top of page
The Spectacle Abrostola tripartita (3).JPG

Yr Argyfwng Natur

Yn 2021, datganwyd Argyfwng Natur gan Lywodraeth Cymru, gan gydnabod bod ein byd naturiol mewn cyflwr enbyd. Ers i’r Cenhedloedd Unedig gynnal Uwchgynhadledd y Ddaear ym 1992 mae gwledydd y byd wedi mabwysiadu polisïau a rhaglenni i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth.  Ers hynny, cafwyd cynnydd mawr o ran deall y wyddoniaeth, achosion y dirywiad mewn bioamrywiaeth a sut i’w ddad-wneud. Ac mae camau wedi’u cymryd, ond nid yw’n ddigon. 

​

Wrth barhau â’r ‘ffordd o feddwl’ bod rhaid i ni ddewis rhwng pobl a’r byd naturiol, byddwn ni bob amser yn ffidlan ar yr ymylon heb roi sylw i’r problemau sylfaenol.  Roedd y Cenhedloedd Unedig wedi cydnabod hyn drwy osod Nodau Datblygu’r Mileniwm a Chymru wedi’i gydnabod drwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru); ei nodau a’i ffyrdd o weithio.

​

Mae natur a phrosesau naturiol yn sail i bob agwedd ar fywyd dynol gan gynnwys yr economi. Er y gallem fyw mewn dinas boblog ag ychydig o fannau glas, rydym yn dal i ddibynnu ar aer y gellir ei anadlu, dŵr y gellir ei yfed, bwyd maethlon a chylla iach yn ogystal â’n cartrefi a’n ffonau, gwaith ac ynni – y cwbl yn deillio yn y pen draw o adnoddau cyfyngedig a phrosesau naturiol ein planed.

​

Drwy feddwl am bobl a’r blaned y daw’r unig ffordd i ddelio â’r argyfwng natur. Ac mae pawb yn gallu chwarae ei ran. 

​

Mae’r prif fygythiadau i’n byd naturiol yn codi o:

  • Newid defnydd tir, yn enwedig colli cynefinoedd naturiol a lled-naturiol (y rhan fwyaf i amaethyddiaeth, adeiladau, ffyrdd, coedwigaeth fasnachol, mwyngloddio, etc.)

  • Llygru aer, dŵr croyw, y tir a’r môr (gan gartrefi, diwydiant, trafnidiaeth, ffermio a diffyg gofal)

  • Rhywogaethau goresgynnol: yn cael pas ar drafnidiaeth ryngwladol neu’n cael eu cyflwyno’n fwriadol mewn gerddi neu ar gyfer bwyd

  • Defnyddio: mae popeth rydym yn ei brynu a’i daflu yn y pen draw yn dibynnu ar adnoddau a gofod, a hyd yn oed ‘gwasanaethau’ fel addysg, gofal iechyd a gwyliau yn cael effeithiau

  • Da byw ac anifeiliaid anwes: maent yn llawer mwy niferus na’u hynafiaid gwyllt ac mae angen arwynebeddau mawr o dir i dyfu eu bwyd

bottom of page