Ffridd
Ffridd (sydd hefyd yn cael ei galw’n goed cae) yw tir ar ochr y cwm sydd heb ei drin, y parth rhwng defeidiogau’r ucheldir (sydd yn aml yn blanigfeydd conwydd heddiw) a gwaelod y cwm. Yn RhCT gellir disgrifio’r ffridd drwy ddweud ei bod yn frithwaith cymhleth o weundir, rhedyn, glaswelltir asidig, coetir, sborion glo a phorfa rhos ddwrlawn. Felly mewn llawer rhan o RhCT mae ffridd yn ddisgrifiad o’r dirwedd ac yn derm cyffredinol am frithweithiau cynefin cymhleth. Mae’n nodwedd bwysig a nodweddiadol yng nghymoedd y de, yn ffurfio brithweithiau di-dor o gynefinoedd lled-naturiol ar hyd y dyffrynnoedd. Ffridd yw’r hyn sy’n tynnu ynghyd gymaint o’r fioamrywiaeth sydd yn RhCT.
Mae disgrifiadau o’r gwahanol gynefinoedd sy’n rhan o ffriddoedd wedi’u cynnwys dan enwau’r cynefinoedd hynny ar dudalennau eraill y PNL, ond rhedyn yw’r eithriad. Mae llethrau rhedyn yn elfen bwysig yn y ffridd a hefyd yn digwydd fel cynefinoedd ar wahân, lle maent yn aml yn ategu is-haen o laswelltir asidig a gweundir.
Mae llethrau rhedyn y ffridd yn bwysig iawn ar gyfer amrywiaeth fawr o rywogaethau. Mae’r safleoedd hyn yn gynefin yn aml i glychau’r gog ac yn tynnu’r llygad â’u lliwiau glas ysgafn ym mis Mai. Mae llethrau heulog cysgodol â chyfoeth o fioledau yn gynefin pwysig i löyn byw y fritheg. Mae’r fritheg berlog fach a’r fritheg werdd yn cael eu cysylltu’n benodol â rhedyndir cyfoethog ei rywogaethau. Yn y gorffennol, cafwyd adroddiadau am weld y fritheg frown, y glöyn prinnaf yng Nghymru, sydd i’w gael ar un safle yn unig bellach, yn ôl pob tebyg, ym Mro Morgannwg. Mae llethrau rhedyn y ffridd yn gynefin cyfoethog hefyd i ymlusgiaid, yn cynnal poblogaethau eithriadol o’r neidr ddefaid, y fadfall a’r wiber. Mae’r brithweithiau cynefin yn ddelfrydol i boblogaethau nythu o bwysigrwydd rhanbarthol sy’n cynnwys corhedydd y waun, corhedydd y coed a chlochdar y cerrig ac mae nifer o diriogaethau’r gog sy’n weddill yn dibynnu ar ffriddoedd.
Y ffridd yw un o drysorau bioamrywiaeth cymoedd y de, cynefin neilltuol ac amrywiol dros ben sydd heb gael y sylw y mae’n ei haeddu gan sefydliadau gwarchod natur. Mae’r ffridd yn agored iawn i’r perygl o danau glaswellt ac mae’n cael ei bygwth gan gynlluniau plannu coed. Nid yw cymhlethdod ac amrywiaeth y safleoedd hyn yn cael eu deall na’u gwerthfawrogi’n ddigonol gan amlaf. Lle nad oes pori, a lle nad yw tân wedi eu difrodi, mae nifer o ardaloedd lle mae cynefinoedd ffridd wedi troi’n ardaloedd o brysgwydd a choetir eilaidd. Pori dwysedd isel ar gyfer cadwraeth yw’r prif ddull o helpu i gadw’r ffridd agored, i reoli rhedyn rhag iddynt ddod yn brif rywogaeth, ac i atal tanau glaswellt.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Fioledau
-
Eithin Ffrengig
-
Eithin mân
-
Grug Calluna vulgaris
-
Y neidr ddefaid
-
Y fadfall
-
Y wiber
-
Y fritheg frown
-
Conops ceriaeformis
-
Crec yr eithin
-
Clochdar y cerrig
-
Y gog
-
Corhedydd y waun
-
Llinos
Astudiaeth Achos
Y gog
Mae’n sicr mai cân y gog yw un o seiniau mwyaf atgofus y gwanwyn. Cân yr aderyn hwn yw’r un y bydd y rhan fwyaf o bobl yn RhCT yn ei hadnabod, hyd yn oed os nad ydynt wedi’i chlywed yng nghefn gwlad. Gwaetha’r modd, mae llai a llai o bobl yn clywed y gog yn RhCT. Mae niferoedd yr adar mudol hyn, sy’n treulio ychydig o fisoedd gyda ni yn y gwanwyn a dechrau’r haf, yn dirywio’n gyflym yn y rhan hon o Gymru. Mae’r rhesymau am hyn yn gymhleth ac yn ymwneud â newidiadau yn yr hinsawdd ac mewn cynefinoedd yn y wlad hon a newidiadau tebyg yng nghynefinoedd mudo a gaeafu’r gog. O ganlyniad i hyn, anaml y clywir cân yr aderyn hwn yn iseldir RhCT, sef traean deheuol y Fwrdeistref Sirol, mewn mannau lle’r oedd y gog yn dodwy ei hwyau yn nythod llwyd y gwrych chwarter canrif yn ôl.
Erbyn heddiw, dim ond oddeutu dwsin o gogau sy’n dod atom yn RhCT, ac mae’r rhain yn cadw at ffriddoedd ac ucheldiroedd y Cymoedd lle maent yn dodwy yn nythod corhedyddion y waun. Felly os byddwch yn clywed y gog yn canu o garreg eich drws yng Nghymoedd Rhondda neu Gynon, y rheswm am hynny yw bod corhedyddion y waun yn parhau i nythu ar ochrau’r cymoedd ac yn yr ucheldir. Mae ymchwil wedi dangos bod angen arwynebedd o 300 hectar o gynefin corhedydd y waun ar gyfer cogau sy’n dodwy yn eu nythod. Mae niferoedd corhedydd y waun yn gostwng hefyd ac mae arnynt angen cynefinoedd glaswelltir asidig agored, mawnogydd a gweundir ar gyfer nythu. Wrth edrych ar fap arolwg ordnans o RhCT, mae’n glir nad oes ond digon o gynefinoedd addas ar ffriddoedd ac yn yr ucheldir i gynnal y dwsin o gogau, fwy neu lai, sydd gennym.
Gwaetha’r modd, mae’r rhan fwyaf o’n hucheldiroedd o dan blanigfeydd conwydd erbyn hyn ac nid ydynt yn addas bellach i gynnal cogau. Felly, os ydym am gadw cân y gog yn y gwanwyn, cân a glywodd ein hynafiaid bob gwanwyn ers i’r rhewlifoedd gilio 10,000 o flynyddoedd yn ôl, mae angen i ni drysori, gwarchod a gofalu am gorhedyddion y waun a’u cynefinoedd ar y ffridd a’r ucheldir agored.
Safleoedd i’w gweld
-
Cwm Dâr
-
Billy Wynt
-
Ochrau Cymoedd Rhondda a Chynon (tir mynediad agored)
Dolenni defnyddiol
-
RSPB - Ffridd: a habitat on the edge