top of page
Mike_edited.jpg

Coetir a blannwyd

Y math cyffredinol olaf o goetir yw planigfeydd conwydd. Yn RhCT, mae’r planigfeydd conwydd yn amlwg, gydag ungnydau o sbriws Sitca yn yr ucheldir mawnog, ac amrywiaeth fwy o rywogaethau ar ochrau’r cymoedd (yn cynnwys llarwydden Ewrop, sbriwsen-hemlog y gorllewin, pinwydden Corsica, etc). Weithiau ceir olion y coetir brodorol gwreiddiol yn y planigfeydd hyn ar ffurf coed hynafol, cadeiriau coed a adawyd neu fflora llawr coetir cyfoethog ei rywogaethau. Yn aml bydd y rhodfeydd a llecynnau agored yn cynnwys olion anghofiedig fflora gwreiddiol y gweundir, y glaswelltir corsiog neu’r fawnog. Lle mae cerrig calch wedi’u cario i mewn i wneud ffyrdd coedwigaeth, mae teim, y blucen felen a thegeiriau bera yn gallu ymsefydlu.

 

Yn rhannol o ganlyniad i’w maint ac yn rhannol oherwydd dylanwad y cynefinoedd gwreiddiol sy’n weddill, mae gwerth o ran bioamrywiaeth i blanigfeydd conwydd ar dir uchel. Yn y gwanwyn, mae’r planigfeydd yn cynnal poblogaethau cryf o adar cân, yn cynnwys yr ylfingroes, y titw penddu a’r dryw eurben. Ar ôl torri coed, mae’r safleoedd yn gynefin nythu delfrydol i’r troellwr mawr a chorhedydd y coed a cheir poblogaethau o’r rhain sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yn RhCT. Gwalch Marthin yw’r aderyn ysglyfaethus arbenigol ar blanigfeydd RhCT, ac yn y gaeaf gwelir ambell gigydd mawr. Rydym yn gwybod bellach fod poblogaethau o lygod y dŵr wedi parhau ar dir coedwigaeth sydd heb ei blannu a bod yr Ystad Goetir anferth sydd gan Lywodraeth Cymru yn sicr o fod yn bwysig dros ben i’r rhywogaeth hon.

Mike_edited.jpg
tree-387040_1920.jpg

Rhywogaethau Cysylltiedig

  • Coed conwydd, yn cynnwys llarwydden Ewrop, sbriwsen-hemlog y gorllewin a phinwydden Corsica

  • Amanita’r gwybed

  • Teim

  • Y blucen felen

  • Tegeiriau bera

  • Yr ylfingroes

  • Pila gwyrdd

  • Crëyr glas

  • Cigfran

  • Y dylluan frech 

  • Corhedydd y coed

  • Y titw penddu

  • Y dryw eurben

  • Y troellwr mawr

  • Gwalch Marthin

  • Llygoden y dŵr

Astudiaeth Achos

Prosiect Bioamrywiaeth yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Mae’r prosiect Bioamrywiaeth yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru wedi datblygu yn sgil gweminar a gynhaliwyd gan Dr Charles Hipkin, lle nodwyd bod y dirwedd blanigfeydd wedi’i hanghofio i raddau helaeth gan gofnodwyr rhywogaethau. Ar hyn o bryd, mae rheolwyr coedwigoedd yn rheoli coedwigoedd gan arfer sensitifrwydd at fioamrywiaeth y coedwigoedd ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael iddynt. Felly, mae’r diffyg cofnodwyr arbenigol yn ffactor sy’n cyfyngu’r sylfaen dystiolaeth hon.

​

Nod y prosiect hwn oedd creu cysylltiadau rhwng CNC a’r gwahanol arbenigwyr lleol yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf. Er bod y berthynas rhwng adrannau rheoli tir CNC a’r prosiect yn parhau i ddatblygu, mae’r cysylltiadau a ffurfiwyd yn ystod y prosiect yn sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio i sicrhau’r arferion gorau a dulliau rheoli cynaliadwy yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Roedd y prosiect wedi cyrraedd nifer mawr o bobl ac roedd gweminar ar Ddosbarthiad a Dynameg Bioamrywiaeth yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru wedi denu 200 o bobl o wahanol sectorau a gwledydd a chafodd dderbyniad gwresog dros ben.

 

Roedd y prosiect hwn wedi nodi nifer o gynefinoedd allweddol, yn cynnwys ffen helyg sy’n gallu cynnal cymunedau gorgefnforol o bryoffytau, gweddillion coetir llydanddail a mawn dwfn yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn ogystal â safleoedd sy’n cynnal rhywogaethau o bwysigrwydd lleol a chenedlaethol, yn cynnwys Huperzia selago a Lycopodium clavatum (S7).

 

‘Er mai prosiect treialu byr oedd hwn, mae wedi sicrhau nifer o ganlyniadau pwysig. Ymysg y mwyaf o’r rhain y mae’r asesiad o beth rydym yn ei wybod am fioamrywiaeth yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac, i’r un graddau, pa fylchau sydd yn ein gwybodaeth. O ystyried maint y coetiroedd conwydd yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru mewn siroedd fel Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, mae’n amlwg ei bod yn bwysig iawn bod yr asesiadau hyn yn cael eu gwneud a’r bylchau’n cael eu llenwi. Yn ogystal â hyn, mae’r prosiect wedi dwyn sylw llawer o bobl at y rhan y mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn ei chwarae fel lloches i rywogaethau sy’n dirywio yn nhirwedd fiolegol de Cymru a/neu ar ymyl eu gwasgariad bioddaearyddol. Mae angen cael mwy o fanylion ar gyfer y dyfodol.’

 

Dr Charles Hipkin, Cadeirydd Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot

AREA 5.8 PELENNA 043.JPG

Dolenni defnyddiol

  • The Wildlife Trusts - Coniferous Plantation

  • Woodland Trust - Plantations

bottom of page