
Mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer y rheini sydd â rhywfaint o wybodaeth a phrofiad o fywyd gwyllt a chadwraeth, a’r nod yw eich helpu i gymryd y camau mwyaf effeithiol er lles natur yn RhCT.
1.
Ymuno â chynllun cofnodi newydd
Mae nifer o gynlluniau cofnodi rhagorol y gallwch gymryd rhan ynddynt a’n helpu i gael gwell syniad o gyflwr byd natur yn RhCT. Gallwch ddod o hyd i gynllun sy’n addas i chi yma. Mae digonedd o apiau gwych ar gael hefyd i’ch helpu i gofnodi rhywogaethau.
2.
Dod yn fentor
Allwch chi helpu cofnodwr newydd i ddysgu mwy? Os ydych chi wedi dysgu sgiliau cofnodi ac am rannu’r rhain â rhywun arall, rhowch wybod i ni ar dudalen ein grŵp Facebook
3.
Cyflwyno cofnodion bywyd gwyllt
Ydych chi wedi cadw cofnodion am fywyd gwyllt mewn llyfr nodiadau neu ar gyfrifiadur? Gallwch gyflwyno’ch cofnodion i SEWBReC fel y gallant ein helpu i gynllunio camau gweithredu er lles natur yn y dyfodol. Gallwch ddysgu rhagor drwy wylio’r fideo An Introduction to Wildlife Recording ar YouTube.
4.
Rhoi’ch sgiliau ar waith mewn maes newydd
Ydych chi’n wyliwr adar? Am eich bod chi wedi arfer cadw llygad barcud, byddai’ch sgiliau’n berffaith ar gyfer canfod gwiberod! Hoffem wybod rhagor am ddosbarthiad gwiberod yn RhCT – bydd y canllawiau hyn gan ARC yn eich rhoi ar ben ffordd. Grŵp arall o rywogaethau nad oes gennym ddigon o gofnodion amdanynt yn RhCT yw gwybed yr afon, a hoffem gael rhagor o wybodaeth amdanynt. Byddai’r cyflwyniad hwn yn gallu tanio’ch diddordeb!
5.
Ymchwilio, ysgrifennu a chyhoeddi
Oes gennych chi wybodaeth helaeth am bwnc ecolegol yn RhCT? Hoffem glywed amdano a chynnig syniadau i chi ynghylch cael cyhoeddi’ch gwaith. Cysylltwch â ni.

Astudiaeth Achos
Gwirfoddolwyr Butterfly Conservation a Britheg y Gors
Ym mha faes bynnag rydych chi’n ymddiddori, bydd cyfle i chi wneud gwahaniaeth mawr yn RhCT.
Mae grŵp gwirfoddolwyr Butterfly Conservation dros Dde Cymru wedi gweithio’n galed i wella cynefinoedd britheg y gors yn y safleoedd porfa rhos ledled y sir. Yn dilyn archwiliadau cychwynnol a drefnwyd gan Richard Smith i ganfod a mapio’r holl boblogaethau o fritheg y gors yn RhCT, aeth y grŵp ati i hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y poblogaethau hyn ac mae wedi cymryd camau i ddod o hyd i gyllid ar gyfer codi ffensys a gwaith allweddol arall. Bob gaeaf fe’u gwelir wrthi’n briwio prysgwydd ac yn helpu i warchod cynefin y glöyn byw hwn sy’n rhywogaeth mewn perygl.
Ben Williams yw un o’r gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n gweithio’n galed i helpu’r gloÿnnod yn RhCT. Bob gaeaf bydd yn cyd-drefnu ac yn cydweithio â thîm Trefi Taclus y Cyngor i friwio prysgwydd a helpu i warchod cynefin britheg y gors. Yn ddiweddar, mae wedi cymryd rhan mewn prosiect i ailgyflwyno britheg y gors, sy’n cael ei redeg gan y Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru. Mae Ben wedi chwarae rhan hanfodol ym mhrosiect britheg y gors drwy helpu i fagu lindys a chynnal ymchwil bwysig.
Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn esiampl o’r ffordd y mae caredigion natur yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr wrth warchod bywyd gwyllt.
