
Lleiniau ymyl y ffordd
Lleiniau ymyl y ffordd yw’r stribedi o dir sydd rhwng ymyl y ffordd a’r ffens, perth neu wal sy’n gyfagos iddynt. Yng Nghymru, mae lleiniau o’r fath yn cynnwys tua 10,000 hectar o dir ac maent yn llochesi pwysig i fywyd gwyllt, yn enwedig pryfed peillio. Er eu bod yn gynefinoedd gwerthfawr ar eu pen eu hunain, mae lleiniau ymyl y ffordd hefyd yn llwybrau llinol pwysig yn y dirwedd, yn cysylltu darnau o gynefinoedd a fyddai ar wahân fel arall ac yn caniatáu i rywogaethau symud yn ddirwystr o fewn y dirwedd.
​
Mae cannoedd o filltiroedd o ffyrdd yn croesi’r Fwrdeistref Sirol. O fewn eu cwrtil ceir cloddiau, coed, lleiniau glas a chylchfannau. Maent yn arwynebedd o laswelltir, prysgwydd a pherthi sydd gyda’i gilydd yn adnodd pwysig ar gyfer bioamrywiaeth. Mae’r lleiniau ymyl y ffordd gorau yn gallu cynnal llystyfiant gweirglodd hirsefydlog a chyfoethog ei rywogaethau, glaswelltir calchaidd eilaidd amrywiol, clystyrau grug toreithiog, llus, prysgwydd cymysg a choetir newydd.
Mae ffyrdd yn rhwystrau rhag symud, maent yn effeithio ar batrymau draenio ac yn creu llygredd dŵr, aer a sŵn. Maent wedi peryglu a dinistrio nifer mawr o safleoedd bywyd gwyllt gwerthfawr. Er hynny, os cânt eu rheoli’n briodol, gall eu hymylon fod yn adnodd gwerthfawr i fywyd gwyllt gyda llawer o botensial. Rhoddwyd mwy o bwys ar gamau i reoli lleiniau ymyl y ffordd er mwyn bioamrywiaeth yn y blynyddoedd diwethaf a bellach mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi ar reoli glaswelltir a blodau gwyllt ac mae’n rheoli arwynebedd cynyddol drwy ddulliau torri a chasglu er mwyn bioamrywiaeth. Ceir cyfleoedd i ledaenu’r arferion da hyn ar draws yr ystad gyhoeddus, gan gynnwys ysbytai, sefydliadau addysg, Trafnidiaeth Cymru, cynghorau cymuned etc., yn ogystal ag ehangu rhaglen y Cyngor. Mae lle hefyd i hyrwyddo’r dull hwn mewn gerddi preifat, gyda busnes a gweithredwyr masnachol a rheolwyr tir eraill. Mater pwysig arall yw rheoli coed ar leiniau ymyl y ffordd. Mae hyn yn dod â buddion mawr i fioamrywiaeth ac yn gwella apêl a golwg gyffredinol ein ffyrdd.


Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Pysen y ceirw
-
Y bengaled ddu
-
Llygad-llo mawr
-
Capiau cwyr
-
Mathau o degeirian
-
Cacwn
-
Y glesyn cyffredin
-
Cudyll coch
-
Gwalch glas
-
Y fadfall
-
Madfall ddŵr gyffredin
-
Llyffant dafadennog
-
Llyffant melyn
-
Neidr ddefaid
-
Neidr y gwair
-
Bombus humilis, math o wenynen
-
Curculio betulae, math o widdonyn
-
Forficula lesnei pryf clustiog Lesne
-
Globiceps fulvicollis lleuen mirid
-
Oxystoma cerdo, math o widdonyn
-
Scolopostethus puberulus, lleuen y llawr
-
Sitona waterhousei, math o widdonyn
-
Stygnocoris rusticus, lleuen y llawr
Astudiaeth Achos
Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys
Yn 2017 cynhaliwyd arolwg o infertebrata ar leiniau ymyl y ffordd ledled ardal RhCT. Roedd yr arferion rheoli traddodiadol ar gyfer y lleiniau hyn wedi’u newid o’r rhai traddodiadol (h.y. eu torri’n aml) i rai mwy sensitif er budd y pryfed peillio (h.y. eu torri’n llai aml a chasglu’r deunydd a dorrwyd). Pwrpas yr arolwg hwn oedd cael gwybod pa rywogaethau o bryfed peillio (ac infertebratau eraill) sy’n elwa o’r cynefinoedd newydd a oedd ar gael o ganlyniad i’r dulliau mwy sensitif o reoli lleiniau ymyl y ffordd.
​
Un o’r rhain oedd Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys (A473) a agorwyd 2010 sy’n cysylltu Llantrisant a Threfforest, gan osgoi Pentre’r Eglwys, Llanilltud Faerdref a Thon-teg. Ceir lleiniau llydan ar hyd rhannau helaeth o’r ffordd osgoi, a adeiladwyd ar nifer o erwau o dir llain las. Cafwyd bod y lleiniau ymyl y ffordd hyn yn gyfoethog eu planhigion, yn cynnwys amrywiaeth o lystyfiant, ac y gellir eu dynodi’n gyffredinol yn gynefinoedd glaswelltir corsiog.
​
Cofnodwyd cyfanswm o 145 o rywogaethau infertebrata ar leiniau ymyl y ffordd Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys mewn amrywiaeth fawr o grwpiau infertebrata, a’r grwpiau Coleoptera (24 o rywogaethau), Diptera (26 o rywogaethau) a Hemiptera (52 o rywogaethau) yn arbennig o niferus. O’r 145 o rywogaethau infertebrata a nodwyd, roedd pedair a oedd o ‘bwysigrwydd cadwraeth’ (h.y. rhywogaethau y barnwyd eu bod yn gyfyngedig yn ddaearyddol, yn anfynych neu’n brin, a/neu wedi’u rhestru o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn Rhywogaethau Pwysig Iawn yng Nghymru).
​
Roedd yr arolwg hwn yn dangos, er mai’r bwriad yn aml wrth reoli lleiniau ymyl y ffordd yw hyrwyddo fflora amrywiol er budd pryfed peillio, ei bod yn glir o ganlyniadau’r astudiaeth hon fod amrywiaeth fawr o infertebratau eraill yn elwa hefyd. Nodwyd bod cyfanswm o 130 o rywogaethau infertebrata a oedd yn cael eu cysylltu â phlanhigion. Yn ogystal â darparu neithdar a phaill i infertebratau, mae planhigion yn darparu amrywiaeth fawr o adnoddau eraill fel deunydd planhigion byw a marw. Felly mae’n debygol y bydd camau i hybu ffawna planhigion amrywiol ar leiniau ymyl y ffordd yn dod â budd mawr i fwyafrif yr infertebratau sy’n defnyddio’r safleoedd hyn. Er mai rhywogaethau cyffredin ac eang eu dosbarthiad fydd yn elwa fwyaf o ddulliau cydnaws o reoli lleiniau ymyl y ffordd ar gyfer pryfed peillio, bydd rhywogaethau arbenigol yn elwa hefyd. Nodwyd o leiaf wyth rhywogaeth o ‘bwysigrwydd cadwraeth’ ar y lleiniau ymyl y ffordd hyn. Roedd y rhain yn cynnwys pum rhywogaeth anfynych ar lefel genedlaethol (Nb) ac un rhywogaeth Adran 7. Felly bydd yn bwysig parhau i reoli’r lleiniau ymyl y ffordd hyn er mwyn gwarchod y rhywogaethau hyn sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Drwy ymestyn y camau rheoli i gynnwys lleiniau ymyl y ffordd eraill nad ydynt yn cael eu rheoli ar hyn o bryd, gellir sicrhau budd ychwanegol i’r rhywogaethau hyn drwy ddarparu cynefinoedd ychwanegol.

Cymryd rhan
-
RCT Wildflower Grassland Management Policy
-
BugLife - Managing Road Verges for Pollinators
-
PlantLife (2019) - Road Verges Report