top of page
Meadow brown on DBS.JPG

Mae Gweithredu dros Natur yn ymwneud â chamau y gallwn ni i gyd eu cymryd er budd bywyd gwyllt yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd ei greu gan bartneriaeth sy’n cynnwys llawer o wahanol bobl a sefydliadau, sy’n cyfuno gwyddoniaeth, tystiolaeth leol ac arbenigedd lleol. Mae gan y Cynllun adran dechnegol gyda chamau gweithredu ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau arbennig sy'n bwysig yn Rhondda Cynon Taf, ond mae hefyd yn awgrymu camau y gallwch chi eich hun eu cymryd i helpu byd natur yn Rhondda Cynon Taf. Cliciwch ar y dolenni isod i ddarganfod y ffordd orau y gallwch chi weithredu er budd natur Rhondda Cynon Taf.

Sefydlwyd Partneriaeth Gweithredu dros Natur Rhondda Cynon Taf am y tro cyntaf ym 1998, ac mae'n cynnwys partneriaid a chanddynt frwdfrydedd a gwybodaeth drylwyr am fywyd gwyllt y sir, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd De Ddwyrain Cymru a llawer mwy. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gynllunio a gweithredu dros natur yn y sir. Mae aelodaeth yn agored i bawb.

Cysylltwch â Chydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol i ddarganfod mwy ac i ddod yn aelod.

 

​

RCT in Wals.png

Sylwch nad yw'r cynllun hwn yn cynnwys yr ardal o Rondda Cynon Taf sydd wedi'i chynnwys yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cliciwch yma i weld y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

RCT map.png
Cwm_Tips_Beddau.JPG
Cysylltu â Ni

​Mae angen eich enw a'ch cyfeiriad e-bost ar Ysgrifenyddiaeth Partneriaeth Natur Leol  Rhondda Cynon Taf (sydd dan ofal Cyngor Rhondda Cynon Taf) er mwyn i ni allu cysylltu â chi. Ceir manylion ynglÅ·n â sut rydym yn rheoli'r data hwn yn Natganiad preifatrwydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Diolch am gyflwyno

bottom of page