Gorlifdir a Chors Pori
Mae afonydd yn systemau gweithredol ac yn aml bydd eu dylanwad uniongyrchol ar ecoleg yn gallu cyrraedd yn bellach o lawer na glannau’r afon. Lle mae dyffrynnoedd yn ymledu, bydd afonydd yn torri eu glannau o bryd i’w gilydd ac yn llifo dros y tir isel o’u cwmpas. Gorlifdiroedd yw’r ardaloedd lle mae hyn yn digwydd. Mae’r rhain yn gynefinoedd pwysig iawn sy’n cael eu cyflenwi o bryd i’w gilydd gan ddŵr llifogydd a silt yr afon, a hyd yn oed pan na fyddant dan ddŵr, mae eu priddoedd yn llaith a’u lefelau dŵr yn uchel.
Ar lefel genedlaethol, ychydig iawn o laswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau sy’n weddill ar orlifdiroedd. Cafwyd gwelliannau amaethyddol ar y rhan fwyaf ohonynt ac, yng nghymoedd y de, collwyd llawer ohonynt ar gyfer cyflogaeth, datblygu ffyrdd a chartrefi, a thirlenwi. Yn ne Cymru, mae safleoedd gorlifdir sydd heb eu gwella yn brin iawn bellach. Fodd bynnag, yn RhCT rydym yn ffodus bod gennym laswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau o hyd ar orlifdiroedd ac mae’r Fwrdeistref Sirol yn cynnwys rhwydwaith o safleoedd cyfoethog ac amrywiol eu rhywogaethau. Ar y rhai gorau, cynhelir brithweithiau cymhleth o laswelltir sych a gwlyb, gwerni a choetir coed gwern a phrysgwydd helyg cysylltiedig a ffosydd llawn tyfiant. Er mwyn gwarchod gorlifdiroedd a chorsydd pori, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu rheoli ac mae pori er lles cadwraeth a dulliau rheoli drwy dorri a chasglu yn ddulliau rheoli pwysig.
Mae gwaith ymchwil diweddar ar allu gwahanol fathau o gynefin i ddal carbon wedi dangos bod glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau ar orlifdiroedd yn storfa garbon bwysig iawn. Mae’r un safleoedd yn adnoddau naturiol hefyd ar gyfer rheoli llifogydd am eu bod gallu diogelu tai ac adeiladau pan fydd lefel dŵr yr afon yn uchel ac yn llifo drostynt. Mae dulliau rheoli er lles cadwraeth i gadw a gwella’r gorlifdir cyfoethog ei rywogaethau ar gyfer bioamrywiaeth yn darparu ffyrdd hefyd i atafaelu carbon ac amddiffyn rhag llifogydd.
 
Ceir corsydd cyfoethog eu rhywogaethau sy’n arbennig o bwysig ar orlifdir yn nalgylch Afon Elái yng Nghors y Pant, Pont-y-clun a Llanilltud Faerdref, ac yng ngwlyptiroedd y gorlifdir, sydd o ansawdd SoDdGA, yng Nghors Coedcae, ar lannau Nant Melyn yn Nhonysguboriau. Ceir cynefin sydd wedi’i addasu i fwy o raddau ym Mhont-y-clun. Ar lannau Ewenni Fach, mae Cors Llanharan, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Natur, yn enghraifft wych o wlyptir mewn gorlifdir. Ar hyd afon Cynon, ceir glaswelltiroedd yn y gorlifdir rhwng Hirwaun a Llwydcoed, yn Tirfounder Fields, ar warchodfa’r Ymddiriedolaeth Natur ym Mhwll Waun Cynon a’r arwynebedd cyfagos o flodau gwyllt sy’n eiddo i’r Cyngor yn y Parc Heddwch yn Aberpennar, ac yn Abercynon. Er bod mwy o welliannau amaethyddol wedi digwydd yma, mae potensial sylweddol ar gyfer cynefinoedd glaswelltir ar y gorlifdir yng Nghwm Taf, y gellir ei weld o lwybr Taith Taf, ac o ochrau’r cymoedd, yn cynnwys y golygfeydd godidog a geir o rannau isaf afon Taf yng Nghraig yr Allt a Mynydd y Garth. Mae’r profiad a gafwyd mewn gwarchodfeydd natur ac o’r adferiad ecolegol ar wlyptiroedd Tirfounder Fields yn dangos y cyfleoedd sydd ar gael i adfer rhagor o gynefinoedd y gorlifdir yn RhCT. Os ceir potensial i adfer natur ar orlifdiroedd, law yn llaw ag amddiffyn rhag llifogydd mewn cartrefi ar dir is, bydd pawb ar ei ennill.
Marsh Cinquefoil Comarum palustre
© Lyn Evans
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Pumnalen y gors Comarum palustre
-
Brwynen babwyr Juncus effusus
-
Brwynen flodeufain J. acutiflorus
-
Brwynen galed J. inflexus
-
Glaswellt y gweunydd Molinia caerulea
-
Rhygwellt parhaol Lolium perenne
-
Gweunwellt garw Poa trivialis
-
Maswellt penwyn Holcus lanatus
-
Peiswellt coch Festuca rubra
-
Maeswellt rhedegog Agrostis stolonifera
-
Brigwellt main Deschampsia cespitosa
-
Cynffonwellt elinog Alopecurus geniculatus
-
Dail arian Potentilla anserina
-
Hesgen y dŵr fach Carex acutiformis
-
Hesgen y dŵr fawr C. riparia
-
Melyswellt y gamlas Glyceria maxima
Astudiaeth Achos
Rheoli’r Gorlifdir
Yn 2016 cafodd Cyngor RhCT gymorth grant gan CNC i brynu peiriant torri a chasglu arbenigol Softrak i reoli glaswelltiroedd â blodau gwyllt, yn enwedig cynefinoedd ar dir gwlyb. Mae torrwr dyrnu ar y peiriant Softrak sy’n gallu trin llystyfiant twffiau/ffeibrog y gwlyptiroedd yn ogystal â blwch casglu mawr i ddal y deunydd a dorrwyd. Mae’n rhedeg ar drac treigl sy’n caniatáu i’r peiriant Softrak dorri a chasglu ar briddoedd gwlyb ac mewn mannau corsiog mewn ffordd sy’n amhosibl i beiriannau sy’n rhedeg ar deiars. O ganlyniad i hyn, mae’r Cyngor yn gallu trin cynefinoedd gwlyptir pwysig mewn ffordd effeithiol iawn a chafwyd canlyniadau rhagorol o ran bioamrywiaeth drwy waith medrus gweithredwyr y peiriant.
Safleoedd i’w gweld
-
Cors y Pant
-
Cors Llanharan
-
(O’r llwybrau lle mae hawliau tramwy cyhoeddus) Tirfounder Fields
-
Pwll Waun Cynon/Parc Heddwch
Dolenni defnyddiol
-
The Wildlife Trusts - Coastal and Floodplain Grazing Marsh
-
Buglife - Coastal and Floodplain Grazing Marsh