Mae ein cartrefi, ysgolion, addoldai, gweithleoedd, pontydd a thwneli i gyd yn cael eu defnyddio gan fywyd gwyllt. Mae ystlumod a nifer o rywogaethau o adar nythu yn dibynnu ar adeiladau yn aml am leoedd i glwydo neu nythu. Er mwyn i’r rhywogaethau hyn barhau i rannu’r lleoedd hyn â ni, mae angen i ni weithredu er eu lles.
Bydd y rhan fwyaf o’r rhywogaethau o ystlumod yn clwydo mewn adeiladau a strwythurau adeiledig. Ymysg y rhain y mae’r ystlum lleiaf a’r ystlum lleiaf meinlais cyffredin a rhai prin fel yr ystum pedol lleiaf a mwyaf. Ceir bygythiadau drwy’r amser i glwydfannau a’r mynediad atynt oherwydd yr angen i atgyweirio adeiladau, eu hadnewyddu, newid eu defnydd a’u dymchwel. Os oes clwydfan mewn tÅ·, mae’n syndod na fydd pobl yn sylweddoli yn aml ei fod yno. Mae ystyriaeth i ystlumod yn rhan o’r broses cynllunio ac, os bydd angen, rhaid gwneud cais i CNC am drwydded i wneud gwaith lle mae clwydfannau ystlumod. Dyma’r brif ffordd i ystyried y defnydd o adeiladau/strwythurau gan ystlumod.
Mae gwaith ar adeiladau a strwythurau yn effeithio ar adar nythu yn yr un ffordd. Mae’r wennol ddu yn gwbl ddibynnol ar y gallu i gael mynediad i atigau mewn tai; mae gwenoliaid y bondo yn gwneud eu nythod dan y bargod ac mae angen iddynt gael mwd i’w hadeiladu; mae gwenoliaid yn nythu mewn ysguboriau a stablau agored y gallant hedfan iddynt a gwneud eu nythod ar drawstiau’r to; mae gwenoliaid y glannau yn nythu mewn tyllau draenio yn waliau afonydd; ac mae ar adar y to angen twll neu fwlch yn yr esgyll ffasgia i adeiladu eu nythod. Yn fwyaf rhyfeddol yn RhCT, mae’r dylluan wen yn nythu nid yn unig mewn ysguboriau ac adeiladau fferm yng nghefn gwlad, ond hefyd mewn ysgolion a chapeli Fictoraidd yn strydoedd y Cymoedd.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Y wennol
-
Y wennol ddu
-
Gwennol y bondo
-
Aderyn y to
-
Y corryn Scytodes thoracica
-
Y dylluan wen
-
Y ddrudwen
-
Ystlumod