Mae ffeniau, gwerni a gwelyau cyrs yn gymunedau gwlyptir pwysig sy’n gallu amrywio o fod yn frithweithiau cyfoethog â chydrannau sylweddol o laswelltir corsiog i fod yn gynefinoedd lle ceir un rhywogaeth yn bennaf. Mewn llawer o sefyllfaoedd mae’r cynefinoedd hyn yn codi fel rhan bwysig o safleoedd glaswellt y gorlifdir. Maent yn cynnwys amrywiaeth fawr o fathau gwlyptir y Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol, yn cynnwys gwelyau cyrs S4, cynffon y gath S12, cleddlys canghennog S14, hesgen y dŵr fawr S6, hesgen y dŵr fach S7 ac weithiau (yn gysylltiedig â choetiroedd gwlyb) arwynebeddau bach o’r hesgen rafunog fawr S3.
Ffeniau yw safleoedd gwlyptir sy’n dibynnu ar lefelau dŵr uchel sy’n codi o ymchwyddau a ffynhonnau neu o nentydd a chyrsiau dŵr. Fel arfer, ceir ffeniau ar ben haen o fawn o fwy na 0.5m o drwch, mewn pantiau naturiol yn aml. Mae tri phrif fath o ffen sy’n cael eu dynodi ar sail meini prawf topograffig yn hytrach na’r math o lystyfiant. Y rhain yw mignen dyffryn, mignen basn a mignen gorlifdir. Mae mignenni dyffryn a basn sydd heb ddirywio yn gynefinoedd prin iawn bellach yn ne Cymru. Er hynny, mae RhCT yn gartref i arwynebeddau o fignenni basn a dyffryn sydd o bwysigrwydd rhanbarthol. Yn yr arolwg Cam I gan Gomisiwn Cefn Gwlad Cymru, cofnodwyd 110 hectar o fignenni dyffryn a basn yr iseldir yn RhCT.
Lle mae prosesau draenio wedi’u hatal ar orlifdiroedd, gall gwerni ddatblygu ar wlyptiroedd gwlyb iawn sydd yn aml â llystyfiant tal (gweler Gwelyau Cyrs hefyd). Ymhlith y rhywogaethau nodweddiadol y mae clystyrau o hesgen y dŵr neu hesgen chwysigennaidd (yn enwedig yn Nyffryn Elái yn achos yr olaf), cegiden y dŵr, gellesgen y gerddi ac erwain. Dim ond 8 hectar o werni a gofnodwyd yn RhCT yn arolwg Cam I Comisiwn Cefn Gwlad Cymru. Mae gwerni yn nodwedd sy’n perthyn i’r iseldir ac fe’u ceir ar ffurf safleoedd bach (llai nag 1 ha fel arfer), yn aml mewn brithweithiau cymhleth gyda chynefinoedd gwlyptir eraill. Ymhlith y safleoedd pwysig y mae Cors y Pant a Chors Coedcae yn Llantrisant, Jubilee Marsh yn Llanharan a Phyllau Hirwaun. Mae ffeniau a gwerni yn bwysig oherwydd y fflora sy’n gysylltiedig â nhw a hefyd fel cynefin i infertebrata dyfrol, amffibiaid, ymlusgiaid ac adar y gwlyptir.
Mae gwelyau cyrs yn wlyptiroedd lle ceir cyrs yn bennaf. Mae gwelyau cyrs yn cynnal fflora a ffawna sy’n arbenigol iawn ac yn agored iawn i effeithiau anffafriol ac sydd ag angen arwynebeddau mawr o gyrs i ffynnu. Er enghraifft, er y bydd gwelyau cyrs bach yn cynnal adar fel telor y cyrs a’r telor hesg, a’r rhegen dŵr dros y gaeaf, mae angen gwelyau cyrs mawr iawn (mwy na 20 ha) i fod yn gynefin nythu i aderyn y bwn a boda’r gwerni. Nid oes gwelyau cyrs o fwy na 0.25 ha yn RhCT. Mae’n debyg mai’r arwynebedd mwyaf o welyau cyrs yw’r lagwnau yng nglofa Cwm, lle ceir ardal gymysg o gyrs ynghyd ag ysbigfrwyn y morfa ac mae’n ddigon mawr i gynnal dau neu dri o delorion y cyrs. Mewn mannau eraill, ceir clystyrau bach o gyrs ar wlyptiroedd fel Cors Coedcae a Chors y Pant (y ddwy ger Llantrisant) ac wrth droed Tomenni Gelli yn Rhondda.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Migwyn Sphagnum spp.
-
Hesgen ylfinfain Carex rostrata
-
Hesgen chwysigennaidd C. vesicaria
-
Marchrawnen fawr Equisetum fluviatile
-
Ffa’r gors Menyanthes trifoliata
-
Pumnalen y gors Potentilla palustris
-
Dyfrllys y gors Potamogeton polygonifolius
-
Mintys y dŵr Mentha aquatica
-
Gold y gors Caltha palustris
-
Llafnlys bach Ranunculus flammula.
-
Brwynen babwyr Juncus effusus
-
Brwynen flodeufain J. acutiflorus
-
Glaswellt y gweunydd Molinia caerulea
-
Gellesgen y gerddi Iris pseudacorus
-
Erwain Filipendula ulmaria
-
Llysiau’r angel Angelica sylvestris
-
Blodau ymenyn Ranunculus acris
-
Mapgoll glan y dŵr Geum rivale
-
Briwydd y gors Galium palustre
-
Carpiog y gors Lychnis flos-cuculi
-
Triaglog Valeriana officinalis
-
Bryoffytau fel Calliergonella cuspidata, Rhizomnium punctatum a Brachythecium rutabulum
-
Bras cyrs
-
Cyrs (Phragmites australis)
-
Cynffon y gath
-
Llinad y dŵr Lemna minor
-
Alaw Nymphaea alba
-
Marchrawnen y dŵr Equisetum fluviatile
-
Dyfrllys llydanddail Potamogeton natans
-
Rhywogaethau chwysigenddail Utricularia spp.
-
Mintys y dŵr Mentha aquatica
-
Briwydd y gors Galium palustre
-
Gellesgen felen y gerddi Iris pseudacorus
-
Erwain Filipendula ulmaria
-
Llysiau’r milwr coch Lythrum salicaria
-
Llysiau’r angel Angelica sylvestris
-
Byddon chwerw Eupatorium cannabinum
-
Telor y cyrs
-
Telor hesg
-
Telor Cetti
-
Rhegen dŵr
-
Gwiber
-
Madfall ddŵr gribog
-
Llygoden yr yd
Astudiaeth Achos
Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys –
Ffen a Gwern Nant Dowlais
Wrth adeiladu Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys, roedd lefel rhan o’r gorlifdir wrth Nant Dowlais yn Llanilltud Faerdref wedi’i gostwng fel mesur i liniaru llifogydd. Arwynebedd yr ardal a ddewiswyd yw tua un hectar ac mae’n is na’r ffordd ar lan ddwyreiniol y nant. Codwyd haen o briddoedd amaethyddol tua un metr o drwch er mwyn creu gofod storio dŵr, a gadawyd y tir a stripiwyd i adfywio’n naturiol. Mae’r safle wedi bod yn agoriad llygad i ecolegwyr oherwydd am ran helaeth o’r flwyddyn bydd dŵr yn cronni ar wyneb y tir, neu mewn cornentydd bas, ac o fewn dim ond un tymor tyfu ar ôl ei adeiladu, roedd amrywiaeth fawr o blanhigion glaswelltir corsiog a gwerni wedi cytrefu’r safle.
​
Bellach ceir ardal hyfryd o ddôl ffen gyfoethog ei blodau lle mae brwyn a hesg yn tyfu. Mae’r rhywogaethau yn cynnwys planhigion prin fel yr hesgen chwysigennaidd. Yn yr haf, bydd yn llawn lliw a sŵn suo’r pryfed. Yn y gaeaf, bydd y gïach gyffredin yn bwydo yma. Rheolir yr ardal drwy’r dull torri a chasglu gan ddefnyddio peiriant Softrak arbenigol. Mae hon yn enghraifft wych o’r hyn y gall natur ei chyflawni os caiff gyfle. Mae’n enghraifft ardderchog o’r ffordd y gellir creu gwlyptiroedd drwy ddefnyddio’r cronfeydd hadau presennol ac ymddiried mewn prosesau naturiol. Yr allwedd ar gyfer llwyddo yn y tymor hir yw rheoli unwaith neu ddwy y flwyddyn drwy ddefnyddio peiriant Softrak i dorri a chasglu.
Safleoedd i’w gweld
-
Cors y Pant
Dolenni defnyddiol
-
The Wildlife Trusts - Wetlands
-
The Wildlife Trusts - Reedbeds