Datganiad Preifatrwydd Gwefan Cynllun Gweithredu dros Natur PNL RhCT
Mae’ch hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn cydnabod eich bod, wrth ddewis darparu gwybodaeth i ni amdanoch chi, yn ymddiried ynom i weithredu mewn ffordd gyfrifol. Mae’r hyn sy’n dilyn yn ymwneud â’r arferion ar gyfer casglu, prosesu a storio gwybodaeth ar gyfer y wefan hon. Mae Cyngor RhCT yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth ac yn gweinyddu’r wefan ar ran Partneriaeth Natur Leol RhCT, felly dylid darllen y wybodaeth hon ar y cyd â Hysbysiad Preifatrwydd Corfforaethol Cyngor RhCT.
​
Y wybodaeth a gasglwn
Pan fydd rhywun yn ymweld â’r wefan hon, byddwn yn casglu gwybodaeth logio safonol a gwybodaeth ddiagnostig. Byddwn yn gwneud hyn er mwyn cael gwybod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o’r wefan ac er mwyn canfod a datrys problemau. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn ffordd na fydd yn enwi neb. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gasglwyd yn y ffordd hon ag unrhyw wybodaeth sy’n dangos pwy yw rhywun o unrhyw ffynhonnell.
​
Os dewiswch lenwi unrhyw un o’n ffurflenni electronig (e-ffurflenni), bydd eich data personol yn cael eu rhannu â Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor RhCT er mwyn iddynt brosesu’ch cais.
​
Sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth
Mae’r holl wybodaeth a gaiff ei mewnbynnu i’n e-ffurflenni yn cael ei throsglwyddo’n ddiogel i’n gweinyddion. Caiff y wybodaeth ei storio yn systemau Cyngor RhCT.
​
Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei phrosesu yn unol â darpariaethau’r ddeddfwriaeth diogelu data. Fodd bynnag, mae’r cyngor o dan ddyletswydd i ddiogelu arian y cyhoedd a gall ddefnyddio’r wybodaeth i ddibenion atal a darganfod twyll.
​
Nid oes unrhyw ffordd i’r cyngor wybod a yw unrhyw berson sy’n darparu gwybodaeth drwy’r wefan hon yn dweud y gwir am bwy ydyw. Rhaid i ni gymryd bod yr holl wybodaeth yn ddilys ac ni ellir ein dal yn atebol am unrhyw gamau a gymerir o ganlyniad i ddibynnu ar y wybodaeth. Os oes gennych unrhyw reswm dros gredu bod rhywun wedi darparu gwybodaeth i’r cyngor gan ddefnyddio’ch hunaniaeth chi, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â’n gwasanaethau cwsmeriaid.
​
Dolenni Allanol
Mae’n bosibl y bydd y wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill, sef gwefannau adrannau llywodraeth a gwefannau sefydliadau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn gymwys i’n gwefan ni yn unig, felly dylech fod yn ymwybodol bob amser eich bod yn symud i wefan arall a dylech ddarllen datganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy’n casglu gwybodaeth bersonol.
​
Newidiadau yn y polisi preifatrwydd hwn
Os bydd unrhyw newid yn y polisi preifatrwydd hwn, byddwn yn rhoi fersiwn wedi’i diweddaru ar y dudalen hon. Drwy edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd, byddwch yn sicrhau eich bod yn ymwybodol bob amser o ba wybodaeth a gasglwn, sut byddwn yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.
​
Cysylltu â ni
Os hoffech gael eglurhad neu wybodaeth ychwanegol am y manylion sydd yn y polisi preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni a byddwn yn falch o ddelio â’ch ymholiad.
​
​