Ceir coetiroedd collddail cymysg yn neau’r Fwrdeistref Sirol ac yn y Cymoedd ar hyd eu hochrau isaf. Maent yn nodwedd yn ardal Taf Elái ar gyrion y Cymoedd ac mewn rhan helaeth o Gwm Cynon. Yn aml bydd y coetir cymysg clasurol yn y tir isel yn cynnal coed derw aeddfed (yn amrywio o’r dderwen mes coesynnog yn y tiroedd isaf, i goed derw mes di-goes ar ochrau’r cymoedd) yn ogystal â chymysgedd yn aml o goed hybrid, coed ynn, coed llwyfen lydanddail, coed ffawydd a masarn. Prif rywogaeth yr is-haen yw coed cyll, ac mae nifer o goedwigoedd yr iseldir yn cynnwys hen goedlannau o goed cyll, tra ceir coed celyn yn aml a’r rhain weithiau’n brif rywogaeth. Yn y coedwigoedd deheuol, mae coed masarn bach yn rhywogaeth frodorol allweddol (er nad yw’n un frodorol yn bellach i’r gogledd) ond mae drain gwynion a drain duon yn aml yn elfennau bach ynddynt neu’n gysylltiedig â’r ymylon, llennyrch neu goetir eilaidd mwy diweddar.
Ceir coed gwern, helyg, bedw llwyd, breuwydd a gwifwrnwydd y gors mewn mannau dwrlawn ac mae coed afalau surion yn nodwedd mewn nifer o goedwigoedd. Mae fflora’r llawr yn gyfoethog ac amrywiol, gyda chlychau’r gog, blodau’r gwynt, briallu, craf y geifr a fioledau cyffredin a thyfiant rhedyn toreithiog yn cynnwys y farchredynen gyffredin, rhedynen Fair, y farchredynen lydan, y wibredynen a thafod yr hydd. Ceir llwyni mwyar duon trwchus yn aml, yn enwedig mewn llennyrch yn y coetir.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Coed yn cynnwys derw mes coesynnog, derw mes di-goes, coed ynn, coed llwyfen lydanddail, coed ffawydd, masarn, coed cyll, coed celyn, coed masarn bach, drain gwynion, drain duon, coed gwern, helyg, bedw llwyd, breuwydd, gwifwrnwydd y gors
-
Ffyngau
-
Clychau’r gog
-
Eglyn cyferbynddail
-
Blodau’r gwynt
-
Briallu
-
Craf y geifr
-
Fioledau cyffredin
-
Rhedyn e.e. y farchredynen gyffredin, rhedynen Fair, y farchredynen lydan, y wibredynen a thafod yr hydd
-
Llwyni mwyar duon
-
Dringwr bach
-
Pathewod
-
Ystlumod
-
Moch daear
-
Glöyn melyn y rhafnwydd
-
Y chwilen olew borffor
-
Gwyfynod, yn cynnwys y ffug-bicwnen dorchog, tant sidan, ôl-adain oren, moca gwridog, cathan y gwernos, blaen brown, dart deunod, crynwr llwyd, castan smotyn brown, melyn y llwyf, carpiog Awst, carpiog tywyll, carpiog Medi, rhisglyn brith, melyn y rhafnwydd
Astudiaeth Achos
Y Chwilen Olew Borffor
Mae Mark Steer, un o aelodau’r PNL, wedi bod yn arsylwi ar chwilod olew porffor (Meloe violaceus) yng Ngwarchodfa Natur Coed Brynna er 2012. Ceir nifer da o’r chwilod hyn yn y warchodfa natur ac yn 2020 roedd Mark wedi cofnodi 83 o chwilod rhwng 16 Mawrth a 27 Ebrill. Roedd hefyd wedi dod o hyd i ddau safle newydd lle’r oedd y chwilen hon yn bresennol yn y warchodfa natur. Gellir gwahaniaethu’r benywod oddi wrth y gwrywod am fod eu teimlyddion yn grwm yn hytrach na chrychiog. Mae’r gwrywod hefyd yn gollwng olew melyn o’u cymalau glin, sef ffordd i’w hamddiffyn eu hunain rhag ysglyfaethu.
Mae chwilod olew yn dibynnu ar wenyn unig i gwblhau eu cylch bywyd. Felly mae poblogaethau o chwilod olew yn dibynnu am eu hiechyd ar iechyd ac amrywiaeth y gwenyn gwyllt. Mae chwilod olew yn ymateb i newidiadau mewn arferion rheoli tir ac maent yn ddangosydd da ar gyfer iechyd cefn gwlad (Buglife).
Lluniau: Mark Steer
Safleoedd i’w gweld
-
Gwarchodfa Natur Coed Brynna
-
Gwarchodfa Natur Leol Glyncornel
-
Gwarchodfa Natur Leol Craig yr Hesg
-
TÅ· Rhiw
-
Parc Gwledig Cwm Dâr
-
Cefn Hendy
-
Cors y Pant
-
Chwarel Llanharan
Dolenni defnyddiol
-
Lowland Mixed Deciduous Woodland (Description from Nature Scotland)
-
The Wildlife Trusts - Lowland Mixed Oak and Ash Woodland