Mae cymoedd y De wedi’u ffurfio a’u siapio gan erwindeb a grymoedd y gyfres o Oesoedd Iâ. Mae treftadaeth geomorffolegol a daearegol Rhondda Cynon Taf yn gyfoethog ac amrywiol dros ben ac wedi’i chysylltu’n annatod â bioamrywiaeth ragorol y Fwrdeistref Sirol. Mae clegyrau a llethrau sgri Rhondda Cynon Taf yn nodweddion rhewlifol ac yn gynefinoedd o gryn werth i fioamrywiaeth ym mhen deheuol eu dosbarthiad yn y DU.
Ceir cyfres wych o gymoedd rhewlifol yng Nghymoedd Rhondda a Chynon, yn eithaf deheuol eu dosbarthiad yn Ynysoedd Prydain. Yr unig leoedd i weld nodweddion o’r un math yn bellach i’r de yw’r Alpau a mynyddoedd y Pyrenees yn Ffrainc. Clegyrau yw cefnau’r cymoedd rhewlifol, lle’r oedd y rhew wedi cronni a’r rhewlifoedd wedi dechrau ar eu taith araf i gafnu’r dyffrynnoedd. Mae clegyrau sy’n wynebu’r gogledd yn lloches i rywogaethau a chymunedau planhigion a oedd yn gyffredin yn syth ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf, ond sydd i’w cael yn awr yn bellach o lawer i’r gogledd na RhCT.
Am genedlaethau dirifedi, mae disgynyddion y planhigion hynny wedi parhau ar yr un silffoedd oer di-haul, rhywogaethau sy’n cynnwys pren y ddannoedd, y rhedynen dridarn, y rhedynen bersli a chnwp-fwsogl mawr. Mae clegyrau’n fannau nythu diogel hefyd i adar ysglyfaethus (yn enwedig yr hebog tramor) a chigfrain. Dan y clegyrau, lle mae’r tir yn dechrau gwastatáu wrth y cymoedd rhewlifol, ceir llethrau o greigiau neu sgri toredig sy’n ganlyniad i rewi a dadmer. Gallai ymddangos bod y nodweddion rhewlifol nodweddiadol hyn yn gynefinoedd anffrwythlon di-nod. Er hynny, maent yn fannau arbennig sydd o werth unigryw i fioamrywiaeth. Mae cymunedau llystyfiant neilltuol, yn cynnwys cnwp-fwsoglau, rhedyn, gweundir a’u infertebrata arbenigol, yn cael eu cysylltu’n aml â safleoedd sgri. Yn gysylltiedig â’r tirweddau rhewlifol, ceir nentydd serth mewn ceunentydd a rhaeadrau ysblennydd, e.e. Blaen-cwm. Yma mae fforestydd glaw tymherus yn ffynnu yn y lleithder ac mae boncyffion, canghennau, brigau ac wynebau cerrig gwlyb wedi’u cuddio gan wisg gyfoethog o redyn, cennau, mwsoglau a llysiau’r afu.
Gwaetha’r modd, oherwydd diffyg cydnabyddiaeth, mae rhai o’n cymoedd rhewlifol gorau wedi’u difrodi. Er enghraifft, gwaredwyd sborion glo ar rannau o’r ffurfiannau mawr o dan y Graig Fawr (Cwm-parc) ac, er gwaethaf ei statws yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, plannwyd conwydd ym masn Cwm Saerbren. O ganlyniad i hyn, mae llawer o’r deunydd a ddyddodwyd gan y rhewlif, sef y marianau, wedi’i ddifrodi a rhan hanfodol o hanes geomorffolegol a bioamrywiaeth nifer o safleoedd wedi cael ei rhoi mewn perygl. Er hynny, ceir cyfleoedd i ddangos mwy o’r geomorffoleg ac adennill rhywfaint o’r potensial ar gyfer cynefinoedd drwy ddulliau rheoli cydnaws a thorri conwydd.
Mae RhCT yn ffodus dros ben o fod yn gartref i dirffurfiau naturiol mor hardd ac mae’n sicr yn bryd cydnabod o’r diwedd eu bod yn asedau naturiol eithriadol. Os gellir hyrwyddo cydnabyddiaeth iddynt a chamau i’w hadfer drwy’r PNL, yna mae’n bosibl y gellir cydnabod a meithrin trydedd dirwedd rewlifol yng Nghymru, ochr yn ochr â’r ddwy enwog, Eryri a Bannau Brycheiniog.
Mae chwareli ar gyfer cloddio tywodfaen pennant a chalchfaen yn nodwedd arall yn nhirwedd ddiwydiannol RhCT. Adeiladwyd tai crand yr Oes Edwardaidd a’r strydoedd o dai teras Fictoraidd eiconig yn RhCT gan ddefnyddio cerrig a gloddiwyd o chwareli ar ochrau’r Cymoedd, ac ar ôl yr ail ryfel byd mae’r cloddio am dywodfaen a chalchfaen ar gyfer adeiladu ffyrdd a diwydiant wedi bod yn hwb i ehangu nifer bach o chwareli anferth. Ym mhob achos, collwyd cynefinoedd ar y dechrau ond cafwyd rhywfaint o iawn am hyn drwy greu clegyrau a wynebau creigiau newydd lle mae’r hebog tramor a’r gigfran yn nythu a chymunedau rhedyn yn ymsefydlu. Ceir potensial hefyd ym masnau, silffoedd ac amgylchoedd y chwareli ar gyfer datblygu cynefinoedd calchfaen cyfoethog eu rhywogaethau a glaswelltiroedd asidig os gellir sicrhau ôl-ofal seiliedig ar ecoleg mewn cynlluniau adfer chwareli.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Mwyalchen y mynydd
-
Hebog tramor
-
Rhedynen bersli
-
Rhedynach teneuwe Wilson
-
Cochlodina laminata
-
Balea perversa