu ar gyfer nifer o gynefinoedd tra gwahanol sy’n dibynnu ar ddŵr.  Mae tirwedd RhCT yn cynnwys dyffrynnoedd, gwlyptiroedd a mawnogydd yr ucheldir lle mae glawiad blynyddol uchel. Mewn llawer achos, mae cynefinoedd gwlyb iawn o’r fath yn cydfodoli mewn brithweithiau cymhleth gyda’r coetiroedd, glaswelltiroedd corsiog a gweundir gwlyb yr ucheldir sydd wedi’u disgrifio ar dudalennau eraill yn y Cynllun Natur Lleol. Felly mae dŵr croyw yn nodwedd bwysig yn ein bioamrywiaeth, yn cynnal cynefinoedd sy’n bwysig iawn o ran bioamrywiaeth ac yn cysylltu rhwydweithiau bioamrywiaeth. Mae’r cynefinoedd hyn hefyd yn wynebu’r un bygythiad o ddiraddio a cholli bioamrywiaeth drwy lygredd dŵr ac aer, addasiadau ffisegol, newid mewn defnydd tir, colli dulliau rheoli cydnaws ac effeithiau trefol a diwydiannol ac aflonyddu ar rywogaethau.

 

Mae pum prif fath o gynefin dŵr croyw yn cael eu hystyried yn y Cynllun hwn. Gallwch weld y rhain drwy glicio ar y dolenni isod.  

Rhondda Fawr.jpg
dai_kk_sunday_23.JPG

Afonydd a Nentydd

Neath canal.jpg

Merddwr agored

P1010546_edited.jpg

Gorlifdir a Chors Pori

CwmTips_Reedbed.jpg

Ffeniau, Gwerni a Gwelyau Cyrs

Black Bog LPSW.jpg

Mawnogydd

smart rivers pics 2.jpg

Case Study

SmartRivers- Cynon Hub

Hyb SmartRivers Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru ar afon Cynon yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’n cael ei redeg mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gadwraeth Eogiaid a Brithyllod. Nod SmartRivers yw defnyddio infertebrata pryfed yr afon fel dangosydd diagnostig ar gyfer iechyd yr afon drwy eu cofnodi ar lefel y rhywogaeth, gyda chymorth gwirfoddolwyr a gwyddoniaeth y dinesydd. Mae ein grŵp yn cynnwys gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol ledled ardal cwm Cynon a thu hwnt gyda’r bwriad o gymell cymunedau lleol i gymryd rhan yn y gwaith o ddiogelu a gwarchod ein hafonydd a’u bywyd gwyllt. Cafwyd gwirfoddolwyr o Ospreys Angling, Pontus Aqua Research, Gwlyptiroedd Cymunedol Cwm-bach a Cynon Valley Organic Adventures, sydd i gyd yn helpu drwy gic-samplu mewn afonydd ar bum safle a ddewiswyd ar hyd afon Cynon a thrwy gofnodi ar lefel y rhywogaeth o dan amodau labordy yn ein swyddfa. Ein gobaith yw gwella a hyrwyddo bioamrywiaeth afon Cynon drwy addysg, ymgysylltu ystyrlon â chymunedau a hybu stiwardiaeth effeithiol ar yr afon, gan greu grŵp o barcmyn afon gwirfoddol a fydd yn monitro’r afon yn y dyfodol.

 

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am SmartRivers, cliciwch  yma.

bottom of page