Yn hanesyddol, tirwedd heb ei chynllunio a geir yn RhCT. Mae patrymau’r meysydd a’r caeau a welwn heddiw wedi’u creu fesul tipyn yn aml drwy glirio’r coedwigoedd gwyllt gwreiddiol. O ganlyniad i hyn, mae mwyafrif y perthi yn y Fwrdeistref Sirol yn hynafol a chyfoethog eu rhywogaethau, gyda chymysgedd amrywiol o goed a llwyni brodorol (yn cynnwys pisgwydd dail bach yn ardal Llanharan), cloddiau a ffosydd diffiniedig, a fflora llawr rhagorol o flodau gwyllt. Mae’r perthi hyn yn fath o goetir llinol a’u cyfansoddiad o rywogaethau’n adlewyrchu mathau coetir lleol. Ni chynhaliwyd arolwg systematig o berthi yn RhCT ond yn ystod gwaith ar gyfer ffordd osgoi Pentre’r Eglwys, archwiliwyd perthi mewn stribed llydan ar draws y rhan honno o’r Fwrdeistref Sirol ac, o’r rheini, roedd y mwyafrif yn rhai hynafol. Yn RhCT, mae perthi yn nodwedd yn Nhaf Elái ac yng Nghwm Cynon lle maent yn bwysig o ran darparu cysylltedd rhwng coetiroedd ac yn darparu nodweddion allweddol ar gyfer rhywogaethau cyfyng eu gwasgariad fel y pathew.
Prin iawn yw’r perthi yn y Rhondda. Mae perthi a blannwyd yn fwy diweddar yn nodwedd mewn rhai safleoedd adfer tir a chynlluniau ffyrdd. Wrth blannu perthi newydd, y cyngor yw ceisio peidio â phlannu dynwarediadau cyfoethog eu rhywogaethau o’n perthi hynafol hanesyddol bwysig, a phlannu coed cyll ac efallai drain gwynion. Unwaith y byddant wedi ymsefydlu, bydd y perthi newydd hyn yn dechrau’r broses hir o gaffael rhywogaethau ychwanegol drwy gytrefu o goetiroedd brodorol a pherthi hynafol cyfagos.
Y maen prawf yw bod pob rhywogaeth a gofnodir wrth archwilio darn tri deg metr o berth hynafol yn cyfateb i gyfnod o gan mlynedd. Felly, gallwch gael hwyl wrth geisio mesur oed y perthi o’ch cwmpas os ydych yn gallu adnabod y coed a llwyni brodorol yn rhwydd. Rhowch gynnig arni y tro nesaf y byddwch yn mynd am dro yn y wlad.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Coed cyll
-
Drain gwynion
-
Llwyni mwyar duon
-
Cwlwm y coed
-
Rhosyn gwyllt
-
Blodyn neidr
-
Eiddew
-
Coed masarn bach
-
Clychau’r gog
-
Coch y berllan
-
Y nico
-
Clychau’r gog
-
Briallu
-
Pryf clustiog Lesnii
-
Y pathew
-
Neidr ddefaid
-
Y fadfall
Astudiaeth Achos
Fideo am archwilio perthi
Dolenni defnyddiol
-
Buglife - Habitat Management - Ancient and Species Rich Hedgerows
-
People's Trust for Endangered Species - A History of Hedgerows