Sborion Glo
Mae tomenni sborion glo yn waddol diwydiannol a diwylliannol yn sgil diwydiant glo de Cymru. Yn ystod cyfnod mwyaf ffyniannus y pyllau glo, roedd tomenni sborion glo yn greithiau du ar hyd ochrau’r cymoedd. Fel ymateb hwyr i drychineb Aberfan, cymerwyd camau gan y Bwrdd Glo, y WDA ac Awdurdodau Lleol i symud y tomenni glo peryglus ac adfer y tir. Mae’r tomenni sy’n weddill, ar ôl blynyddoedd o adfywio naturiol, yn cynnal cynefin sydd o werth sylweddol i fioamrywiaeth leol.
​
Oherwydd natur sborion glo, gellir cael glaswelltir sy’n draenio’n rhwydd yn agos iawn i dir gwlyb sydd â chymunedau planhigion tebyg i’r rheini ar laciau twyni ar arfordir Morgannwg gyda channoedd o blanhigion tegeirian y gors deheuol a glesyn y gaeaf deilgrwn. Bydd gweundiroedd yn aml yn cynnal arwynebau crawennog o gen cladonia, cymunedau a geir fel arfer ar ben y mynyddoedd neu mewn twndra gogleddol. Mae prysgwydd yn elfen gryf yn aml gydag eithin a drain gwynion isel cennog, a choed derw yn cytrefu. Ar safleoedd mwy hirsefydlog, mae coetiroedd yn cytrefu’n naturiol, ond dim ond lle mae priddoedd wedi datblygu dros amser. Mae rhywogaethau planhigion anfrodorol sy’n neilltuol yn lleol yn nodwedd ynddynt hefyd. Er enghraifft, ceir edafeddog fach blodau melyn ac edafeddog hirhoedlog, rhywogaethau anfrodorol nodweddiadol nad ydynt yn achosi problemau. Mae nifer o domenni sborion glo yn bwysig hefyd fel llochesi i ffawna’r glaswelltir, ffridd a gweundir, gyda chymunedau rhagorol o infertebratau (cofnodwyd un rhan o dair o ffawna gwenyn Prydain ar lond llaw o domenni sborion glo RhCT), casgliadau o ffyngau’r glaswelltir, cymunedau cymhleth o blanhigion yr haen isaf a chynefinoedd delfrydol i ymlusgiaid.
​
Weithiau bydd pwysigrwydd sborion glo o ran hanes, diwylliant a bioamrywiaeth yn mynd yn groes i’r awydd i ddileu pethau sy’n ein hatgoffa o’r gorffennol diwydiannol. Yn y gorffennol, mae tomenni peryglus wedi’u hadfer a safleoedd eraill wedi’u hailfodelu a’u hailbeiriannu. Mae’r tirlithriad diweddar ar domen Old Smokey yn Tylorstown, yn ystod Storm Dennis, wedi codi pryderon o’r newydd ynghylch sefydlogrwydd tomenni. Yn ffodus, mae’r gydnabyddiaeth gynyddol i bwysigrwydd ecolegol sborion glo yn arwain at bennu nodau sy’n fwy ystyriol o fioamrywiaeth ar gyfer gwaith adfer tomenni. Mae’n bosibl mai cynlluniau plannu coed yw’r bygythiad mwyaf ar hyn o bryd i gynefinoedd sborion glo, ac mae’n sicr y bydd diffyg rheoli cydnaws yn y tymor hir yn peri bod nifer o safleoedd sborion glo yn parhau i droi’n safleoedd o brysgwydd a choetir, gan arwain at golli amrywiaeth y cynefinoedd. Yr heriau ar gyfer y Cynllun Gweithredu hwn yw hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd safleoedd sborion glo ar gyfer bioamrywiaeth y Cymoedd, rhoi anogaeth i’w gwarchod a’u rheoli, gan hyrwyddo mwynhad anffurfiol ohonynt gan y cyhoedd a, lle mae angen gwaith adfer, hyrwyddo camau i warchod natur wedyn sydd wedi’u seilio ar brosesau adfywio naturiol dynamig.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Gwibiwr llwyd (Erynnis tages)
-
Glesyn bach (Cupido minimus)
-
Gweirlöyn llwyd (Hipparchia semele)
-
Y fritheg berlog fach (Boloria selene)
-
Y gwyfyn Coediwr (Adscita statices)
-
Y gweirwyfyn prin (Crambus pratella)
-
Y wenynen Andrena falsifica
-
Y wenynen Andrena similis
-
Y wenynen Andrena tarsata
-
Y gacynen Bombus monticola
-
Y wenynen Bombus humilis
-
Y criciedyn Myrmeleotettix maculatus
-
Miltroed Maerdy Monster (Turdulisoma cf helenreadae)
-
Y chwilen Cicindela campestris
-
Y gwybedyn Oxcyera pygmaea
-
Y pryf hofran Microdon cf. myrmicae
-
Y fursen dinlas fach (Ischnura pumilio)
-
Y corryn Arctosa perita
-
Edafeddog fach (Filago minima)
-
Edafeddog hirhoedlog (Anaphalis margaritacea)
-
Glesyn y gaeaf deilgrwn (Pyrola rotundifolia)
-
Llin y tylwyth teg (Linum catharticum)
-
Cen Cladonia
-
Ysgallen Siarl (Carlina vulgaris)
-
Tegeirian y gors deheuol (Dactylorhiza praetermissa)
-
Y wiber (Vipera berus)
-
Neidr y gwair (Natrix natrix)
-
Y fadfall (Zootoca vivipara)
-
Y llyffant melyn (Rana temporaria)
-
Y llyffant dafadennog (Bufo bufo)
-
Madfall ddŵr balfog (Lissotriton helveticus)
-
Titw’r helyg (Poecile montanus)
Tylorstown – Dull Gweithredu Newydd
Yn Chwefror 2020, daeth Storm Dennis ar warthaf RhCT ac, yn ogystal â’r llifogydd ofnadwy, roedd y glaw dwys wedi achosi tirlithriad ar ochrau Llanwynno yn Tylorstown. Llithrodd deunydd o’r domen i gwm Rhondda Fach, dangoswyd lluniau ohono ar y newyddion cenedlaethol a rhoddwyd blaenoriaeth i sefydlogi ac adfer y domen ar fyrder. Fodd bynnag, yn wahanol i waith adfer tomenni yn y gorffennol, mae’r sylw mawr a gafwyd i fioamrywiaeth ar sborion glo wedi arwain at gydweithio agos rhwng peirianwyr ac ecolegwyr.
Yn ystod y gwaith adfer, ceisiwyd lleihau’r effeithiau ar y cynefin ar ochrau’r mynydd sydd o ansawdd Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur. Wrth ddylunio a gofalu wedyn am y rhannau o’r domen a ailfodelwyd, ceisiwyd cydweithio â phrosesau naturiol ac ecoleg y sborion glo.
O ganlyniad i hyn, cafwyd cyfle i sicrhau bod y domen yn ddiogel ac i reoli a gofalu am y safle fel un sydd i bob pwrpas yn warchodfa natur Sborion Glo. Bydd hyn wedi’i seilio ar adfywio naturiol a dulliau rheoli cydnaws a bydd yn cysylltu bioamrywiaeth eithriadol y safle â’r dirffurf ddramatig a hanes a diwylliant lleol.
Safleoedd i’w gweld
-
Tomenni’r Gelli
-
Parc Gwledig Cwm Clydach
-
Parc Gwledig Cwm Dâr
-
Tomen Old Smokey (Tylorstown)
-
Tomenni Cwm
-
Glofa Maerdy
Dolenni defnyddiol
-
Colliery Spoil Biodiversity Initiative
-
Coal Spoil Fungi Facebook Group