Mae’r mawnogydd a geir ym Mhrydain yn bwysig ar lefel ryngwladol ac mae hyn yn dod â chyfrifoldeb yn ei sgil i warchod y cynefinoedd hyn sy’n wynebu bygythiad drwy’r byd. Mae’r rhan fwyaf o fawnogydd yn wlyptiroedd asidig sy’n cael eu cyflenwi gan law (ombrotroffig), ac yn cael maethynnau mwynol o ddŵr glaw. Felly maent i’w cael mewn hinsoddau gwlyb, cefnforol yn unig. Ceir mawnogydd ar wasgar drwy ucheldiroedd Cymru ac mae gweddillion yma ac acw hefyd o fawnogydd yn yr iseldir. Yn RhCT y ceir rhai o’r mawnogydd pwysicaf yn ne Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys arwynebeddau helaeth o orgorsydd yr ucheldir (llawer ohonynt dan goed), a mannau lle ceir mignenni ar ben mynydd a mignenni mewn cymoedd uchel. Ceir gorgorsydd pwysig yn nhiroedd gwastad yr ucheldir ym mlaenau Cymoedd Rhondda ac ar ochr orllewinol Cwm Cynon a gorgorsydd llai, ond pwysig, yn yr ucheldiroedd deheuol rhwng Tonyrefail a Phontypridd. Yn ogystal â hyn, ceir gorgorsydd a mignenni mewn cymoedd yn yr iseldir mewn safleoedd pwysig, yn cynnwys ACA Blaencynon ac ardaloedd o amgylch Rhigos, Buarth y Capel yn Ynys-y-bwl, y Waun yn Nhonyrefail a chyfres o nodweddion mawnogydd yr iseldir ar SoDdGA Comin a Phorfeydd Llantrisant. Rydym yn ffodus iawn o gael y fath gyfoeth o gynefinoedd mawnogydd yn ardal ein PNL.
Mae mawn yn cael ei ffurfio o weddillion planhigion y fawnog. Bydd y mawn yn mynd yn fwy trwchus wrth i figwyn a rhywogaethau eraill y fawnog dyfu a marw. Yn fras iawn, mae pob metr o ddyfnder y mawn yn cyfateb i fil o flynyddoedd o dwf planhigion. Mae safleoedd sydd â haen drwchus o fawn yn gynefinoedd hynafol iawn a gallant fod wedi dechrau datblygu yn y canrifoedd cyntaf ar ôl yr oes iâ ddiwethaf, filoedd lawer o flynyddoedd yn ôl.
Mae fflora’r cyforgorsydd a’r gorgorsydd yn arbennig a nodweddiadol iawn. Mae’n cynnwys gwahanol rywogaethau o figwyn, plu’r gweunydd, grug croesddail, glaswellt y ceirw, llafn y bladur a chwys yr haul. Mae’n debygol y bydd mawnogydd yr ucheldir hefyd yn cynnal cymysgedd nodweddiadol o adar nythu, er ein bod wedi colli ein poblogaethau o ylfinirod a giachod nythu yn yr ugain mlynedd diwethaf, gwaetha’r modd. Er hynny, yn y gaeaf, gellir dod ar draws giachod a giachod bach ac, os ydych yn lwcus, bodau tinwyn a thylluanod clustiog. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae poblogaeth sylweddol o lygod y dŵr wedi dod i’r golwg yn ucheldiroedd RhCT (a rhannau cyfagos o ardal Castell-nedd Port Talbot) sy’n defnyddio cynefinoedd y mawnogydd a nentydd cysylltiedig. Mae’r darganfyddiad syfrdanol hwn o rywogaeth yr ofnwyd ei bod wedi darfod yn y Fwrdeistref Sirol yn dangos pa mor bwysig yw gwaith arolygu mewn mannau anghysbell. Yn ogystal â hyn, mae cymuned neilltuol o infertebrata yn yr ucheldiroedd, yn gysylltiedig yn aml â phyllau mawn, sy’n cynnwys gweision y neidr fel y picellwr cribog, y wäell ddu a’r hebogwr.
 
Gwaetha’r modd, hyd yn ddiweddar, yr unig werth a oedd yn cael ei weld mewn mawnogydd oedd fel mannau i gael mawn i’r ardd neu fel tir i’w ‘wella’. Mae’r dinoethi ar fawnogydd ym Mhrydain drwy dorri mawn, coedwigaeth, tirlenwi a draenio ar gyfer amaethyddiaeth wedi digwydd ar raddfa enfawr. Yn ogystal â hyn, mae dyddodiadau nitrogen o lygredd trafnidiaeth a diwydiant wedi amharu ar gyfansoddiad cemegol y mawn, a bydd tanau glaswellt yn effeithio ar y safleoedd hyn o bryd i’w gilydd. Mae’r holl fawnogydd yn RhCT wedi’u difrodi a’u newid gan weithgarwch dynol. Er hynny, mae’r safleoedd hyn (yn unigol a gyda’i gilydd) yn gynefinoedd sy’n bwysig iawn o ran gwarchod natur. Maent hefyd yn gynefinoedd sy’n gallu ymateb yn dda i ddulliau addas o reoli a gwaith adfer hydrolegol. Mae hyn yn dod yn fwy perthnasol i lunwyr polisi am fod mawn yn bwysig fel storfa carbon atmosfferig sy’n cael ei ddal o fewn gweddillion dwrlawn y planhigion hanner-pydredig sydd ynddo. Fodd bynnag, o ganlyniad i waith draenio a phlannu coedwigoedd, nid yw mawnogydd Cymru mor ddwrlawn ag y dylent fod ar hyn o bryd ac mae bacteria aerobig yn prysur ailgylchu carbon a ddaliwyd yn y mawn yn y gorffennol yn ôl i’r awyr. O ganlyniad i hyn, mae ein mawnogydd yn allyrru mwy o lawer o garbon nag y maent yn ei gymryd i mewn. Fodd bynnag, os caiff y mawnogydd eu hadfer a’u hailgyflenwi â dŵr, gellir dal y carbon yn y mawn unwaith eto. Os bydd migwyn yn gallu ailgytrefu, yna gellir dal carbon o’r awyr a’i storio drwy brosesau naturiol. Felly mae cyfle go iawn i sicrhau buddion mawr o ran bioamrywiaeth a storio carbon os byddwn yn adfer ein mawnogydd.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Migwyn (Sphagnum spp.)
-
Plu’r gweunydd (Eriophorum spp.)
-
Chwys yr haul
-
Grug croesddail (Erica tetralix)
-
Grug (Calluna vulgaris)
-
Glaswellt y ceirw (Trichophorum cespitosum)
-
Llafn y bladur
-
Y Gylfinir
-
Y Gïach
-
Y Cornicyll
-
Y wäell ddu
-
Llygod y dŵr
-
Chartoscirta cocksii
-
Scolopostethus puberulus
Mae prosiect Adfer Mawndiroedd De Cymru (2021-2025) yn cael ei redeg gan y Bartneriaeth Adfer Mawndiroedd sy’n cynnwys Cyngor Castell-nedd Port Talbot (partner arweiniol), Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Abertawe a Coed Lleol.
​
Yn y gorffennol, roedd yr ucheldir rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yng Nghymoedd y De, a alwyd unwaith yn ‘Alpau Morgannwg’, yn dirwedd o rostir agored a oedd yn cynnwys mawnogydd. Heddiw, planigfeydd coedwigaeth masnachol a ffermydd gwynt ynni adnewyddadwy sy’n nodweddu’r dirwedd hon – ond mae meintiau mawr o fawn ar ôl mewn mannau. Mae mawn yn amhrisiadwy fel storfa carbon ac fel cynefin i fywyd gwyllt ac yn hollbwysig o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd a dad-wneud y dirywiad mewn bioamrywiaeth.
​
Bydd y prosiect yn adfer ac yn rheoli mwy na 490 hectar o’r tirweddau a chynefinoedd hanesyddol hyn, yn cynnwys rhostiroedd, glaswelltiroedd a choetiroedd brodorol. Canolbwyntir yn benodol ar adfer 256 hectar o fawnogydd a phyllau mawn a oedd gynt dan goed.
​
Bydd gwelliannau o’r fath mewn cynefinoedd yn rhoi hwb i nifer o’r rhywogaethau bywyd gwyllt lleol sy’n dirywio ar hyn o bryd fel y byddant yn ffynnu eto. Mae’r rhain yn cynnwys adar fel yr ehedydd a’r troellwr mawr; infertebratau fel gloynnod y fritheg werdd a’r fritheg berlog fach; a mamaliaid, yn cynnwys y llygoden y dŵr swil.
​
Bydd y gwaith adfer mawnogydd yn cael ei fonitro’n fanwl a bydd yn cyfrannu at ymchwil bwysig y mae Prifysgol Abertawe yn ei chynnal ar hyn o bryd i bennu’r arferion gorau mewn technegau adfer ac i ddeall effeithiau ar fioamrywiaeth, ansawdd dŵr ac allyriadau CO2. Bydd hefyd yn haws cael mynediad i’r dirwedd wyllt ryfeddol hon drwy wella llwybrau a gosod arwyddion a byrddau dehongli.
​
Yn rhan o’r prosiect hwn, bydd pobl leol hefyd yn gallu dysgu am y dreftadaeth ar garreg eu drws, cymryd rhan a chael profiadau ohoni drwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau di-dâl, rhaglenni dysgu awyr agored i ysgolion a chyfleoedd i wirfoddoli. Bydd pobl yn gallu dysgu sgiliau a chael gwybodaeth newydd yn yr awyr agored drwy raglenni hyfforddi pwrpasol. Bydd teuluoedd ac oedolion hefyd yn gallu cymryd rhan neu gael eu hatgyfeirio i raglenni gweithgareddau iechyd a lles y prosiect.
​
Astudiaeth Achos
Adfer Mawndiroedd
Safleoedd i’w gweld
-
Cwm Saerbren
-
Pen-y-cymoedd
-
Maerdy
-
Comin Llantrisant
-
Y Waun, Tonyrefail
Dolenni defnyddiol
-
The Wildlife Trusts - Blanket Bog
-
Lost Peatlands Project