Mae rhostir yn cynnwys amrywiaeth o fathau o lystyfiant lle ceir llwyni grugaidd isel yn bennaf. Ceir rhostir sych ar briddoedd asidig sy’n draenio’n rhwydd, ac fe’i nodweddir gan rug, grug y mêl, llus ac eithin mân. Ar dir dwrlawn, ceir rhostir gwlyb gan amlaf, gyda grug croesddail, glaswellt y ceirw, migwyn, plu’r gweunydd a chwys yr haul. Mewn nifer o leoliadau, mae’r cymunedau rhostir hyn yn ffurfio brithweithiau cynefinoedd cymhleth gyda glaswellt y gweunydd, glaswelltir asidig a niwtral, mawnogydd a rhedyn. Mae nifer o borfeydd rhos yn cynnwys arwynebeddau helaeth o rostiroedd gwlyb a sych. Mae rhostir yn elfen bwysig hefyd yn y safleoedd ffridd a sborion glo. Maent yn cynnwys cymunedau infertebrata arbenigol lle ceir cacwn y llus, y gweirlöyn llwyd a chwilod teigr y coed, ac maent yn gynefinoedd pwysig iawn i ymlusgiaid ac, er nad oes cyfrif llawn ohonynt, mae gwiberod yn cael eu cysylltu’n aml â rhostiroedd lle ceir brithwaith o gynefinoedd.
Mae priddoedd tenau, asidig ar ochrau’r cymoedd yn cynnig amodau tyfu delfrydol i rugoedd a llus. Gyda’i gilydd, mae’r rhywogaethau hyn yn creu rhostiroedd yr iseldir sydd mor nodweddiadol o Rondda Cynon Taf. Ym mis Awst, mae’r grugoedd yn creu un o ryfeddodau naturiol tirwedd y Cymoedd. Ym mhob rhan o’r Cymoedd, mae’r ffriddoedd yn cael eu bywiogi gan glytiau porffor sydd, mewn rhai mannau, yn ffurfio lleiniau helaeth. Ar ochrau llawer o’r bryniau, mae blodau grug y mêl, sy’n fwy ac yn ffurfio siâp cloch, yn creu lliwiau glasgoch mwy llachar. Ar dir gwlypach a mwy toreithiog, mae blodau pinc y grug croesddail yn lliwio porfeydd y rhostir ar ganol haf.
​
Ar y llechweddau sychach, ochr yn ochr yn aml â grugoedd a brigwellt tonnog prydferth, ceir llwyni llus. O’u gweld o bell, mae’r dail hirgrwn gwyrdd a llachar yn ffurfio cnyciau bras wrth egino. Mae’r blodau pinc cain yn troi ar ddiwedd haf yn aeron porffor tywyll blasus sydd wedi’u casglu ers cenedlaethau i wneud pasteiod melys.
​
Mae eithin yn elfen bwysig arall mewn rhostiroedd. Gall achosi problemau weithiau a bydd yn ymledu i safleoedd sydd heb eu rheoli, ond mae’n werth bwrw golwg mwy manwl ar y llwyni hyn. Mae gennym ddwy rywogaeth o eithin. Eithin cyffredin, sy’n blodeuo ar ddechrau’r gwanwyn, yw’r rhywogaeth fwyaf a mwyaf gwydn ac nid yw fel arfer yn cael ei chyfri’n un o rywogaethau’r rhostir. Fodd bynnag, mae eithin mân yn sicr yn un o rywogaethau’r rhostir. Mae’n llai ac mae eu blodau melyn dwysach yn agor tua diwedd yr haf.
​
Mae rhostiroedd a ffriddoedd Rhondda Cynon Taf yn gartref i wyfynod ymerawdwr a chacwn, y glöyn brithribin gwyrdd a’r neidr ddefaid, y madfall a chlochdar y cerrig. Mae’r cynefinoedd hyn yn nodwedd bwysig ac annatod ym mioamrywiaeth y Cymoedd sydd newydd ddechrau cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Grug y mêl
-
Grug croesddail
-
Tegeirian brith y rhos
-
Gwiberod
-
Nadredd defaid
-
Madfall
-
Crec yr eithin
-
Clochdar y cerrig
-
Glöyn bach y waun
-
Y fritheg berlog fach
-
Y fritheg frown
-
gweirlöyn llwyd
-
Clai’r rhos Xestia agathina
-
Yr isadain felen Anarta myrtilli
-
Pali tywyll Blepharita adusta
-
Brithyn prudd Apamea furva
-
Gem fforch arian brin Syngrapha interrogationis
-
Clai’r waun Xestia castanea
-
Llwyd gloyw Stilbia anomala
-
Troellwr mawr
-
Teigr y benfelen
-
Adrena tarsata (gwenynen sy’n cloddio) (Cwm Clydach, Maerdy, Gwaun Castell Nos, yn bwydo ar dresgl y moch, yn nythu ar dir moel)
-
Tarianbryf y grug
-
Buwch gota’r grug
-
Chwilen fursen y grug
-
Himacerus boops
-
Andrena coitana
-
Nomada obtusifrons
-
Cacwn y llus Bombus monticola
-
Andrena lapponica
-
Microdon cf. myrmicae
Astudiaeth Achos
Llethrau Llon
Mae Cymoedd y De yn cynnwys tirweddau godidog a bioamrywiaeth ryfeddol. Fodd bynnag, ar ddechrau’r gwanwyn, mae tanau’n rhy gyffredin o lawer ar ochrau’r bryniau ac ar laswelltiroedd. Maent yn achosi peryglon go iawn i bobl ac eiddo, maent yn faich anferth ar ysgwyddau’r Gwasanaeth Tân, yn dinoethi’r dirwedd, yn dinistrio bywyd gwyllt, yn difrodi cynefinoedd ac yn rhyddhau carbon i’r awyrgylch. ‘Tanau glaswellt’ yw’r enw ar y rhain, ac maent yn effeithio’n bennaf ar gynefinoedd rhedyn ar ochrau mynyddoedd ac ar laswelltir corsiog sy’n cynnal glaswellt y gweunydd. Mae’r rhain yn gartref i rywogaethau prin sy’n lleihau o ran eu niferoedd, yn cynnwys gloÿnnod britheg frown a britheg y gors, adar fel clochdar y cerrig a chrec yr eithin a miloedd o nadredd defaid a madfallod. Fodd bynnag, bydd y broblem hon yn codi lle nad yw’r cynefinoedd hyn yn cael eu rheoli a lle mae plethwaith o lystyfiant marw yn crynhoi a fydd yn gallu mynd ar dân ar ôl sychu ar ddiwedd y gaeaf a dechrau’r gwanwyn.
​
Mae llethrau rhedynog a glaswelltiroedd corsiog yn werthfawr iawn o ran bioamrywiaeth, ond dim ond drwy eu rheoli’n briodol y gwireddir eu potensial. Er mwyn eu rheoli, rhaid wrth ddulliau traddodiadol o bori (gan fridiau cryf o wartheg a merlod) ac, os yw’r amgylchiadau’n caniatáu, gellir eu torri. Mae bridiau traddodiadol wedi’u bridio i bori ar laswelltiroedd garw y cymoedd. Maent yn ddigon mawr i dorri drwy’r rhedyn a’r twffiau o laswellt y gweunydd, ac maent yn ddigon cadarn i ffynnu ar y bryniau agored lle gall y tywydd fod yn arw. Drwy reoli’r rhedyn a’r glaswellt trwchus, mae’r gwartheg a’r merlod yn galluogi planhigion blodeuog o lawer math i dyfu, gan greu amrywiaeth o gynefinoedd, ac atal difrod o ganlyniad i danau glaswellt dinistriol. Mae’n cael ei gydnabod fwyfwy mai adfer ‘porfeydd cadwraeth’ o’r mathau hyn yw’r ffordd orau a mwyaf costeffeithiol i warchod a gwella bioamrywiaeth ledled Cymru, yn ogystal â helpu i atal difrod o ganlyniad i dân .
​
Mae’r prosiect Llethrau Llon yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Tân De Cymru, CNC, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a’r partner arweiniol Cyngor RhCT. Mae rhaglen waith wedi dechrau i arddangos dulliau cynaliadwy o reoli tir er mwyn atal tanau glaswellt a gwella bioamrywiaeth, tirweddau a mynediad ar gyfer amwynder. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gydgysylltu gan CNC ac mae swyddogion prosiect yn gweithio yn y maes. Yn RhCT, mae safleoedd yng Nghwm Clydach, Pen-rhys, tŵr Billy Wynt, Llantrisant (lle mae Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant yn bartner allweddol) a Threhafod i gyd yn rhan o’r rhaglen. Ymhlith y prif weithgareddau y mae hybu ymwybyddiaeth, briwio rhedyn, torri glaswellt/rhedyn ac, ar rai safleoedd, adfer porfeydd cadwraeth.
​
Un o’r elfennau cyffrous yn null Llethrau Llon yw’r manteision niferus sy’n gallu ei ddilyn. Yn ogystal â’r gwelliannau mewn bioamrywiaeth ac mewn tirweddau, a lleihau peryglon i’r cyhoedd o ganlyniad i danau glaswellt, ceir manteision i borwyr lleol drwy gynnig cyfleoedd i bori. Mae’r gwaith rheoli yn gallu creu gwaith i gontractwyr ffensio lleol, a hyrwyddo dulliau traddodiadol o reoli’r tir. Mae’r gwaith yn creu buddion o ran hamdden hefyd drwy wella canfyddiad y cyhoedd o laswelltiroedd ac ochrau’r bryniau (yn lle bryniau ar dân, mae pobl yn gweld cynefinoedd cyfoethog o ran bywyd gwyllt sy’n cael eu pori gan wartheg), darparu mynediad i ardaloedd i’w mwynhau gan y cyhoedd a hybu diddordeb a brwdfrydedd tuag at ein treftadaeth natur leol, i’w mwynhau gan bawb. Gellir cyflawni hyn oll drwy fabwysiadu dulliau rheoli tir sy’n seiliedig ar arferion traddodiadol profedig ac yn rhagori o ran cynaliadwyedd a chosteffeithiolrwydd.