top of page
P1010546_edited.jpg

Grwpiau Cymunedol

Mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer grwpiau cymunedol sydd am gymryd camau gyda’i gilydd er lles natur yn eu cymuned leol. Os ydych am gael cyngor ar gychwyn grŵp cymunedol, cysylltwch ag Interlink RhCT.

1.

Ymuno â Grŵp Gweithredu Cymunedol dros Natur PNL RhCT

Rydym yn un o’r is-grwpiau yn PNL RhCT ac yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn i drafod y camau y gallwn eu cymryd er lles bywyd gwyllt yn ein cymunedau. Gallwch ymuno â’r grŵp drwy gysylltu â ni.

2.

Gwarchod y Llyffantod Dafadennog

Mewn nifer o ardaloedd yn RhCT, mae llyffantod dafadennog yn wynebu peryglon oherwydd ceir wrth iddynt ymfudo i’r pyllau silio ar ddechrau’r gwanwyn. Os ydych wedi sylwi ar hyn yn eich ardal, beth am gychwyn patrôl llyffantod?

3.

Cadwch Gymru’n Daclus 

Cymerwch ran mewn grŵp codi sbwriel neu grŵp glanhau afonydd, neu gychwyn eich grŵp eich hun. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

4.

Llwybrau Draenogod

Helpwch y draenogod yn eich cymuned leol drwy gydweithio â’ch cymdogion i gysylltu’ch gerddi â llwybr draenogod.

5.

Tirweddau Byw

Dewch o hyd i’r lleoedd arbennig ar garreg eich drws a mynd â phobl at fyd natur i’w helpu i’w drysori. Bydd y mannau glas yn eich ardal yn lleoedd da i ddarganfod a chofnodi bywyd gwyllt hefyd. 

gyr2.jpg

Grŵp Gweithredu Cymunedol dros Natur RhCT

Cymerwch ran yn ein gweithdai rheolaidd i ddysgu am y camau y gallwch eu cymryd i helpu byd natur yn eich cymuned leol

Astudiaeth Achos

Grŵp Amgylchedd Pont-y-clun

‘Fel grŵp lleol, rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i gymryd rhan yng ngweithdai Gweithredu Cymunedol dros Natur am ddau brif reswm: y cyntaf yw eu bod yn rhoi cyfle i ddysgu gan bobl sydd â mwy o arbenigedd na ni a chael ein rhoi ar ben ffordd gyda materion sy’n eithaf cymhleth, fel plannu coed. Yr ail reswm yw bod cyfle i gwrdd â phobl yn yr ardal sy’n cymryd camau ar faterion sy’n gysylltiedig â natur a rhannu arferion – beth sydd wedi gweithio’n dda a beth sydd heb weithio! Mae hyn yn cynnal ein brwdfrydedd ar gyfer cychwyn prosiectau newydd a meddwl am syniadau newydd. Mae bron pob un o’n haelodau mewn gwaith amser llawn felly mae’n bwysig cael gweledigaeth ac ysbrydoliaeth er mwyn eu cymell i roi o’u hamser mewn gweithgareddau gwirfoddol drwy Grŵp Amgylchedd Pont-y-clun.’

  • YouTube

© 2023 Partneriaeth Natur Llol RhCT

Datganiad Preifatrwydd

bottom of page