Ar ymylon yr ucheldir asidig ac ar lethrau Cymoedd Rhondda a Chynon ceir coetiroedd derw. Mae coed derw yn elfen nodweddiadol mewn coetiroedd yng Nghymru ac maent yn haeddu sylw arbennig. Yma bydd derw mes coesynnog Cymreig nychlyd yn dal eu gafael mewn a rhwng clogfeini o dywodfaen pennant noeth. Mae coed ynn mawr a hynafol, bedw llwyd a choed afalau surion hefyd yn bresennol yn aml, a cheir coed gwern mewn mannau gwlyb a dwrlawn.
Yn aml ceir is-haenau sydd heb fod yn amlwg, yn rhannol am fod llawer ohonynt yn cael eu pori, a dim ond ambell griafolen, celynnen neu gollen sy’n bresennol. Mae fflora nodweddiadol y llawr yn laswelltog gyda maswellt rhedegog (Holcus mollis) a brigwellt main (Deschampsia flexuosa), ond ceir grug a llus hefyd yn aml, yn ffurfio carpedi trwchus (mewn rhai mannau), ac mae suran y coed, chwerwlys yr eithin, fioledau, llysiau Steffan, bysedd y cŵn a chlychau’r gog i gyd yn flodau gwyllt nodweddiadol. Mae amgylcheddau llaith y coetiroedd gwlyb hyn yn yr ucheldir yn creu amodau delfrydol ar gyfer ein fforestydd glaw tymherus (y mae gorllewin Cymru yn enwog amdanynt) gyda boncyffion a changhennau wedi’u cuddio’n aml gan fwsoglau, llysiau’r afu a chennau, a gerddi rhedyn gwych y coetiroedd yn aml yn brif elfen yn fflora’r llawr. Mae’r coedwigoedd hyn yn bwysig hefyd oherwydd y ffyngau hydrefol sydd ynddynt.
Rhywogaethau Cysylltiedig
-
Derw
-
Llus
-
Maswellt rhedegog Holcus mollis
-
Brigwellt main Deschampsia flexuosa
-
Grug
-
Suran y coed
-
Mwsoglau
-
Llysiau’r afu
-
Rhedyn
-
Brenin gwargrych bronddu
-
Tingoch
-
Telor y coed
Astudiaeth Achos
Gwarchodfa Natur Leol Glyncornel
Mae Gwarchodfa Natur Leol Glyncornel yn frithwaith cymysg o fathau coetir, ac mae’n arbennig o bwysig oherwydd presenoldeb coed derw’r ucheldir, coedlannau o hen goed cyll a choetir gwern. Roedd wedi goroesi’r chwyldro diwydiannol ar dir cartref rheolwr y gwaith glo ond, yn yr un modd â choetiroedd yng ngweddill Cwm Rhondda, cafodd ei phori’n drwm. Mae wedi cael ei gwarchod ers talwm fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Leol.
​
Pan oedd yn cael ei phori, gan adael is-haen o ddim ond ychydig o brysgwydd o dan y coed derw a gwern, roedd gwarchodfa Glyncornel yn gartref i’r triawd arferol o adar cân yng nghoetiroedd Cymru, y brenin gwargrych bronddu, y tingoch a thelor y coed. Roedd yr adar hyn yn bwydo ar y llawr ac felly’n hoffi’r tir moel ac agored. Gwelwyd bod pori coetir gan ddefaid, a oedd gynt yn cael ei ystyried yn groes i reolaeth dda ar goetiroedd, yn arfer addas ar gyfer y rhywogaethau hyn. Fodd bynnag, mae niferoedd y tair rhywogaeth hyn, a’r safleoedd lle maent i’w cael, wedi gostwng yn sylweddol yn RhCT. Mae’n bosibl bod y dirywiad yn ganlyniad i ryw raddau i newidiadau amgylcheddol ar eu llwybrau mudo neu eu tiroedd gaeafu yn Affrica, ond mae hefyd yn ganlyniad i golli tir agored yn ein coetiroedd.
​
Felly mae hwn yn gyfyng-gyngor cyffredin wrth reoli coetir. O ganlyniad i gau da byw allan o warchodfa Glyncornel, cafwyd adfywio naturiol helaeth ac mae is-haen gymhleth o brysgwydd wedi datblygu. Mae’r nodweddion coetir, a oedd yn rheswm dros ei ddynodi’n SoDdGA, mewn cyflwr ffafriol. Mae’r ffawna adar wedi ymateb hefyd, ac mae rhan helaeth o’r coetir bellach yn cynnal cymysgedd o rywogaethau adar sy’n fwy nodweddiadol o goetir yr iseldir, gyda phoblogaethau nythu mawr o rywogaethau fel y fwyalch, y robin goch, y siff-siaff a’r telor penddu. Fodd bynnag, er bod teloriaid y coed wedi dal eu tir yn y rhannau mwy serth lle mae’r haen isaf yn agored o hyd, nid yw’r brenin gwargrych bronddu na’r tingoch yn nythu yma bellach. Mae hyn yn dangos pa mor anodd yw cydbwyso buddiannau gwahanol gynefinoedd a rhywogaethau wrth wneud penderfyniadau ar reoli tir. Mae’r camau i gau da byw allan o goetiroedd er mwyn hybu adfywio naturiol wedi llwyddo ond, mewn coedwigoedd ar dir uwch, mae’r newid hwn yn anfanteisiol i nifer o rywogaethau allweddol. Felly mae’n bosibl y dylid ystyried parhau (neu adfer) y dull o reoli coetiroedd yr ucheldir drwy bori cydnaws ar ddwysedd isel gan dda byw. Mae hon yn enghraifft glasurol o’r ffordd y mae profiad, ac edrych i’r tymor hir, yn gallu newid a dylanwadu ar ein dealltwriaeth o gynefinoedd a dulliau rheoli cynefinoedd. Po fwyaf y byddwn yn dod i ddeall pwysigrwydd ecolegol y cynefinoedd a’r rhyngweithio gan rywogaethau, gorau yn y byd fydd ein penderfyniadau ar reoli.
Safleoedd i’w gweld
-
Pwll Shoni
-
Coedwig Bronwydd
-
Y llwybr rhaeadrau ym Mlaen-cwm, Blaenrhondda