​
Awdurdodau Cyhoeddus
Mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer awdurdodau cyhoeddus sydd am gymryd camau pendant er lles eu hamgylchedd lleol, yn rhan efallai o’u cyfrifoldebau amgylcheddol a chymunedol. Mae gofyniad cyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd i gynnal a gwella bioamrywiaeth drwy eu holl swyddogaethau ac i gyfrannu at greu ‘Cymru gydnerth’ o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae rhai newidiadau syml y gallwch eu gwneud i gyfrannu at hyn. Gallwch weld y nodau i Gymru gyfan yma ac isod rydym wedi awgrymu camau gweithredu ychwanegol ar gyfer RhCT. ​
Astudiaeth Achos
Cymorth gan Gyngor Cymuned Llanharan ar gyfer Coed Brynna
Mae Cyngor Cymuned Llanharan wedi cynnig cymorth i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru er 2009 drwy ddarparu grant blynyddol ar gyfer Gwarchodfa Natur Coed Brynna a Chors Llanharan.
​
Mae gwaith wedi dechrau i gynyddu bioamrywiaeth a gwarchod y pathew, sy’n rhywogaeth o bwysigrwydd cenedlaethol, yn y warchodfa. Yn ogystal â hyn, mae ysgolion lleol ac aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i ymweld â’r Warchodfa a dod i gysylltiad â natur. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn ystyried darparu rhagor o gyllid i sefydlu ystafell ddosbarth awyr agored newydd a gosod cerfluniau pren. Hefyd, mae’r Cyngor wedi cychwyn trafodaethau â’r Ymddiriedolaeth Natur, Network Rail ac adran Hawliau Tramwy Cyngor RhCT ynghylch pont arfaethedig i Warchodfa Natur Coed Brynna ar gyfer llwybr ceffylau. Y gobaith yw y bydd unrhyw ddyluniad a gyflwynir ar gyfer y bont yn un sy’n ystyriol o gynefin y chwilen olew borffor. Byddai’r dyluniad hefyd yn gallu cynnwys nodweddion natur a byrddau dehongli ar gyfer y warchodfa.
​
Mae’r Cyngor yn rheoli rhai darnau bach o dir y mae’n berchen arnynt mewn ffordd sensitif er mwyn cynyddu eu potensial ar gyfer bywyd gwyllt. Mae prosiect o dan ystyriaeth ar gyfer darparu man amwynder, gyda phwyslais ar natur, mewn coetir gwlyb y tu ôl i Ganolfan Gymunedol Brynna. Mae ‘toeau gwyrdd’ ar gysgodfannau bysiau hefyd yn cael eu treialu yn yr ardal.