top of page
SEWRT Bat Walk RCT LNP Gareth Edge.jpg

(c) SEWRT

Hybu Ymwybyddiaeth

Ar bob lefel, mae dysgu mwy am ein bywyd gwyllt yn beth pwysig a diddorol iawn.  Mae angen tystiolaeth i fod yn sail i’n camau gweithredu, ond mae angen i ni rannu beth rydym yn ei ddysgu hefyd â llunwyr polisïau sydd heb nemor ddim dealltwriaeth yn aml o ba mor arbennig yw Rhondda Cynon Taf.  Ac mae angen cynnwys mwy o bobl leol yn ein siwrnai ddysgu. Mae’r camau gweithredu hyn i hybu ymwybyddiaeth yn berthnasol i’r holl gynefinoedd a rhywogaethau yn RhCT.

1.

Hyrwyddo aelodaeth grwpiau natur, amgylcheddol a chymunedol

Cynnal y bartneriaeth natur leol fel lle i rwydweithio, hyrwyddo a chysylltu â’r rheini sy’n cymryd camau i warchod natur yn RhCT.  Drwy gynyddu aelodaeth y grwpiau a’r gefnogaeth iddynt, byddant yn gallu tyfu a datblygu.  Bydd hefyd yn golygu bod mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol i’w mwynhau gan fwy o bobl.

2.

Nid yw Natur yn Dwt

Cymryd camau i gael mwy o bobl i dderbyn nad peth twt yw natur! e.e. bod mieri’n beth da i adar a phryfed peillio yn y trefi a bod mygu’r awydd i ‘dacluso’ yn gallu bod yn ffordd i ddarparu cartrefi hanfodol i fywyd gwyllt.

3.

Dathlu Natur

Mae bywyd gwyllt RhCT yn rhyfeddol, ond nid yw’n cael ei werthfawrogi digon. Rydym yn gwybod ein bod yn dibynnu ar leoedd gwyllt a phrosesau naturiol ym mhob agwedd ar ein bywydau ac mae angen rhannu ein dealltwriaeth a’n cariad at natur yn fwy eang. 

4.

Deall y Dystiolaeth

Defnyddio tystiolaeth i wneud y peth iawn, er nad yw hynny’n hawdd bob tro! Er enghraifft, byddai’r ymgyrch bresennol i blannu coed yn gallu dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr yn lleol, yn cynnwys priddoedd sy’n storio carbon. A does dim angen gwneud hyn yn RhCT gan fod coed yn tyfu’n naturiol lle bynnag y maent yn cael cyfle, heb fod angen tiwbiau plastig. Rydym yn deall hyn o ganlyniad i arsylwi a chasglu tystiolaeth.

5.

Mwynhau’r Awyr Agored

Hyrwyddo cyfleoedd i fwynhau natur, i ymlacio, dysgu, rhannu sgiliau, dawnsio a phob math o bethau eraill. Cynyddu parch a gofal am fannau lleol drwy gynnwys pobl yn ein gwaith. Annog pobl i ddilyn Cod Cefn Gwlad. 

6.

Rhoi Llais i Natur

Cymryd rhan ym mhrosesau CNC a’r Datganiad Ardal, Byrddau Gwasanaethau Lleol a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd.

Image by Raphael Cabuis

Astudiaeth Achos

Canu Clychau’r Gog

Sut i ddisgrifio’r lliw glas hwnnw ac ymgolli yng ngogoniant y gwanwyn. 

 

Mae hen brosiect i ysgolion, yn yr awyr agored i weld clychau’r gog yn y caeau a’r coedwigoedd gyda bardd ac artistiaid, yn cynnig ysbrydoliaeth. Doedd dim un math o liw na defnydd cyfarwydd a allai ddod yn agos i’r lliw hwnnw. Roedd eu henw Cymraeg yn ysbrydoli storïau, defnyddiwyd drych deintydd i weld y tu mewn i’r gloch, a thrafodwyd geiriau am beth rydych yn gallu ei weld, ei glywed, ei arogleuo a’i gyffwrdd, a’r ffordd y mae bod yng nghanol clychau’r gog yn effeithio ar eich hwyliau a’ch emosiynau. 

 

Crynhowyd hyn oll mewn barddoniaeth a lluniau a gafodd eu dangos am fis yn Oriel Gelf Pontypridd yn y Muni. Dangoswyd un darn ardderchog o waith celf wrth fynedfa ysgol y Pant a bu yno am flynyddoedd wedyn. 

 

Gall pawb roi cynnig ar hyn. Datblygwch eich sgiliau creadigol ac os ydych chi’n un cerddorol, gallech geisio canu clychau’r gog.

Rhondda and rainbow.jpg

Gwarchod Safleoedd

Softrak.png

Rheoli Safleoedd

  • YouTube

© 2023 Partneriaeth Natur Llol RhCT

Datganiad Preifatrwydd

bottom of page