Glaswelltir asidig sych
Ceir glaswelltiroedd asidig ledled prif Gymoedd yr ucheldir yn RhCT, mewn porfeydd cysgodol ar waelod y cymoedd, fel prif elfen mewn ffriddoedd ac fel safleoedd eang ar dir gwastad uchel, lle bynnag y ceir priddoedd tenau ac asidig ‘Cymoedd’. Y glaswelltau clasurol mewn glaswelltiroedd asidig yw peiswellt y defaid (Festuca ovina), brigwellt main (Deschampsia flexuosa), cawn du (Nardus stricta), perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum), maeswellt y cŵn a maeswellt cyffredin (Agrostis spp) a glaswellt y rhos (Danthonia decumbens) ynghyd â’r hesgen ddeulasnod (Carex binervis). Er ei bod yn naturiol bod y llystyfiant yn llai amrywiol nag mewn glaswelltiroedd calchaidd neu fwy niwtral, mae’r planhigion blodeuog yn nodweddiadol iawn ac yn bwysig dros ben, yn cynnwys blodau gwyn ymlusgol y friwydd wen (Galium saxatile), tresgl y moch ‘bedwar-petalog’ melyn (Potentilla erecta), dail siâp saethau suran yr Å·d (Rumex acetosella), y tegeirian brych y gors hardd, clychau’r gog a fioledau (Viola riviniana). Blodau eraill a welir yn aml yw rhai gwyn a glas bychain ond perffaith amlaethai’r waun a’r blodau glas sydd yr un mor hardd ar y clychlys dail eiddew a’r rhwyddlwyn dail teim, a gellir cael tamaid y cythraul a dant y pysgodyn (Seratula) hefyd. Ar sail y Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol, y prif fath o laswelltir asidig mewn lleoliadau mwy cysgodol yw glaswelltir asidig U4 ‘peiswellt y defaid a maeswellt cyffredin’ tra gellir cael glaswelltir asidig U2 ‘brigwellt main’ ar lethrau mwy serth, ac mae glaswelltir asidig U5 ‘cawnen ddu a briwydd wen’ yn gymuned sy’n perthyn i’r ucheldir. Gall glaswelltiroedd asidig a borir fod yn bwysig iawn ar gyfer ffyngau’r glaswelltir.
Mae glaswelltiroedd asidig hefyd yn cynnal ffawna infertebrata nodweddiadol, yn cynnwys y wenynen andrena tarsata, gwyfyn yr adain ddu a welir yn ystod y dydd a gwyfyn y coediwr, a chadarnleoedd i weirlöyn bach y waun a’r copor bach. Yn aml ceir tirwedd o dwmpathau morgrug a’r ffawna infertebrata sy’n digwydd gyda nhw. Mae corhedydd y waun, tinwen y garn a’r ehedydd yn adar cân nodweddiadol ar laswelltiroedd asidig yr ucheldir, ac mae’r cogau sy’n weddill yn dibynnu ar gorhedyddion y glaswelltiroedd asidig a’r ffriddoedd. Mae cysylltiad cryf rhwng y gnocell werdd a llethrau a phorfeydd lle ceir twmpathau morgrug, a cheir clochdar y cerrig a’r llinos yn aml lle mae llwyni eithin yn tyfu.
 
Yn Priority Habitats of Wales (gol. P.S. Jones et al, CCW 2003) nodir bod 1400 ha o laswellt asidig yr iseldir yn Rhondda Cynon Taf (sef 4% o’r adnodd cynefinoedd hwn yng Nghymru) a nodwyd bod 31% ohono heb ei wella.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Peiswellt y defaid (Festuca ovina)
-
Brigwellt main (Deschampsia flexuosa)
-
Cawn du (Nardus stricta)
-
Perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum)
-
Maeswellt y cŵn a maeswellt cyffredin (Agrostis spp)
-
Glaswellt y rhos (Danthonia decumbens)
-
Yr hesgen ddeulasnod (Carex binervis)
-
Y friwydd wen (Galium saxatile)
-
Tresgl y moch (Potentilla erecta)
-
Suran yr Å·d (Rumex acetosella)
-
Clychau’r gog
-
Fioledau (Viola riviniana)
-
Amlaethai’r waun
-
Y clychlys dail eiddew
-
Rhwyddlwyn dail teim
-
Tamaid y cythraul
-
Dant y pysgodyn
-
Corhedydd y waun
-
Yr ehedydd
-
Y gog
-
Y gnocell werdd
Safleoedd i’w gweld
-
Gwarchodfa Natur Leol Glyncornel
-
Mynwent Treorci
-
Parc Gwledig Cwm Dâr
-
Parc Gwledig Cwm Clydach
Dolenni defnyddiol
-
Magnificent Meadows - Managing for Grassland Habitats
-
Buglife - Lowland Dry Acid Grassland