Camau Gweithredu ar gyfer Coetiroedd, Prysgwydd a Pherthi
Coetiroedd, Prysgwydd a Pherthi yn RhCT
Mae digonedd o goed yn RhCT, ac mae prysgwydd a choed yn tyfu ar oddeutu un rhan o dair o arwynebedd y Fwrdeistref Sirol. Mae RhCT yn un o blith tua dwsin o ardaloedd awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr sydd â mwy na 25% o’u harwynebedd yn goediog. O ran y gwahanol fathau o goetiroedd, ceir nifer o gategorïau coetir cyffredinol, er bod y gwahanol fathau o goetir mewn nifer o goedwigoedd yn ymdoddi ac yn cyd-ddigwydd mewn brithweithiau cynefinoedd cymhleth.
Coetir hynafol yw safle a fu’n goediog ers y flwyddyn 1600 ar yr hwyraf, pan luniwyd y mapiau cyntaf. Bydd nifer ohonynt wedi bod yn goediog yn gynharach o lawer na hynny ac, mewn rhai achosion, mae’n bosibl bod y cynefinoedd yn goetiroedd ers miloedd y flynyddoedd. Coetiroedd hirsefydlog yw ein cynefinoedd coetir pwysicaf.
Ceir llawer iawn o goetiroedd eilaidd hefyd yn RhCT, sef coetiroedd mwy diweddar (llai na 100 mlwydd oed yn fras ac yn fwy diweddar eto mewn rhai achosion). Mae coed ynn, sycamorwydd a bedw arian yn digwydd yn aml mewn coetiroedd o’r fath ond yn RhCT mae coed derw hefyd yn cytrefu’n gynnar yn aml ar dir agored. Ceir drain gwynion a drain duon yn aml gyda’i gilydd ac, ar dir gwlypach, coed gwern, bedw cyffredin a helyg. Bydd gallu coed i gytrefu yn dibynnu ar y mathau o bridd, y lleoliad, ac agosrwydd i ffynhonnell hadau. Mae’r cytrefu mewn coetiroedd newydd wedi cyfrannu’n helaeth at ein dealltwriaeth o brosesau datblygu naturiol mewn coetiroedd. Er y bydd coed ynn yn aml yn cytrefu o dan orchudd o goed derw, a hynny’n galw am ymyriadau eithafol (a dibwrpas yn ôl rhai) i hyrwyddo eginiad coed derw, mae’n amlwg, os ceir yr amodau priodol (sy’n cynnwys tir agored yn ôl pob golwg), y bydd coed derw yn tyfu’n llwyddiannus. Er bod coed derw yn amharod yn aml i adfywio mewn coedwigoedd derw, mae caeau a adawyd sy’n agos i goetiroedd derw yn gallu adfywio fel coetiroedd derw newydd. Efallai y dylid ystyried y posibilrwydd bod y dderwen yn rhywogaeth arloesi.
Mae gallu coetiroedd i adfywio a chytrefu’n naturiol yn gryf iawn yn RhCT. Os gadewir tir agored heb ei reoli am ddim ond ychydig o dymhorau, bydd yn adfywio’n gyflym gyda thwf prysgwydd agored a choed ifanc, yn deillio o berthi cyfagos a hen goetiroedd. O safbwynt bioamrywiaeth, mae adfywio naturiol o’r fath gan goed yn well o lawer na’r broses artiffisial a rhagnodedig o blannu coed, gyda’i ôl troed carbon, ei thiwbiau plastig a’r posibilrwydd o fewnforio a lledaenu clefydau coed. Gwaetha’r modd, nid yw cytrefu ac adfywio naturiol gan goed yn ‘cyfrif’ ar hyn o bryd ar gyfer targedau cenedlaethol ar greu coetiroedd. Mae’n amlwg bod y diystyru hwn o ffyrdd naturiol o ehangu coetiroedd yn gamgymeriad sydd angen ei gywiro. Os na wneir hynny, mae perygl mawr y bydd y pwysau i gyrraedd targedau cenedlaethol ar gyfer y gorchudd coetiroedd yn galw, ar lefel RhCT, am dargedu safleoedd lle mae gorchudd cynefin lled-naturiol sydd yn bwysig ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaethol eraill.
Yng nghyd-destun bioamrywiaeth, mae coetiroedd llydanddail a blannwyd yn ddynwarediad gwael o goetiroedd llydanddail brodorol. Mae planigfeydd o’r fath heb y strwythur a’r cynhwysedd a geir drwy adfywio naturiol pan fydd rhywogaethau’n chwilio am amodau priodol a’u defnyddio’n naturiol. Er y byddai plannu coetiroedd cymysg, cyfoethog eu rhywogaethau yn gallu ymddangos yn llesol ar yr olwg gyntaf, mae gwir berygl o gyflwyno rhywogaethau neu stoc genetig nad yw’n gynhenid i RhCT (neu wahanol rannau o RhCT), ac y bydd creu coetiroedd cyfoethog eu rhywogaethau ‘yn syth’ yn tanseilio ac yn drysu blaenoriaethau cadwraeth yn ein coetiroedd hynafol a threftadaeth pwysig. Er bod planigfeydd llydanddail yn gallu darparu tirlunio a sgrinio pwysig, maent yn gynefinoedd artiffisial fel arfer. Mae’r awydd i blannu coetiroedd llydanddail mewn cynefinoedd lled-naturiol, neu i adfer tir ‘diffaith’ (fel tomenni sborion glo cyfoethog eu rhywogaethau) yn creu perygl gwirioneddol o gael colled net sylweddol mewn bioamrywiaeth.
Astudiaeth Achos
Sbwriel o’r Ardd
Un bygythiad mawr i nifer o’n coetiroedd yw’r effeithiau o blanhigion goresgynnol sydd wedi dianc o erddi ac sy’n llethu haenau o brysgwydd brodorol a blodau gwyllt y llawr.
Ceir rhestr hir o rywogaethau problemus sy’n cynnwys nid yn unig Glymog Japan a Jac y Neidiwr, ond hefyd clychau’r gog Sbaenaidd, marddanadl melyn brithliw, llawr-sirian, cotoneaster, bachgen llwm, gwyddfid Wilson, cwyros, coed mêl a nifer mawr o rai eraill. Gall y planhigion hyn dyfu o hadau sy’n dod o erddi cyfagos, ond yn llawer rhy aml byddant yn cael eu cyflwyno’n uniongyrchol drwy’r arfer cyffredin o adael sbwriel o’r ardd mewn coetiroedd. Mae’n sicr bod llawer o bobl yn gweld hyn yn ffordd naturiol a didrafferth o gael gwared â sbwriel o’r ardd. Er hynny, mae’n weithgarwch cwbl annerbyniol.
Nid yn unig y mae sbwriel gardd a daflwyd yn mygu’r llystyfiant presennol, mae hefyd yn dod â phridd o erddi i goetiroedd, ac mae’n fath o dipio anghyfreithlon. Yn waeth byth, mae’n ffynhonnell gyson o blanhigion goresgynnol, hadau, cloron a chrachgoed. Mae’r arfer hwn yn diraddio bioamrywiaeth y coetir ac yn un o’r enghreifftiau amlycaf o ddiffyg dealltwriaeth cyhoeddus a gofal am amgylcheddau lleol. Mae angen ymgyrch i hysbysu perchnogion gerddi am effeithiau gweithgarwch o’r fath, er mwyn hybu ymwybyddiaeth o’r broblem ac annog pawb yn RhCT i fanteisio ar y
gwasanaeth ailgylchu a chasglu gwastraff gerddi o garreg y drws a gynigir gan y Cyngor.