top of page
Woodland (9).JPG

Coetir Eilaidd

Mae llawer iawn o goetiroedd eilaidd hefyd yn RhCT, sef coetiroedd sydd wedi dechrau tyfu’n fwy diweddar (ers llai na 100 mlynedd ac yn ddiweddarach na hynny yn aml). Mae coed ynn, masarn a bedw arian yn nodweddiadol mewn coetiroedd o’r fath, ond yn RhCT mae coed dewr hefyd yn cytrefu’n gynnar ar dir agored. Ceir drain gwynion a drain duon yn aml gyda’i gilydd ac, ar dir gwlypach, ceir coed gwern, bedw llwyd a helyg. Mae gallu coed i gytrefu yn dibynnu ar y mathau o bridd, y lleoliad ac agosrwydd y ffynhonnell hadau. Rydym wedi dysgu llawer am brosesau datblygu naturiol mewn coetiroedd drwy arsylwi ar gytrefu mewn coetiroedd newydd. Er y bydd coed ynn yn aml yn cytrefu o dan orchudd o goed derw, a hynny’n galw am ymyriadau eithafol (a dibwrpas yn ôl rhai) i hyrwyddo eginiad coed derw, mae’n amlwg, os ceir yr amodau priodol (sy’n cynnwys tir agored yn ôl pob golwg), y bydd coed derw yn tyfu’n llwyddiannus. Er bod coed derw yn amharod yn aml i adfywio mewn coedwigoedd derw, mae caeau a adawyd sy’n agos i goetiroedd derw yn gallu adfywio fel coetiroedd derw newydd.  Efallai y dylid ystyried y posibilrwydd bod y dderwen yn rhywogaeth arloesi.

 

Mae gallu coetiroedd i adfywio a chytrefu’n naturiol yn gryf iawn yn RhCT. Os gadewir tir agored heb ei reoli am ddim ond ychydig o dymhorau, bydd yn adfywio’n gyflym gyda thwf prysgwydd agored a choed ifanc, yn deillio o berthi cyfagos a hen goetiroedd. O safbwynt bioamrywiaeth, mae adfywio naturiol o’r fath gan goed yn well o lawer na’r broses artiffisial a rhagnodedig o blannu coed, gyda’i ôl troed carbon, ei thiwbiau plastig a’r posibilrwydd o fewnforio a lledaenu clefydau coed. Gwaetha’r modd, nid yw cytrefu ac adfywio naturiol gan goed yn ‘cyfrif’ ar hyn o bryd ar gyfer targedau cenedlaethol ar greu coetiroedd. Mae’n amlwg bod y diystyru hwn o ffyrdd naturiol o ehangu coetiroedd yn gamgymeriad sydd angen ei gywiro. Os na wneir hynny, mae perygl mawr y bydd y pwysau i gyrraedd targedau cenedlaethol ar gyfer y gorchudd coetiroedd yn galw, ar lefel RhCT, am dargedu safleoedd lle mae gorchudd cynefin lled-naturiol sydd yn bwysig ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaethol eraill.   

Woodland (4).JPG
Bombus_monticolaW14.jpg

Rhywogaethau Cysylltiedig

  • Coed ynn

  • Masarn

  • Bedw arian

  • Drain gwynion

  • Drain duon

  • Coed gwern

  • Bedw llwyd

  • Helyg

  • Coed derw

Dolenni defnyddiol

bottom of page