top of page
IMG_20210526_131410.jpg

Ystadau Diwydiannol

Mae llawer o bobl yn gweithio mewn unedau, swyddfeydd a ffatrïoedd ar ystadau diwydiannol. Yn aml ar y safleoedd hyn, ceir arwynebeddau mawr o laswelltir ar ffurf lawntiau sy’n cael eu torri yn ogystal â thirweddu ffurfiol, a gall y rhain fod yn eithaf anniddorol o ran bioamrywiaeth a bywyd gwyllt. 

 

Does dim rhaid iddi fod fel hyn. Mae nifer o ystadau diwydiannol yn cynnwys lleiniau o laswelltir cyfoethog ei rywogaethau a gaiff ei dorri, gweddillion porfeydd rhos, glaswelltir tir llwyd neu arwynebeddau o brysgwydd a choetir newydd. Drwy eu cydnabod a’u rheoli’n briodol, mae mannau ‘glas’ o’r fath yn gallu dod yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt gan gyfoethogi bywyd pob dydd y bobl sy’n eu gweld. 

 

Os gellir gwneud newidiadau i leihau’r defnydd o ddulliau ffurfiol ac o dirweddu a chofleidio natur gan reoli glaswellt drwy ddull torri a chasglu neu drwy adfywio naturiol gan brysgwydd/coetiroedd, yna gall y safleoedd hyn ddod yn gronfeydd bioamrywiaeth ac yn llwybrau y gall rhywogaethau symud drwyddynt. 

 

Ceir cyfleoedd hefyd i gynnwys nodweddion bioamrywiaeth mewn adeiladau (e.e. blychau ystlumod neu wenoliaid du), i greu gwlyptiroedd i arafu dŵr ffo o ben toeau ac mewn meysydd parcio a hefyd i reoli’r safleoedd yn well er lles pobl a bywyd gwyllt. 

IMG_20210526_131451.jpg
Great Black Backed Gull with chick_edited.jpg

Rhywogaethau Cysylltiedig

  • Pysen y ceirw flewog (lleiniau ymyl y ffordd)

  • Y bengaled (lleiniau ymyl y ffordd)

  • Llygad-llo mawr (lleiniau ymyl y ffordd)

  • Adar y to (prysgwydd a pherthi)

  • Draenogod

  • Y neidr ddefaid (cloddiau)

  • Gwenoliaid

  • Trioza centranthi (ar y driaglog goch mewn ystadau diwydiannol)

  • Gwylanod

  • Ystlumod

Astudiaeth Achos

Glaswelltiroedd Tir Llwyd

 

Un nodwedd benodol ar dir gwastad lle mae datblygu diwydiannol yn yr arfaeth, neu ar ymylon neu gorneli di-sylw yr ystadau diwydiannol, yw glaswelltiroedd tir llwyd cyfoethog eu rhywogaethau. Byddai’r defnydd o isbriddoedd ac o goncrid ac agregau, ac weithiau sborion glo, yn y safleoedd hyn yn gallu ymddangos yn anaddawol ar gyfer bioamrywiaeth. Fodd bynnag, mae’r deunyddiau hyn yn brin o faethynnau bob amser, gall y pH amrywio rhwng y calchaidd a’r asidig a gallant fod yn ddwrlawn neu ddraenio’n rhwydd neu fod rhywle yn y canol. Mae’r ffactorau hyn yn creu amodau sy’n hyrwyddo cytrefu naturiol gan rywogaethau brodorol ac anfrodorol. Gellir cael canlyniadau amrywiol a diddorol iawn. Rhai enghreifftiau clasurol yw glaswelltiroedd corsiog gyda’r frwynen galed a mwsoglau o lawer math, yn ogystal â chyfoeth o flodau glaswelltir corsiog fel carpiog y rhos, erwain, tegeirian y gors deheuol a hyd yn oed damaid y cythraul a hesg. Gellir cael canlyniadau syfrdanol ar laswelltiroedd tir llwyd sych, gyda thrwch o bysen y ceirw flewog yn tyfu ar ben lloriau concrid a gloÿnnod y glesyn cyffredin a’r gwibiwr llwyd a gwyfynod cliradain chwe rhesen, llygad-llo mawr, meillion coch, tegeirian y wenynen a’r bengaled.  Ar safleoedd neilltuol o galchaidd, gellir cael clytiau o’r blucen felen a chytrefi bach ar wahân o’r glöyn glesyn bach prin.   

IMG_20210526_131451.jpg
bottom of page