Afonydd a Nentydd
Fel y mae ei henw yn awgrymu, mae systemau afonydd Rhondda Cynon Taf yn nodweddion hanfodol yn y dirwedd ac o ran bioamrywiaeth. Bro afonydd a nentydd yw hon ym mynwes Cymoedd y De. Mae’r cyrsiau dŵr hyn yn amrywio o ddyfroedd byrlymus y nentydd dwfn a chul yn yr ucheldir sy’n llifo i afonydd chwim Rhondda, blaenau Taf a Chynon, i’r llifoedd arafach drwy byllau a beisleoedd yn y rhannau o afonydd Cynon, Taf ac Elái sy’n agosach i’r iseldir. Mae afonydd RhCT yn fyr yn ddaearyddol gan fod pellter o ddim ond tri neu bedwar deg o filltiroedd rhwng eu tarddleoedd a Môr Hafren. Ceir amrediadau mawr yn eu llif am fod eu lefelau’n codi’n uchel mewn ychydig oriau ar ôl cyfnodau hir o law neu ar ôl glawio dwys, ac wedyn yn gostwng yr un mor gyflym wrth i’r ffrynt o Fôr Iwerydd neu storom Awst fynd heibio.
Mae natur gyfnewidiol yr afonydd a nentydd yn cael effaith sylweddol ar lifoedd afonydd, ac ar gynefinoedd ar lannau ac ymylon afonydd. Mae unrhyw bethau sy’n byw rhwng y lefelau dŵr hyn yn gorfod addasu i amodau eithafol o’r fath. O ganlyniad yn rhannol i’r amodau eithafol hyn, nid yw fflora dyfrol ein nentydd ac afonydd yn un cyfoethog, er ein bod wedi mwynhau gwylio llif y miloedd o flodau gwynion crafanc y dŵr ar wyneb afon Taf ym Mhontypridd dros yr hafau diwethaf. Ni welir ymylon eang yn codi ar lannau’r afonydd hyn fel a wneir ar afonydd sy’n agosach i’r iseldir, ac mewn nifer o leoliadau trefol, mae glannau’r afonydd ar ffurf cloddiau a waliau artiffisial a godwyd i atal llifogydd. Er hynny, mewn mannau eraill, mae’r nentydd ac afonydd yn cynnal glannau coediog a choetiroedd gwlyb, glaswelltiroedd hyfryd ar y gorlifdir a gwerni a mignenni.
Mae’r rhwydwaith o gyrsiau dŵr bach a mawr yn gweithio fel coridor ar gyfer symudiadau bywyd gwyllt drwy’r Fwrdeistref Sirol, yn cysylltu safleoedd y gwlyptir ac yn dod â bywyd gwyllt i ganol ein trefi a phentrefi. Mae afonydd a nentydd yn darparu coridorau pwysig hefyd i symudiadau bywyd gwyllt ar draws ffiniau awdurdodau unedol, gan gysylltu bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf â gweddill Morgannwg.
 
Yr adferiad yn afonydd a nentydd RhCT yw un o’r gwelliannau amgylcheddol mwyaf yn yr hanner canrif diwethaf. Roedd afonydd a nentydd diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif yn llawn llygredd ac yn ddifywyd. Mae dirywiad y diwydiannau trwm a dyfodiad deddfwriaeth amgylcheddol gryfach wedi arwain yn uniongyrchol at lanhau’r afonydd ac at adfer fflora a ffawna. Er hynny, oherwydd y posibilrwydd o gael cyfnodau o law dwysach, a’r hanes o gysylltiadau diffygiol, parhau y mae’r broblem o ollwng carthion i’n systemau afonydd o bryd i’w gilydd. Yn ogystal â hyn, mae clymog Japan, Jac y Neidiwr a rhywogaethau eraill o blanhigion goresgynnol anfrodorol yn parhau i ymledu gan achosi bygythiad neilltuol i gynefinoedd glannau’r afon. 
 
Mae dychweliad y dyfrgi, yr eog a brithyll y môr yn cael ei weld yn fuddugoliaeth i afonydd RhCT, er bod adroddiadau diweddar am eogiaid a brithyllod y môr yn afonydd Taf ac Elái yn awgrymu bod cynnydd y rhywogaethau hyn wedi arafu. Mae bronwen y dŵr a’r siglen lwyd yn adar cyffredin ar afonydd a nentydd sy’n elwa o gymunedau cyfoethog i infertebratau dyfrol, a cheir nythfeydd o wenoliaid y glennydd ym mheipiau draenio waliau’r afonydd yn ein trefi. Gwelir gleision y dorlan yn aml yn y gaeaf er bod eu cyfleoedd i nythu yn brinnach oherwydd newidiadau yn lefelau’r dŵr, ac mae’r hwyaden ddanheddog a’r fulfran hefyd yn adar nodweddiadol yn y gaeaf. Rydym yn gwybod bellach fod llygod y dŵr yn defnyddio nentydd sy’n gysylltiedig â mawnogydd yn yr ucheldir mewn rhannau o RhCT.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Dyfrgi
-
Eog
-
Gwas neidr eurdorchog
-
Aeshna cyanea
-
Mulfran
-
Bronwen y dŵr
-
Glas y dorlan
-
Y siglen lwyd
-
Pibydd y dorlan
-
Neidr y gwair
-
Gwennol y glannau
-
Cwcwll y mynach
-
Rhywogaethau pryfed yr afon
-
Coed gwern
-
Helyg
-
Crafanc y dŵr
-
Rhywogaethau goresgynnol anfrodorol, yn cynnwys Jac y Neidiwr a chlymog Japan
Astudiaeth Achos
Afon Cynon – Afon i bawb
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yn cynnal prosiect ar hyn o bryd ar Afon Cynon. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd a Chronfa Amgylcheddol Dŵr Cymru. Nod y prosiect yw gwella a chynyddu bioamrywiaeth afon Cynon drwy dair prif elfen: Addysg, Gwirfoddoli, ac Ymgysylltu â’r Gymuned mewn ffordd ystyrlon.
​
Addysg – Rydym eisoes wedi ymgysylltu â mwy na phum cant o blant ysgolion cynradd yn RhCT mewn gweithdai am afonydd a’u bywyd gwyllt. Rydym hefyd yn gobeithio cynnal prosiect Llysywod yn yr Ystafell Ddosbarth yn 2022. Hefyd hyfforddwyd 13 o wirfoddolwyr ar gyfer Cymhwyster Lefel Un mewn Adfer Afonydd.
​
Gwirfoddoli – Rydym yn cynnal sesiynau gwirfoddoli rheolaidd i hyrwyddo ein gwaith. Cynhelir gweithgareddau glanhau afonydd a chodi sbwriel drwy’r flwyddyn. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau i wirfoddolwyr ar ddiwedd yr haf ym mhob rhan o ddalgylch afon Cynon i reoli ymlediad Jac y Neidiwr ar nifer o safleoedd. Rydym wedi canolbwyntio wrth weithio gyda gwirfoddolwyr yn 2020/21 ar sefydlu ein prosiect afonydd CAMPUS, lle mae gwirfoddolwyr yn dysgu drwy wyddoniaeth dinasyddion i gic-samplu mewn afonydd er mwyn canfod rhywogaethau o bryfed yr afonydd.
​
Ymgysylltu â’r gymuned – Rydym wedi cynnal cyfres o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer ymgysylltu ystyrlon â’r gymuned ym mhob rhan o ddalgylch afon Cynon er mwyn denu pobl leol yn ôl i ymddiddori yn yr afon a’i bywyd gwyllt. Rydym wedi cynnal Diwrnodau Hwyl i’r Teulu, Nosweithiau Ystlumod a Theithiau Cerdded Bywyd Gwyllt y Gaeaf lle gwelsom ddyfrgwn yn ystod y dydd ar lannau afon Cynon.
Safleoedd i’w gweld
-
Unrhyw afon neu nant yn RhCT lle mae llwybr troed neu ffordd arall i gael mynediad. Er enghraifft, Rhondda Fawr ym Mlaenrhondda neu’r Gelli, neu Rondda Fach ym Maerdy, neu lle mae’r ddwy afon yn uno ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Porth. Glannau afon Cynon ger Canolfan Hamdden Sobell, neu yn Aberpennar. Afon Taf ym Mharc Pontypridd neu Barc Ffynnon Taf. Afon Elái yn Nhonysguboriau neu ym Mhont-y-clun.
Dolenni defnyddiol