top of page
Oxeye meadow White Rock RR_edited.jpg

Glaswelltiroedd Niwtral Cyfoethog eu Rhywogaethau

Y rhain yw’r glaswelltiroedd sych, cyfoethog eu rhywogaethau a geir ar briddoedd yr iseldir a/neu briddoedd dyfnach â pH niwtral. Fel arfer, maent yn borfeydd sy’n cael eu pori gan wartheg a merlod, yn weirgloddiau, ac fe’u ceir hefyd ar ffurf lleiniau glas a hen borfeydd sydd bellach yn rhan o barc, tir ysgol neu fynwent. Dyma’r mannau a fydd yn llawn lliw ac yn fyw o bryfed ar ganol haf, os byddant yn cael cyfle.  Ar un adeg, roedd glaswelltiroedd niwtral cyfoethog eu rhywogaethau yn gyffredin ac yn brif elfen mewn porfeydd ym Mhrydain ond maent bellach yn brin. Fel arfer, mae glaswelltiroedd niwtral cyfoethog eu rhywogaethau yn rhai parhaol a heb eu haredig ac a reolir drwy gynhyrchu da byw neu wair ac ni cheir defnydd dwys o wrtaith neu chwynladdwyr arnynt. Ar leiniau ymyl y ffordd ac mewn parciau, mynwentydd, tiroedd ysgol a gerddi, fe’u cynhelir un ai drwy eu torri neu, os oes modd, drwy dorri a chasglu blodau gwyllt. Mae statws maeth isel y pridd a dulliau rheoli traddodiadol yn caniatáu cydfodoli rhwng amrywiaeth fawr o fathau o wellt, hesg, planhigion blodeuog, mwsoglau, llysiau’r afu a ffyngau glaswelltir. Mae dulliau rheoli traddodiadol, dwysedd isel yn hanfodol i barhad glaswelltiroedd o’r fath a’u hamrywiaeth o blanhigion blodeuog. Fodd bynnag, mae wedi’i amcangyfrif bod 97% o’r glaswelltiroedd iseldir lled-naturiol yng Nghymru a Lloegr wedi’i golli rhwng 1930 a 1997. Erbyn heddiw, llai na 2000ha ohonynt sydd wedi’u cofnodi yng Nghymru. Er bod nifer mawr o laswelltiroedd niwtral cyfoethog eu rhywogaethau wedi’u colli, rydym yn ffodus yn RhCT fod rhwydwaith iach o’r cynefinoedd rhyfeddol hyn yn bodoli o hyd ledled y sir. Mae’n gynefin glaswelltir nodweddiadol iawn yn neau’r Fwrdeistref Sirol, ac ymhellach i’r gogledd mae’n cael ei gysylltu’n amlach â lloriau’r cymoedd a’u hochrau isaf. Ceir crynodiadau ohonynt yn RhCT sydd o bwysigrwydd rhanbarthol yng nghymoedd Cynon a Thaf. Mae’r cynefin hwn yn llai nodweddiadol yng Nghymoedd Rhondda lle mae porfeydd asidig yn brif elfen.  

Yn ôl y Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol, mae’r rhan fwyaf o’r glaswelltiroedd niwtral gorau yn rhai niwtral mesotroffig math MG5 ‘y bengaled a rhonwellt y ci’. Y rhain yw’r dolydd clasurol llawn blodau o’r math a welir mewn llyfrau plant ac ar fatiau bwrdd. Mae glaswelltiroedd MG5 yn gartref i amrywiaeth fawr o rywogaethau glaswellt, yn cynnwys peiswellt coch, rhonwellt y ci, ceirchwellt melyn, maeswellt cyffredin, a chrydwellt. Nodwedd amlycaf y glaswelltiroedd hyn yw eu golwg flodeuog. Y ddwy rywogaeth ddangosol glasurol yw’r feillionen hopysaidd a’r bengaled. Yn aml, blodau pys coch a melyn ymledol ac isel y meillion hopysaidd a lliw glas y benlas y bengaled yw’r arwyddion cyntaf o laswelltir blodeuog. Rhai rhywogaethau nodweddiadol eraill yw’r feillionen goch, y peradyl garw, clafrllys gwreidd-dan, y llygad-llo mawr, a’r tegeirian brych, ac ar safleoedd lle ceir mewnbwn alcalïaidd cymedrol ceir sawdl y fuwch, clafrllys a’r bengaled fawr, ac ar briddoedd asidig cymedrol ceir rhywogaethau fel tresgl a chribau San Ffraid. Mae glaswelltir MG5 sydd wedi’i bori’n gwta yn gallu bod yn bwysig iawn fel cynefin i ffyngau glaswelltir, ac ar y safleoedd gorau ceir amrywiaeth o gapiau cwyr llachar a’r wyntyll felen. 

 

Lle mae glaswelltiroedd wedi’u haddasu drwy welliannau amaethyddol bach neu ddulliau rheoli gwael, mae cymuned sy’n perthyn yn agos i laswelltir MG5 yn y Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol, sef glaswelltir MG6 ‘rhygwellt a rhonwellt y ci’, yn gallu bod o bwys ecolegol. Ynghudd yn aml yng nglaswellt cwta y porfeydd ceffylau ceir y bengaled, y feillionen hopysaidd a rhywogaethau eraill sy’n dangos bod y glaswelltir yn un pwysig. Mae profiad wedi dangos bod glaswelltiroedd o’r fath yn gallu dod yn fwy cyfoethog byth o ran rhywogaethau yn gyflym iawn os cânt eu rheoli mewn ffordd gydnaws. Ar y llaw arall, lle rhoddir y gorau i bori neu reoli gwair, mae glaswelltir MG1 ‘ceirchwellt ffug’ yn gallu ymsefydlu. Er hynny, bydd glaswelltiroedd o’r fath sy’n ymddangos eu bod yn dlawd eu rhywogaethau yn gallu bod yn gynefin i flodau gwyllt pwysig, a all ffynnu’n gyflym os ceir dulliau rheoli cydnaws. Gwelir y ffenomen hon ar nifer mawr o leiniau glas y Cyngor lle ceir blodau gwyllt: drwy eu rheoli drwy dorri a chasglu bydd glaswelltir MG5 yn ymadfer yn gyflym ac yn disodli cymunedau MG1 lle’r oedd gordyfiant.  

 

Felly, mae nifer mawr o gynefinoedd glaswelltir niwtral cyfoethog eu rhywogaethau ‘dichonol’ yn RhCT a fyddai, drwy wneud newidiadau bach yn y dulliau o’u rheoli (e.e. atal pori gan geffylau am gyfnodau neu sefydlu porfeydd cadwraeth neu ddulliau torri a chasglu ar leiniau ymyl y ffordd), yn cynnig y posibilrwydd o gynnydd sylweddol yn arwynebedd y cynefinoedd blodau gwyllt. Mae’r cynefinoedd glaswelltir hyn yn bodoli am fod priddoedd wedi’u gadael heb eu haredig, ac am fod cymunedau o ffyngau mycorhisol yn bresennol yn ogystal â storfeydd hadau sydd, yn achos rhai rhywogaethau, yn gallu parhau am ddegawdau. Lle ceir amodau rheoli priodol, bydd y ffactorau hyn yn hybu adfywiad planhigion blodeuog. Mae angen cael cydnabyddiaeth ar frys gan sefydliadau gwarchod natur i’r adnodd dichonol hwn o laswelltir niwtral am ei fod yn cynnig potensial aruthrol i gynyddu arwynebedd a chysylltedd cynefinoedd blodau gwyllt a ffyngau glaswelltir. Mae’n bosibl bod y nodwedd hon yn ased neilltuol i’r Cymoedd, yn ganlyniad i arferion amaethyddol dwysedd isel yn yr ardal yn y gorffennol.  Fodd bynnag, am nad yw ei werth wedi’i gydnabod, mae’n agored iawn i effaith y pwysau dros fathau eraill o ddefnydd tir, e.e. plannu coed. 

 

Mae glaswelltir niwtral cyfoethog ei rywogaethau yn gynefin ardderchog i infertebratau, lle ceir rhywogaethau deniadol fel y chwilen olew borffor, gwenyn nomada hirtipes a nomada signata, y criciedyn conocephalus discolor, gloynnod gwibiwr llwyd a glesyn cyffredin, y gwyfyn bwrned chwe smotyn sy’n hedfan yn ystod y dydd, y gwyfyn ffacbys, a’r gwyfyn hen wrach a gyda’r nos yn y gwanwyn y chwimwyfyn rhithiol a’r chwilen Mai araf a chwyrlïol. Mae infertebratau yn fwyd i’r llinos a’r aderyn du a hadau blodau yn fwyd i’r peneuryn a choch y berllan, sydd i gyd yn nythu mewn perthi cyfagos. Bydd nadredd defaid a madfallod yn chwilota neu’n torheulo ar ymylon y glaswelltir, bwncathod yn hela llygod y gwair, a phryfed genwair ac ystlumod yn bwydo yn y glaswelltiroedd dros nos. 

 

Mae dulliau rheoli cydnaws yn hanfodol i gadw glaswelltiroedd niwtral. Heb eu rheoli, bydd y glaswelltiroedd hyn yn troi’n gyflym yn brysgwydd mieri ac yn goetir o dderw ifanc sydd yn cael eu  hadu’n rhwydd gan sgrechod y coed yn yr hydref. Mae dulliau pori cadwraethol yn ddelfrydol mewn porfeydd, fel y mae dulliau rheoli drwy dorri a chasglu ar gyfer gweirgloddiau, parciau, mynwentydd, tiroedd ysgol a lleiniau glas. Mae’n hollbwysig osgoi’r defnydd o chwynladdwyr a gwrtaith.   

Cefn-y-Parc Cemetary Lyn Evans.JPG
Green-winged Orchid (Anacamptis morio) (1) Vaughn Matthews_edited.jpg

Rhywogaethau Cysylltiedig

  • Peiswellt coch (Festuca rubra)

  • Rhonwellt y ci (Cynosurus cristatus)

  • Ceirchwellt melyn (Trisetum)

  • Maeswellt cyffredin (Agrostis capillaris)

  • Crydwellt (Briza media)

  • Llygad Ebrill

  • Yr hesgen oleulas a’r hesgen gynnar ar rai safleoedd

  • Y feillionen hopysaidd (Lotus corniculatus)

  • Y bengaled (Centaurea nigra)

  • Y feillionen goch (Trifolium pratense)

  • Peradyl garw a pheradyl yr hydref (Leontodon hispidus ac autumnalis)

  • Clafrllys gwreidd-dan (Succisa pratensis),

  • Llygad-llo mawr (Leucanthemum vulgare)

  • Rhinanthus minor

  • Ytbysen y waun

  • Y feddyges las

  • Tegeirian brych

  • Sawdl y fuwch (Primula vulgaris)

  • Clafrllys

  • Y bengaled fawr

  • Tresgl (Potentilla erecta)

  • Cribau San Ffraid

  • Gweirlöyn y ddôl

  • Tegeirian y waun

  • Rhywogaethau’r ceiliog rhedyn

  • Cacwn

Astudiaeth Achos
Mynwent Cefn Parc

Cefn-y-Parc Cemetary Lyn Evans.JPG

Safleoedd i’w gweld

  • Mynwent Cefn Parc

  • Comin Llantrisant

  • Mynwent Llanharan

  • Dolydd Glyncornel

  • Parc Pont-y-clun

  • Parc Heddwch

  • Parth Gwyllt Parc Ynysangharad

Dolenni defnyddiol

  • Plantlife Meadows Hub

  • Magnificent Meadows - Managing for Grassland Habitats

  • Magnificent Meadows - Neutral Grasslands

bottom of page