
Er mwyn deall yr argyfwng hinsawdd, rhaid deall y gylchred garbon. Mae prosesau naturiol yn gweithio ar eu cyflymder eu hunain. Er enghraifft, o safbwynt dynol, mae anadlu yn digwydd ar unwaith ond mae’r dyddodi sy’n gwneud creigiau (yn cynnwys glo ac olew) yn ddaearegol araf. Mae prosesau naturiol yn cael eu heffeithio gan bobl. Ar y dechrau, roedd yr effeithiau’n gyfyngedig ond roeddent wedi dechrau cynyddu wrth i fwy o bobl gael effaith ar gynefinoedd a rhywogaethau ledled y byd (er enghraifft, drwy gynnau tanau a hela mamaliaid mawr). Cafwyd newid sylweddol yn yr effeithiau hyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth ddarganfod a gwneud defnydd helaeth o ‘danwyddau ffosil’, a rhyddhau carbon i’r atmosffer a oedd wedi’i storio am gyfnod hir yn y ddaear. Mae’r chwyldro diwydiannol a ddaeth yn sgil hyn wedi creu ein cymdeithas fyd-eang fodern a’i holl fanteision. Yr her yn awr yw byw heb danwyddau ffosil, gadael y rheini sy’n weddill yn y ddaear, a dod o hyd i ffordd o fyw sy’n cyd-fynd â phrosesau naturiol ac nid yn mynd yn groes iddynt. Nid yw effeithiau newid hinsawdd yn cael eu teimlo gan bawb i’r un graddau. Yn benodol, pobl dlotach yn y DU a thrwy’r byd sy’n dioddef waethaf, felly mae sicrhau cyfiawnder hinsawdd yn her fawr.
Mae stori fer hyfryd gan Primo Levi yn ei gyfrol hunangofiannol ‘The Periodic Table’ yn adrodd hanes atom carbon yn symud drwy’r gylchred garbon, gan ddangos natur gymhleth ein perthynas â’r elfen hon sy’n sail i fywyd.

Trafnidiaeth, ynni yn y cartref a’r pethau rydym yn eu prynu sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r nwyon tŷ gwydr sy’n achosi newid yn yr hinsawdd. Gwnewch hynny a allwch i helpu i leihau’r rhain.
1.
Ynni yn y Cartref
Gwella’r inswleiddio (mae llenni’n helpu hefyd!), dewis cyfarpar ynni-effeithlon, ceisio lleihau’r defnydd o ynni
2.
Trafnidiaeth
Cerdded, beicio a mynd ar sgwter yn amlach, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mynd ar lai o dripiau mewn car neu deithiau mewn awyren
3.
Ailddefnyddio ac Atgyweirio
Prynu pethau ail-law, trwsio ac atgyweirio, hurio neu rannu, ailgylchu. Cefnogi busnesau lleol
4.
Meddwl am beth rydych yn ei fwyta
Mae hyn yn effeithio ar ddefnydd tir a bywyd gwyllt drwy’r byd. Yn bwysicaf oll, peidiwch â gwastraffu bwyd. Allech chi dyfu’ch bwyd eich hun? Prynwch fwyd sy’n lleol ac yn ei dymor. Cefnogi ffermio seiliedig ar natur
5.
Ymchwillio
Cyn cymryd camau, ymchwiliwch. Mae ‘atebion sydyn’ fel plannu coed yn gallu bod yn fwy cymhleth nag y maent yn ymddangos a hyd yn oed arwain at ryddhau carbon. Darllenwch y dudalen ar Blannu Coed i gael gwybod mwy.

