top of page
Cefn-y-Parc Cemetary Lyn Evans.JPG

Gwarchod Safleoedd

Mae’r camau gweithredu hyn yn ymwneud â’r ffordd rydym yn gallu gwarchod safleoedd sy’n bwysig i fywyd gwyllt. Y man cychwyn wrth warchod bioamrywiaeth yw’r cynefin, felly mae angen gwarchod cynefinoedd ‘blaenoriaethol’ a brithweithiau cyfoethog o gynefinoedd. Ond mae cyfoeth ein bioamrywiaeth yn bodoli ochr yn ochr a niferoedd mawr o bobl, ac mae hanes gweithgarwch dynol a hanes cynefinoedd wedi’u plethu ynghyd. Mae dynodi safleoedd lleol a statudol (cenedlaethol a rhyngwladol) i’w gwarchod yn hollbwysig.

Photo in situ 1R.jpg

Astudiaeth Achos

Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SBCNau) yn RhCT

Mae Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SBCNau) yn ddynodiadau cynllunio a ddefnyddir gan Gyngor RhCT i bennu safleoedd anstatudol sydd o bwysigrwydd er cadwraeth natur yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r polisi gwarchod natur yng Nghynllun Datblygu Lleol RhCT, AW8, yn disgrifio sut mae’r system SBCNau yn gweithio.  Mae’r system hon wedi’i seilio ar Feini Prawf Dewis SBCNau Ardal Canol y Cymoedd ac mae’n pennu ac yn mapio safleoedd sy’n cynnal cynefinoedd a rhywogaethau sy’n cael blaenoriaeth o ran bioamrywiaeth.

​

Caiff SBCNau eu dynodi drwy broses y Cynllun Datblygu Lleol a’u gwarchod drwy’r broses cynllunio os gofynnir am ganiatâd cynllunio i newid defnydd tir ar y safle. Mae polisi AW8 yn gwarchod SBCNau drwy ei gwneud yn ofynnol bod ceisiadau cynllunio yn cael eu hategu gan asesiad ecolegol manwl a bod nodweddion bioamrywiaeth o bwys o fewn y safle yn cael eu gwarchod drwy eu hosgoi neu fod effeithiau’n cael eu lliniaru neu, os yw’n bosibl, bod nodweddion yn cael eu gwella drwy gamau penodol i warchod natur.

 

Am fod RhCT yn agos i Gaerdydd ac yn cynnwys tri choridor ffyrdd pwysig a thiroedd helaeth sy’n eiddo i’r cyhoedd, ceir nifer mawr o geisiadau cynllunio sy’n galw am ystyried polisi AW8. Felly mae’r system SBCNau o bwys mawr wrth sicrhau camau effeithiol i warchod bioamrywiaeth yn RhCT.

bottom of page