Cofnodi a Monitro
Mae’r camau gweithredu hyn yn ymwneud â’r mathau o bethau y gallwn eu gwneud i annog mwy o bobl i helpu i gofnodi bywyd gwyllt lleol, datblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u mwynhad. Nid oes neb yn arbenigwr bywyd gwyllt o’i eni ac mae pawb sydd â diddordeb yn gallu cymryd rhan.
Astudiaeth Achos
Cylchlythyr y Cofnodwyr
Yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, mae Cylchlythyr y Cofnodwyr wedi’i gyhoeddi unwaith neu ddwy bob blwyddyn ers dechrau’r 2000au. Mae’n fforwm ar gyfer adrodd a chofnodi bywyd gwyllt yn RhCT.
Mae’n dibynnu’n llwyr am ei gynnwys ar y wybodaeth a anfonir gan bobl leol ac, wrth iddo ddatblygu dros y blynyddoedd, mae anecdotau, hanes a diwylliant lleol, adroddiadau am y tywydd a llu o ddarganfyddiadau newydd a phwysig o ran bioamrywiaeth wedi dod yn rhan o’r arlwy.
Hyd yn hyn, cyhoeddwyd mwy na 30 rhifyn o Gylchlythyr y Cofnodwyr a gellir olrhain llawer o gynnwys y Cynllun Natur Lleol i arsylwadau a materion a oedd wedi cael sylw yn gyntaf yn y Cylchlythyr.
Gallwch ddarllen ôl-rifynnau o Gylchlythyr y Cofnodwyr yma