Glaswelltir calchaidd
Dim ond ar briddoedd ac isbriddoedd sydd â pH alcalïaidd ac sy’n isel eu ffrwythlondeb ac yn draenio’n rhwydd yn naturiol y ceir glaswelltiroedd calchaidd. O fewn dalgylch Cynllun Natur Lleol Rhondda Cynon Taf, mae’r rhan fwyaf o’r glaswelltiroedd calchaidd yn gysylltiedig â’r chwareli a chloddiadau ffyrdd sydd ar ben y calchfaen Carbonifferaidd sy’n rhedeg ar hyd ymyl deheuol maes glo De Cymru ac sy’n dod i’r wyneb o amgylch Llantrisant, Pont-y-clun a Llanhari. Glaswelltiroedd calchaidd eilaidd yw’r rhain sydd wedi datblygu lle mae defnydd tir wedi dinoethi’r creigwely calchfaen, a lle mae priddoedd calchaidd tenau wedi datblygu.
Mae glaswelltir calchaidd eilaidd yn gallu datblygu hefyd y tu allan i’r prif ardaloedd o galchfaen carbonifferaidd a gellir ei gael ar dir ôl-ddiwydiannol lle mae priddoedd tenau calchaidd yn datblygu ar ben lloriau concrid neu ar falast rheilffyrdd o galchfaen.  Lle ceir darnau concrid yng nghanol sborion glo, gellir cael rhywogaethau calchaidd yn aml yn tyfu mewn brithweithiau cymhleth gyda chymunedau glaswelltir asidig a gweundir.
Er eu bod yn digwydd yn eilaidd, mae ein glaswelltiroedd calchaidd yn rhai cyfoethog eu rhywogaethau a’u blodau. Maent yn cynnwys set nodweddiadol o rywogaethau gyda pheiswellt coch, ceirchwellt melyn, crydwellt a pheiswellt y defaid ynghyd â hesgen lwydlas y calch a fflora blodeuog nodweddiadol gyda physen y ceirw flewog, y bengaled, y bengaled fawr, briallu Mair, llysiau’r dryw, y friwydd felen, llin y tylwyth teg, ysgallen Siarl, tegeirian y wenynen, y tegeirian brych, y tegeirian bera, y caineirian a’r blucen felen.
Yn rhannol oherwydd amrywiaeth fawr y planhigion, a’r ffynonellau neithdar, ac yn rhannol am eu bod yn gynnes a’u priddoedd yn denau, mae ein glaswelltiroedd calchaidd yn gynefinoedd pwysig i infertebrata. Mae rhywogaethau gloÿnnod sy’n dirywio fel y glesyn bach a’r gwibiwr llwyd yn cael ffynonellau bwyd a lleoedd i dorheulo yma; mae’r isbriddoedd calchog yn cynnal poblogaethau amrywiol o falwod sydd, yn eu tro, yn cynnal pryfed tân (sy’n hoff iawn o fwyta malwod). Mae’r safleoedd hyn yn gynefinoedd rhagorol i ymlusgiaid hefyd, ac mae’r neidr ddefaid a’r fadfall yn gyffredin iawn yn aml.
Mae dirywiad diweddar yn nifer y cwningod wedi arwain at fwy o ymledu gan brysgwydd (drain gwynion, coed ynn a chwyros mewn llawer achos) ar nifer o safleoedd, ac er bod y cymunedau prysgwydd calchaidd hyn yn aml yn gyfoethog eu rhywogaethau, mae angen eu rheoli ar gyfer y tymor hir os ydym am gadw glaswelltir calchaidd agored. Mae dulliau pori er lles cadwraeth a thorri a chasglu yn ddelfrydol ar gyfer rheoli glaswelltir.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Peiswellt coch
-
Ceirchwellt melyn
-
Crydwellt
-
Peiswellt y defaid
-
Hesgen lwydlas y calch
-
Pysen y ceirw flewog
-
Y bengaled
-
Y bengaled fawr
-
Briallu Mair
-
Llysiau’r dryw
-
Y friwydd felen
-
Llin y tylwyth teg
-
Ysgallen Siarl
-
Tegeirian y wenynen
-
Y tegeirian brych
-
Y tegeirian bera
-
Y caineirian
-
Y blucen felen
-
Y glesyn bach
-
Y gwibiwr llwyd
-
Y neidr ddefaid
-
Y fadfall