Mae’r camau gweithredu hyn yn rhai ar gyfer ysgolion, i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i drysori a gofalu am y byd naturiol o’n cwmpas. ​
Astudiaeth Achos
Llysywennod yn yr Ystafell Ddosbarth
Mae’r llysywen yn rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol, mae ar restr goch IUCN, ac yn ôl amcangyfrif collwyd tua 90% o lysywennod y DU yn y ganrif ddiwethaf. Mae bron pob creadur, yn cynnwys pobl, yn hoffi eu bwyta ar bob cam yn eu cylch bywyd. Mae dirywiad y rhywogaeth hynod ddiddorol hon yn cael ei waethygu drwy golli cynefinoedd, gosod rhwystrau i ymfudo a smyglo llysywennod yn anghyfreithlon i Asia i’w bwyta.
​
O ganlyniad i hyn, rhaid anfon 60% o’r llysywennod a ddelir i raglen ailstocio ar gyfer Ewrop gyfan. Yn rhan o’r gwaith hwn, mae Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yn cydweithio â’r grŵp Llysywennod Cynaliadwy i redeg y rhaglen Eels in the Classroom. Bydd ysgolion yn gofalu am lysywennod mewn tanc gwydr am dymor, yn eu bwydo, yn glanhau’r tanc, yn dysgu am eu cylch bywyd rhyfeddol ac am y trafferthion y maent yn eu hwynebu. Wedyn byddwn yn eu dychwelyd i’n hafonydd lleol erbyn iddynt ddod yn llysywennod ifanc er mwyn rhoi gwell cyfle iddynt oroesi. Os llwyddwn i gael un llysywen fenyw i ddychwelyd i Fôr Sargasso i silio, bydd yn dodwy hyd at filiwn o wyau.
​
Rydym yn gobeithio rhedeg y prosiect hwn ar y cyd â thair ysgol gynradd o leiaf yn RhCT yn 2022, gan ganolbwyntio ar ddalgylch afon Cynon.
​
Mae’r newyddion diweddaraf am y prosiect ar gael yma .
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma am gylch bywyd rhyfeddol y llysywen.
Astudiaeth Achos
Ble mae Gwennol y Bondo?
Pwrpas y prosiect hwn oedd hybu ymwybyddiaeth o adar fel gwennol y bondo sy’n nythu yn ein cartrefi. Yn ôl yn 2000, ar ddechrau cyfnod y cynllun Gweithredu dros Natur cyntaf, un o’r rhywogaethau a drafodwyd yn y cynllun oedd y wennol ddu, rhywogaeth a oedd eisoes yn dioddef oherwydd gostyngiad yn nifer ei safleoedd nythu o ganlyniad i waith i wella cartrefi. Roedd y prosiect yn cynnwys poster, pecyn addysgu i ysgolion ac arolwg ehangach ynghyd ag ymgyrch hen ffasiwn ar y cyfryngau.
Roedd y prosiect yn llwyddiant mawr ac roedd nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cymryd rhan. Derbyniwyd cyfanswm o 94 o ddalennau cofnodi ac adroddiadau am 246 o nythod gwennol y bondo. Cafwyd canlyniadau rhyfeddol mewn rhai mannau. Er enghraifft, roedd Ysgol Cwmlai, Coedelái wedi cofnodi 38 o nythod gwennol y bondo a 2 o nythod y wennol ddu yn yr ysgol. Cafwyd hanesion diddorol, yn cynnwys un am y dywediad lleol "A house with house martins is a happy home", ac adroddiad bod gwenoliaid y bondo wedi ailfeddiannu nyth ar ôl adar y to.
Yn 2021, roedd y pryder am y wennol ddu wedi dwysáu oherwydd y tywydd gwael yn ystod y gwanwyn. Cynhaliwyd yr un arolwg eto ar raddfa lai mewn ysgolion yng Nglynrhedynog a’r Maerdy, ac roedd ymweliad â’r safle gan Glwb Adar Morgannwg wedi cadarnhau bod yr adar gwenolaidd mewn trafferthion enbyd. Cafwyd ymatebion negyddol gan yr ysgolion, ni welwyd nythod gwennol y bondo a dim ond un o nythod y wennol ddu a nodwyd. Mae prosiect yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i gynyddu nifer y safleoedd nythu mewn adeiladau cyhoeddus a datblygu’r ymgyrch hybu ymwybyddiaeth, yn enwedig mewn perthynas ag inswleiddio atigau