Glaswelltir corsiog yw un o’r cynefinoedd pwysicaf a mwyaf nodweddiadol yn Rhondda Cynon Taf. Fel y mae’r enw yn awgrymu, ceir glaswelltiroedd o’r fath ar briddoedd gwlyb mewn porfeydd caeedig, ar dir comin, mewn gwlyptiroedd gwastad yn yr ucheldir ac ar ochrau dwrlawn y bryniau. Fe’u ceir lle mae priddoedd a thopograffi yn caniatáu i lefelau trwythiad uchel ddatblygu neu lle mae dŵr wyneb yn diferu i lawr llechweddau. Ym mha le bynnag y maent, mae’r cynefinoedd hyn yn adlewyrchu ein hinsawdd wlyb ryfeddol a’r ffaith bod priddoedd heb eu gwella yn bresennol. Y dull rheoli ‘delfrydol’ yw pori dwysedd isel traddodiadol gan wartheg a merlod, er bod y dull torri a chasglu yn gallu bod yn effeithiol hefyd.
Mae’r rhan fwyaf o’r glaswelltiroedd corsiog yn RhCT yn cynnal cyfrannau mawr o laswellt y gweunydd (Molinia caerulea), a/neu rywogaethau Brwyn (Juncus spp.). Heb fanylu gormod, gellir diffinio ein cynefinoedd glaswelltir corsiog ar sail nifer bach o gategorïau’r Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC). Mae glaswelltiroedd lle ceir brwyn yn bennaf yn perthyn i lystyfiant corsydd M23, ‘briwydd y gors a brwyn â blodau meddal a miniog’. Mae glaswelltir glaswellt y gweunydd yn perthyn yn bennaf i’r categori corsydd M25 ‘glaswellt y gweunydd a thresgl y moch’ er bod gweirglodd gorsiog M24 ‘glaswellt y gweunydd ac ysgallen y ddôl’ i’w gael yn aml os yw’r glaswellt yn llawn dŵr ‘tra-fasig’. Mae’r prif fathau o laswelltir corsiog yn digwydd ar y cyd ag ardaloedd o fawnog, gweundir gwlyb a sych a glaswelltir niwtral neu asidig. Yr enw ar y brithwaith cynefinoedd ardderchog hwn, sydd mor nodweddiadol o dde Cymru, yw ‘porfa rhos’. Mae’r rhain ymysg y cynefinoedd gorau a phwysicaf yng Nghymru.
Glaswelltir corsiog lle ceir glaswellt y gweunydd yn bennaf yw’r un mwyaf nodweddiadol yn y de o bosibl. Mae’r cynefinoedd hyn yn gyfoethog o ran eu blodau gwyllt, yn cynnwys tresgl y moch, tamaid y cythraul, dant y pysgodyn, melog y cŵn, grug croesddail, tegeirian brych y rhos, llafn y bladur, erwain, cracheithin, ysgall y gors a llysiau’r angel. Mewn gweirgloddiau corsiog M24, ceir yr ysgallen y ddôl hardd, triaglog y gors, a llystyfiant sy’n cynnwys llawer o hesg gan gynnwys hesg llwydlas, hesg y chwain a hesg melynllwyd.
Mae glaswelltir lle ceir brwyn yn bennaf yn amrywiol iawn ei gyfansoddiad ac o ran cyfoeth ei rywogaethau. Ynghanol brwyn, ac ynghanol glaswellt y gweunydd hefyd yn aml, ceir briwydd y gors a physen-y-ceirw fawr bob tro. Mae amrywiaeth fawr o flodau ychwanegol sy’n nodweddiadol o laswelltiroedd corsiog, yn cynnwys llysiau’r angel, erwain, carpiog y gors, cycyllog, llafnlys bach, mathau o degeirian y gors, a gold y gors.
Y prif lystyfiant ar rai glaswelltiroedd corsiog yw clystyrau trwchus a thal o erwain, yn aml gyda thriaglog, byddon chwerw, a charpiog y gors. Ar y llaw arall, ar lannau nentydd ac ymysg y twffiau ar laswelltiroedd corsiog, ceir dau flodeuyn gwyllt arbennig o hardd, sef blodau glas perffaith a chain y clychlys dail eiddew a’r ddeilen gron Cernyw brin.
Yn ddiweddar iawn y cafwyd cydnabyddiaeth i bwysigrwydd glaswelltiroedd corsiog y DU o ran gwarchod natur. Maent wedi’u cydnabod bellach yn gynefinoedd o bwys Ewropeaidd, ac mae Ynysoedd Prydain (a Chymru yn benodol) yn cynnal cyfran sylweddol o’r adnodd byd-eang. Mae Ardal Canolbarth y Cymoedd yn cynnal arwynebedd sylweddol o laswelltir corsiog gan fod yma tua 2600 ha o borfeydd glaswellt y gweunydd a brwyn (Jones, et al, CCW 2003) sef ~5% o gyfanswm yr adnodd yn y DU. Cofnodwyd mwy na 1500 ha o laswelltir corsiog porfeydd glaswellt y gweunydd a brwyn yn y Fwrdeistref Sirol, a Rhondda Cynon Taf sydd â’r dwysedd uchaf o’r cynefin hwn yng Nghymru o blith yr holl ardaloedd awdurdod lleol, sef 4 ha am bob cilomedr sgwâr.
Mae glaswelltiroedd corsiog RhCT yn gynefinoedd cyfoethog iawn eu ffawna. Maent yn cynnal tirwedd o bwys rhyngwladol ar gyfer y glöyn byw britheg y gors prin, sy’n rhywogaeth a warchodir, a’r gwalch-wyfyn gwenynaidd ymyl gul sy’n brinnach byth. Mae’r glöyn britheg berlog fach, gwyfyn y wensgod fawr, y chwilen timarcha tenebricosa, y wenynen bombus humilis a’r wenynen clafrllys bach prin ymysg y nifer mawr o bryfed arbennig. Gellir mesur maint y cyfoeth o bryfed ar laswelltiroedd corsiog yn ôl y niferoedd mawr o bryfed cop crwn sy’n gwneud eu gweoedd rhwng y twffiau tal. Mae llystyfiant y twffiau yn gynefin rhagorol ar gyfer chwilota am fwyd ac yn gysgod i famaliaid bach, yn cynnwys llygod yr yd, sydd â chysylltiad arbenigol â glaswelltir corsiog/gwlyptir yn RhCT. Mae’r rhain yn gynefinoedd rhagorol i adar ac maent yn fannau nythu i freision cyrs a chorhedyddion y waun, yn fannau hela i’r cudyll coch a’r dylluan wen ac yn fannau gaeafu i’r gïach gyffredin a’r cyffylog. Mae pyllau dŵr a ffosydd yn cynnal y llyffant melyn ac mae nadredd y gwair a gwiberod yn fwy cyffredin nag yr ydym yn tybio.
Mae’n bwysig bod glaswelltir corsiog yn cael ei reoli mewn ffordd gydnaws fel na fydd safleoedd yn cael eu colli drwy ymlediad mieri a phrysgwydd gwlyb ac fel y ceir amodau sy’n caniatáu i’r fflora a’r ffawna ffynnu. Y dull rheoli delfrydol yw pori dwysedd isel gan wartheg a merlod. Lle nad yw hynny’n bosibl, mae rheoli drwy dorri a chasglu yn effeithiol hefyd. Ceir bygythiadau drwy’r amser i laswelltiroedd corsiog o ganlyniad i dirlenwi a draenio. Weithiau bydd pyllau dŵr yn cael eu creu ar gyfer bywyd gwyllt mewn glaswelltiroedd corsiog: er bod y bwriad yn un da, mae’r gweithgarwch hwn yn achosi dinistr ecolegol ac yn dangos diffyg cydnabyddiaeth gan y cyhoedd i bwysigrwydd y cynefin blaenoriaethol gwerthfawr hwn. Felly mae angen parchu glaswelltir corsiog a’i drysori fel cynefin pwysig dros ben, yn gynefin rydym yn ffodus iawn o’i gael yn rhan o’r dirwedd a’r fioamrywiaeth o’n cwmpas.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Glaswellt y gweunydd Molinia caerulea
-
Brwyn Juncus spp.
-
Tamaid y cythraul Succisa pratensis
-
Erwain Filipendula ulmaria
-
Cracheithin
-
Ysgall y gors Cirsium palustre
-
Ysgall y ddôl Cirsium dissectum
-
Triaglog y gors
-
Hesg llwydlas Carex panicea)
-
Hesg y chwain C. pulicaris
-
Hesg melynllwyd C. hostiana
-
Llysiau’r angel Angelica sylvestris
-
Carpiog y gors Lychnis flos-cuculi
-
Rhywogaethau tegeirian y gors Dactylorhiza spp.
-
Marchrawnen y gors Equisetum palustre
-
Mintys y dŵr Mentha aquatica
-
Britheg y gors
-
Deilen gron Cernyw
-
Clychlys dail eiddew
-
Y fritheg fach berlog
-
Gwyfyn y wensgod fawr
-
Mursen las Penfro
-
Gwalch-wyfyn gwenynaidd ymyl gul
-
Y troellwr bach
-
Telor helyg
-
Gïach gyffredin
-
Cyffylog
-
Llygoden yr yd
-
Neidr y gwair
Astudiaeth Achos
Cors Pant
Safleoedd i’w gweld
-
Cors Pant
-
Comin Llantrisant
Dolenni defnyddiol
-
Magnificent Meadows - Managing for Grassland Habitats
-
The Wildlife Trusts - Purple moor-grass and rush pasture