top of page
white rock.jpg

Gweithredu dros Natur:

Cynlluniau Gweithredu ar gyfer Cynefinoedd

Mae’r rhan hon o’r Cynllun Gweithredu yn ymwneud â’r camau sydd angen eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a rhywogaethau penodol sy’n bwysig i Gymru ac i ardal Rhondda Cynon Taf ac i gryfhau ecosystemau.

​

Dewiswyd y cynefinoedd a’r rhywogaethau gan y Bartneriaeth Natur Leol, gan wneud defnydd o wybodaeth leol, cyfraniadau gan arbenigwyr a’r rhestr yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).

​

Mae’r camau gweithredu yn ymwneud â’r hyn sydd angen ei gyflawni er mwyn gwneud gwahaniaeth. Mae cyllid ar gyfer rhai ohonynt; mae eraill yn ddyheadol. Yma eto, fe ddatblygwyd y camau gweithredu gan y Bartneriaeth Natur Leol, a bydd y Bartneriaeth yn monitro’r cynnydd arnynt.

​

Rydym yn canolbwyntio ar gynefinoedd ac ar y rhywogaethau y maent yn eu cynnal.  Mae adran ar wahân ar gamau gweithredu cyffredinol sy’n gymwys i’r holl gynefinoedd a rhywogaethau, ac adran arall ar rywogaethau y mae angen cymryd camau penodol ar eu cyfer. Mae’r disgrifiad o bob cynefin yn cynnwys rhestr o’r rhywogaethau a all fod yn gysylltiedig ag ef yn RhCT. Dylid nodi nad yw’r rhestr hon yn cynnwys pob rhywogaeth bosibl.

Gelli Tips (c) Liam Olds (2).JPG

Sborion glo, gweundir, ffridd, clegyrau a sgri 

Hazel dormouse wikimedia commons.jpg

Rhywogaethau

bottom of page