top of page

Mae prysgwydd yn gynefin coetir pwysig iawn. Er bod angen gwaith caled gan gadwraethwyr yn aml i atal glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau rhag diflannu dan goed helyg a drain duon ymledol, mae hyn yn fwy o arwydd o brinder y math o laswelltir nag o ddyfarniad ynghylch gwerth cadwraeth y prysgwydd. Mae’r gwahanol fathau a ffurfiau o dir prysgwydd yn RhCT yn adnodd cynefinoedd pwysig. Ar ffriddoedd ar ochrau’r cymoedd, mae’r clystyrau agored o eithin a drain duon, a’r llennych o laswelltir a borwyd gan gwningod sydd rhyngddynt, yn werthfawr dros ben fel cynefin i infertebratau, ymlusgiaid ac adar nythu.  Mae’r clystyrau o brysgwydd helyg yn gynefin gwych i infertebratau, yn gyforiog o neithdar yn y gwanwyn ac yn gartref yn yr haf i nifer dirifedi o larfâu gwyfynod a llifbryfed bwyteig. Mae prysgwydd drain duon ymledol yn gallu achosi problemau wrth reoli tir. Er hynny, gallent gynnig cynefin i’r glöyn prin y brithribin brown, a allai gael ei ddarganfod yn y dyfodol yn rhywle yn RhCT.  

Berry Wood RR.JPG
Dunnock RR.jpg

Rhywogaethau Cysylltiedig

Nid yw cyfansoddiad y rhywogaethau planhigion yn nodwedd sy’n diffinio prysgwydd gan mai’r strwythur sy’n diffinio’r cynefin hwn. Fodd bynnag, ceir rhai o’r rhywogaethau a restrwyd isod mewn cynefinoedd prysgwydd. 

  • Prysgwydd helyg

  • Drain duon

  • Drain gwynion

  • Eithin

  • Y fwyalch

  • Y fronfraith

  • Llwyd y gwrych

  • Cwningod

  • Ymlusgiaid

  • Amffibiaid

  • Gweirlöyn y perthi

  • Draenogod

Safleoedd i’w gweld

  • Chwarel Llanhari – prysgwydd calchfaen

  • Cefn yr Hendy

  • Parc Gwledig Cwm Dâr

Dolenni defnyddiol

bottom of page